TipDigidol 23: Adfer eich tabiau 📂

Ydych chi erioed wedi cau tab roeddech chi’n ei ddefnyddio ar y pryd? Ydych chi wedi chwilio’n wyllt drwy eich hanes i ddod o hyd i’ch tudalen eto neu hyd yn oed chwilio trwy dudalennau gwe?  

Gyda TipDigidol 23, nid oes rhaid i chi boeni mwyach.  

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi agor unrhyw dabiau yr ydych wedi’u cau drwy ddewis “Ctrl + Shift + T”. Bydd hyn hyd yn oed yn gweithio os ydych wedi cau ffenestr gyfan! 

Edrychwch ar y fideo isod am arddangosiad cyflym.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

6 Awgrym i gael Cyfarfodydd Ar-lein Llwyddiannus 💻

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae cyfarfodydd ar-lein wedi dod yn rhan annatod o fywyd academaidd a phroffesiynol. P’un a ydych yn mynychu darlith rithiol, yn cydweithio ar brosiect grŵp, neu’n mynychu cyfweliad am swydd, mae gwybod sut i lywio cyfarfodydd ar-lein yn effeithiol yn hanfodol i lwyddo.

Yn y blogbost hwn rwyf am rannu rhai awgrymiadau i’ch helpu i lywio cyfarfodydd ar-lein, a gallwch chi hefyd edrych ar y dudalen hon i gael cwestiynau Cyffredin a chanllawiau hyfforddi ar ddefnyddio MS Teams.

1) Paratowch fel y byddech chi’n paratoi ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb

Mae cyfarfodydd ar-lein yn darparu’r cyfleustra o beidio â gorfod gadael eich cartref. Daw hyn gyda’r demtasiwn o neidio allan o’r gwely 5 munud cyn dechrau’r cyfarfod. Er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi’r cyfle gorau i’ch hun lwyddo:

  • Gwisgwch fel y byddech chi’n gwisgo ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb
  • Rhowch ychydig o amser i’ch hun i baratoi’n feddyliol i osgoi teimlo eich bod yn rhuthro.
  • Manteisiwch ar y cyfle i fynd dros eich nodiadau, paratoi unrhyw gwestiynau neu gasglu unrhyw ffeiliau y mae angen i chi eu rhannu.

2) Cysylltwch yn gynnar

  • Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatrys unrhyw broblemau technegol. Profwch eich meddalwedd, rhag ofn y bydd angen ei diweddaru, sy’n golygu y byddai angen i chi ailgychwyn yr ap neu’r ddyfais.
  • Gallwch ddefnyddio’r amser ychwanegol hwn i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r holl nodweddion sydd ar gael yn MS Teams, megis y blwch sgwrsio, codi-eich-llaw, rhannu sgrin a nodweddion capsiynau byw.

3) Curadwch eich deunydd gweledol

Dyma’r prif awgrymiadau ar gyfer gwneud argraff gadarnhaol, broffesiynol:

  • Dewiswch liniadur dros ffôn neu lechen os yw’n bosibl. Gall hyn helpu gyda sefydlogrwydd delwedd, yn ogystal â chaniatáu i chi gymryd nodiadau yn haws. Os na allwch gael gafael ar liniadur, ystyriwch ddefnyddio stand ar gyfer eich dyfais.
  • Gosodwch eich camera ar lefel y llygad, gan y bydd hyn yn arwain at y ddelwedd fwyaf naturiol.
  • Edrychwch ar y camera yn hytrach na’r sgrin wrth siarad, yn enwedig mewn cyfarfodydd grŵp. Dyma’r peth agosaf i gyswllt llygaid ag y gallwch ei gael.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych oleuadau da.
  • Dewiswch y cefndir iawn. Dilynwch y Cwestiwn Cyffredin hwn i gael cyfarwyddiadau ar sut i ychwanegu cefndir rhithiol.
Screenshot showing the various virtual background that can be added in MS Teams
Opsiynau ar gyfer cynnwys cefndir rhithiol yn MS Teams

4) Optimeiddiwch eich sain

  • Dewiswch ystafell â charped a dodrefn, os yw’n bosibl. Bydd hyn yn arwain at sain gynhesach, mwy naturiol heb effaith adlais.
  • Os yw’n bosibl, defnyddiwch glustffonau yn lle’r meicroffon adeiledig i helpu i wella ansawdd eich sain.
  • Diffoddwch eich meicroffon pan nad ydych chi’n siarad i atal unrhyw sŵn diangen.

