TipDigidol 24: Gwneud defnyddio Excel yn haws drwy rewi colofnau a rhesi 📊

Ydych chi erioed wedi gweithio ar ddogfen Excel fawr ac wedi sgrolio i lawr i ddod o hyd i ffigur, ond wedyn wedi gorfod sgrolio’n ôl i fyny i’r brig eto i’ch atgoffa’ch hun beth oedd pennawd y golofn honno?!

Mae nodwedd hynod o ddefnyddiol yn Excel a all eich helpu gyda hyn, sy’n galluogi i chi rewi un neu fwy o resi a cholofnau. Gallwch ddefnyddio’r nodwedd yn Excel drwy glicio ar Gweld > Rhewi’r Cwareli.


Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae rhewi colofnau a rhesi:

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 23: Adfer eich tabiau 📂

Ydych chi erioed wedi cau tab roeddech chi’n ei ddefnyddio ar y pryd? Ydych chi wedi chwilio’n wyllt drwy eich hanes i ddod o hyd i’ch tudalen eto neu hyd yn oed chwilio trwy dudalennau gwe?  

Gyda TipDigidol 23, nid oes rhaid i chi boeni mwyach.  

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi agor unrhyw dabiau yr ydych wedi’u cau drwy ddewis “Ctrl + Shift + T”. Bydd hyn hyd yn oed yn gweithio os ydych wedi cau ffenestr gyfan! 

Edrychwch ar y fideo isod am arddangosiad cyflym.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 22 – Pinio eich hoff wefan ar eich porwr gwe 📌

Ydych chi’n aml yn teimlo’n rhwystredig wrth orfod sgrolio’n ôl trwy hanes eich porwr i ddod o hyd i’ch hoff dab? Neu hyd yn oed yn cau’r tab yn ddamweiniol a methu cofio’r wefan?

Gyda TipDigidol 22, gallwch nawr binio eich hoff dabiau ar y rhyngrwyd a’i gael yn barod i chi pan fyddwch chi’n agor eich porwr nesaf.

Ar gyfer porwyr rhyngrwyd megis Chrome a Firefox, gallwch ddilyn y camau hyn:

  • Agorwch eich porwr rhyngrwyd a theipio eich URL dewisol
  • Cliciwch fotwm de’r llygoden ar eich tab URL a dewiswch yr opsiwn “Pin

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 21: Copïo a gludo cynnwys yn Word heb wneud smonach o’ch fformatio 📃

Ydych chi erioed wedi copïo a gludo cynnwys o weddalen neu ddogfen arall i ddogfen Word newydd a chanfod bod hyn yn gwneud smonach o’ch fformatio? Yn ffodus, mae dewisiadau ychwanegol ar wahân i’r opsiwn gludo sylfaenol (ctrl+v) a all helpu i ddatrys hyn!

Dechreuwch drwy ddewis lle’r hoffech ludo eich cynnwys a chliciwch fotwm de’r llygoden. Yna fe gewch nifer o opsiynau gludo gwahanol (bydd yr opsiynau sydd ar gael yn seiliedig ar y math o gynnwys yr ydych wedi’i gopïo).

Dyma grynodeb o’r 4 dewis gludo mwyaf cyffredin:

Cadw’r Fformatio

Bydd hyn yn cadw fformatio’r testun yr ydych wedi’i gopïo (boed hynny o weddalen, dogfen arall, neu ffynhonnell arall).

Cyfuno Fformatio

Bydd yr opsiwn hwn yn newid fformatio’r testun fel ei fod yn cyd-fynd â fformatio’r testun o’i amgylch.

Defnyddio Arddull y Gyrchfan

Mae’r opsiwn hwn yn fformatio’r testun a gopïwyd fel ei fod yn cyd-fynd â fformat y testun lle’r ydych chi’n gludo eich testun.

Cadw