5) Lleihewch ymyriadau

  • Dewiswch fannau preifat, tawel dros fannau cymunedol neu gyhoeddus.
  • Diffoddwch unrhyw negeseuon hysbysu a rhowch wybod i eraill nad ydych eisiau cael eich tarfu os oes angen.
  • Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi adael y cyfarfod (e.e. os bydd rhywun yn canu cloch y drws), os felly gadewch i’r bobl yn y cyfarfod wybod trwy adael neges fer yn y blwch sgwrsio.

6) Meddyliwch am beth yr ydych yn ei rannu

Os oes angen i chi rannu’ch sgrin yn ystod y cyfarfod, mae bob amser yn well rhannu ffenestr benodol yn hytrach na’ch sgrin gyfan, ond efallai y bydd adegau pan na ellir osgoi hyn. Yn yr achos hwn:

  • Caewch unrhyw dabiau amherthnasol.
  • Mudwch neu gaewch raglenni i osgoi hysbysiadau neu naidlenni eraill. Neu, trowch y modd ‘peidio â tharfu’ ymlaen.
  • Symudwch, ailenwch, neu ddilëwch unrhyw lyfrnodau neu ffeiliau sensitif
  • Ystyriwch ddileu eich cwcis a’ch hanes chwilio os yw’ch porwr yn dangos chwiliadau blaenorol neu’n defnyddio awto-lenwi.

O le i le gydag Ap LinkedIn Learning! 📲 

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Gallwch ddefnyddio LinkedIn Learning i ddatblygu sgiliau amrywiol megis dysgu codio, gwella eich sgiliau Microsoft neu hyd yn oed ddysgu rhywbeth hollol newydd.  Gallwch nawr ddysgu wrth fynd o le i le gydag ap symudol LinkedIn Learning.  Mae hyn yn golygu y gallwch ddysgu ar eich ffôn lle bynnag a phryd bynnag y dymunwch.  Efallai fod gennych egwyl am awr ar y tro ac am ddefnyddio’r amser hwnnw i ddysgu sgil newydd heb lwytho eich cyfrifiadur.  Trwy ddefnyddio ap LinkedIn Learning gallwch barhau â’ch cyrsiau ar eich ffôn a chael cynnwys hawdd a hygyrch.   

Mae LinkedIn Learning ar eich ffôn hefyd yn rhoi’r opsiwn i chi newid eich cyrsiau i ddefnyddio’r nodwedd sain-yn-unig ac felly os ydych chi’n hoff o bodlediadau, gallwch nawr wrando ar eich cyrsiau LinkedIn Learning wrth gerdded neu ymarfer corff.  Mae’r ap hefyd yn rhoi cyfle i chi lawrlwytho cynnwys eich cwrs i’w ddefnyddio oddi ar lein.   Nawr, os ydych chi’n teithio’n bell ar drên gallwch lawrlwytho eich cwrs a gwylio wrth i chi deithio.  Os ydych chi’n gyrru, gallwch lawrlwytho’ch cynnwys a throi at y nodwedd sain-yn-unig i wrando a dysgu wrth yrru!  

Sut ydw i’n defnyddio LinkedIn Learning ar fy ffôn?

  1. Ewch i’ch siop apiau symudol a chwiliwch am ‘LinkedIn Learning’  
  1. Lawrlwythwch yr ap LinkedIn Learning  
  1. Mewngofnodwch gyda’ch manylion PA  
  1. Ewch ati i ddysgu!

Rhagor o gwestiynau?

Am fwy o wybodaeth darllenwch ein blogiau eraill LinkedIn Learning.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu yn cael trafferth cysylltu ag ap LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk). 

TipDigidol 22 – Pinio eich hoff wefan ar eich porwr gwe 📌

Ydych chi’n aml yn teimlo’n rhwystredig wrth orfod sgrolio’n ôl trwy hanes eich porwr i ddod o hyd i’ch hoff dab? Neu hyd yn oed yn cau’r tab yn ddamweiniol a methu cofio’r wefan?

Gyda TipDigidol 22, gallwch nawr binio eich hoff dabiau ar y rhyngrwyd a’i gael yn barod i chi pan fyddwch chi’n agor eich porwr nesaf.

Ar gyfer porwyr rhyngrwyd megis Chrome a Firefox, gallwch ddilyn y camau hyn:

  • Agorwch eich porwr rhyngrwyd a theipio eich URL dewisol
  • Cliciwch fotwm de’r llygoden ar eich tab URL a dewiswch yr opsiwn “Pin

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Strategaethau ar gyfer creu’r gweithle gorau

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Gall yr amgylchedd sydd o’ch cwmpas wrth weithio effeithio’n sylweddol ar ba mor effeithlon yr ydych yn gweithio ac ansawdd eich gwaith. Gall amgylchedd gwaith da hefyd leihau straen; gallwch ddarllen mwy am hyn yma.

Fodd bynnag, gall fod yn heriol argymell amgylchedd gwaith da gan fod hyn yn oddrychol ac yn amrywio o unigolyn i unigolyn. Yn y blogbost hwn, rwy’n ceisio darparu rhai awgrymiadau ac offer a fydd yn eich galluogi i ddod o hyd i’r amgylchedd gwaith gorau.

Lleoliad, Lleoliad, Lleoliad 📍

Dod o hyd i’r lleoliad gorau i gwblhau eich gwaith yn aml yw’r rhwystr cyntaf; gallai’r gofod hwn fod yn ddesg yn eich ystafell neu fwrdd yn y gegin; neu gallech ddefnyddio un o’r mannau niferus ar y campws, fel Llyfrgell Hugh Owen neu Canolfan y Celfyddydau. Neu mae’n bosib bod yn well gyda chi weithio i ffwrdd o’r campws ar rai adegau fel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu mewn caffi. Mae hefyd yn werth ystyried lefel sŵn y lleoliad o’ch dewis, er enghraifft, bydd amgylchedd gwaith yn y Neuadd Fwyd yn dra gwahanol i lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen.

Rwyf bob amser wedi ffafrio amgylchedd gwaith tawelach, ac rwyf bob amser wedi cael trafferth gweithio gartref. Felly, Llyfrgell Hugh Owen fu fy newis erioed; fodd bynnag, rwy’n aml yn gweld bod gwahanol ystafelloedd yn gweddu i’m hanghenion yn well ar ddiwrnodau gwahanol. Er y gall offer benderfynu’n aml pa ofod rwy’n ei ddefnyddio, mae’r sŵn bron bob amser yn dylanwadu ar fy mhenderfyniad.

Manteisio i’r eithaf ar Lyfrgell Hugh Owen 📚

Mae’r map rhyngweithiol hwn o Lyfrgell Hugh Owen yn gwneud dewis lle i weithio’n llawer haws ac mae’n sicrhau nad ydych yn mynd ar goll gan fod nifer fawr o lefydd gwahanol i chi weithio ar draws tri llawr y llyfrgell. Mae rhai lleoedd, megis ystafell Iris de Freitas ar Lefel E, yn ofod gwych ar gyfer gwaith grŵp, ond gall lefel y sŵn godi’n weddol uchel yno, yn enwedig pan fydd yn brysur. Os ydych chi’n edrych am ofod tawelach i weithio ynddo yna mae’n bosib y bydd Lefel F yn well i chi, neu os ydych chi eisiau gofod mwy preifat ar gyfer gwaith unigol neu waith grŵp, mae gan y Llyfrgell ystafelloedd y gellir eu llogi; gallwch archebu rhain a gweld eu hargaeledd ar-lein.

Pŵer sain 🎧

Gall cerddoriaeth a sain fod yn offer pwerus sydd ar gael i chi i’ch helpu wrth weithio os cânt eu defnyddio’n gywir. Yn bersonol, rwyf bob amser wedi gweld fy mod yn gweithio orau wrth wrando ar gerddoriaeth gan ddefnyddio gwasanaethau megis Spotify. Fodd bynnag, awgrymodd aelodau’r Tîm Sgiliau Digidol gymwysiadau sŵn gwyn megis Noisli, y gellir ei ddefnyddio i chwarae patrymau tywydd ac mae hyd yn oed yn cynnig rhestr chwarae a nifer o ddewisiadau addasu.

Mae llyfrau sain hefyd yn opsiwn poblogaidd a gellir eu cyrchu gan ddefnyddio gwasanaethau megis Libby neu Audible. Mae’r rhain yn arbennig o ddefnyddiol wrth gwblhau tasgau mwy cyffredin, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys llawer o ailadrodd.

Eich Rhestr Wirio Hunaniaeth Ddigidol: 5 Awgrym Defnyddiol 💼

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Mae bod yn gyfrifol am eich hunaniaeth ddigidol bellach yn bwysicach nag erioed. Diogelwch eich preifatrwydd, cryfhewch eich diogelwch, a datglowch gyfleoedd proffesiynol posibl gyda’r canllaw byr isod.

1. Adolygu eich Gosodiadau Preifatrwydd

Manteisiwch ar offer sy’n eich galluogi i arddangos eich cynnwys fel ag y mae’n weladwy i’ch cynulleidfa, addasu gosodiadau preifatrwydd ar gyfer negeseuon unigol neu addasu pa wybodaeth y gellir ei defnyddio i chwilio’ch proffil. Gallwch ddarllen yr erthygl hon i gael mwy o wybodaeth am y gosodiadau preifatrwydd sydd ar gael ar y gwefannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd.

2. Rhannu’n Feddylgar

Peidiwch â dibynnu ar breifatrwydd yn unig. Meddyliwch cyn postio, gan ystyried yr effaith bosibl ar eich enw da a’ch diogelwch. Byddwch yn ofalus o gynnwys y gellid ei gamddehongli neu ei ddarllen allan o’i gyd-destun, a pheidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol sensitif yn ddiangen.

3. Monitro’ch Ôl Troed Digidol

Chwiliwch am eich enw ar-lein yn rheolaidd i asesu’r wybodaeth sydd ar gael. Ystyriwch osod rhybuddion ar gyfer cyfeiriadau neu gynnwys newydd sy’n gysylltiedig â’ch enw.

4. Curadu Eich Cynnwys

Aliniwch gynnwys a rennir â’r ddelwedd ddigidol yr hoffech. Dilëwch neu ddiweddarwch wybodaeth sy’n hen neu’n amherthnasol

5. Adeiladu Presenoldeb Ar-lein Proffesiynol

Arddangoswch sgiliau a chyflawniadau ar lwyfannau proffesiynol, gan gynnal tôn a delwedd broffesiynol wrth gyfathrebu. Er enghraifft, gallwch ychwanegu tystysgrif ddigidol ar gyfer cyrsiau LinkedIn Learning rydych chi wedi’u cwblhau ar eich proffil LinkedIn personol. Ar gyfer llwyfannau amlbwrpas, ystyriwch greu proffiliau ar wahân at ddefnydd personol a phroffesiynol. Os oes gennych ddiddordeb mewn adeiladu proffil LinkedIn, mae recordiad o sesiwn LinkedIn y Gwasanaethau Gyrfaoedd ar gael yma.

I gael rhagor o wybodaeth am reoli eich hunaniaeth ddigidol, gallwch wylio Sesiwn y Gwasanaethau Gyrfaoedd ar y pwnc hwn o’r Ŵyl Sgiliau Digidol.

Dechrau pennod newydd – Apiau i helpu eich arferion darllen 📖

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Gyda datblygiad ffonau a thechnoleg mae ap ar gyfer popeth erbyn hyn – gan gynnwys darllen! Fel darllenydd brwd rwy’n hoffi herio fy hun gydag amcanion blynyddol, trafod llyfrau gyda chyd-ddarllenwyr a chyflawni ystadegau darllen. Gyda fy nhri hoff ap darllen – mae hyn i gyd yn bosibl!  

  1. Goodreads  

Mae Goodreads yn wych ar gyfer tracio eich deunydd darllen cyfredol a chadw ar y trywydd iawn ar gyfer eich amcanion darllen.  

  • Gosodwch her ddarllen flynyddol i chi’ch hun a bydd Goodreads yn dweud wrthych a ydych chi ar y trywydd iawn. 
  • Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd. 
  • Cewch fathodyn os byddwch yn cyrraedd eich nod. 
  • Gallwch weld llyfrau yr ydych wedi’u darllen yn y blynyddoedd diwethaf. 
  • Gallwch greu silffoedd darllen ar gyfer eich anghenion megis “eisiau darllen”. 
  • Sganiwch gloriau llyfrau yn hytrach na chwilio amdanynt. 
  • Darganfyddwch lyfrau newydd yn seiliedig ar eich darlleniadau diweddar, cyhoeddiadau newydd a llyfrau sy’n trendio.  

Read More

TipDigidol 21: Copïo a gludo cynnwys yn Word heb wneud smonach o’ch fformatio 📃

Ydych chi erioed wedi copïo a gludo cynnwys o weddalen neu ddogfen arall i ddogfen Word newydd a chanfod bod hyn yn gwneud smonach o’ch fformatio? Yn ffodus, mae dewisiadau ychwanegol ar wahân i’r opsiwn gludo sylfaenol (ctrl+v) a all helpu i ddatrys hyn!

Dechreuwch drwy ddewis lle’r hoffech ludo eich cynnwys a chliciwch fotwm de’r llygoden. Yna fe gewch nifer o opsiynau gludo gwahanol (bydd yr opsiynau sydd ar gael yn seiliedig ar y math o gynnwys yr ydych wedi’i gopïo).

Dyma grynodeb o’r 4 dewis gludo mwyaf cyffredin:

Cadw’r Fformatio

Bydd hyn yn cadw fformatio’r testun yr ydych wedi’i gopïo (boed hynny o weddalen, dogfen arall, neu ffynhonnell arall).

Cyfuno Fformatio

Bydd yr opsiwn hwn yn newid fformatio’r testun fel ei fod yn cyd-fynd â fformatio’r testun o’i amgylch.

Defnyddio Arddull y Gyrchfan

Mae’r opsiwn hwn yn fformatio’r testun a gopïwyd fel ei fod yn cyd-fynd â fformat y testun lle’r ydych chi’n gludo eich testun.

Cadw’r Testun yn Unig

Mae’r opsiwn hwn yn hepgor unrhyw fformatio presennol AC unrhyw elfennau nad ydynt yn destun yr ydych wedi’u copïo (e.e. delweddau neu dablau).

 I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigidol 20: Cyflwyno To Bach ⌨

Ydych chi wedi cael trafferth ysgrifennu yn Gymraeg ar eich cyfrifiadur? Ydych chi wedi defnyddio llwybrau byr neu symbolau i roi to bach ac acenion ar lythrennau Cymraeg? Peidiwch â straffaglu mwyach!  

Nawr gallwch lawrlwytho meddalwedd To Bach o’r Porth Cwmni yn rhad ac am ddim ar holl gyfrifiaduron PA.  Ar gyfer cyfrifiaduron personol, mae To Bach ar gael i’w lawrlwytho am ddim!

Ar ôl ei lawrlwytho, i deipio llythrennau gyda tho bach, yr unig beth sydd angen ei wneud yw dewis “Alt Gr” a’ch priod lafariad (e.e., â ê î ô û ŵ ŷ).  

Strôc AllweddolSymbol
Alt Gr + aâ
Alt Gr + eê
Alt Gr + oô
Alt Gr + iî
Alt Gr + yŷ
Alt Gr + wŵ
Alt Gr + uû

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwestiynau a Holir yn Aml yma.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 19 – Camau Cyflym yn Outlook⚡

Ydych chi eisiau gallu arbed amser wrth ddefnyddio Outlook trwy redeg tasgau lluosog yn effeithlon?

Gyda TipDigidol 19, byddwn yn edrych ar sut i osod eich Camau Cyflym. Pan ddaw e-bost i’ch mewnflwch, gydag un clic yn unig, gallwch farcio eich bod wedi’i ddarllen, ei symud i ffolder benodol, anfon ateb yn awtomatig a llawer fwy o opsiynau arall.

Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad byr:

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!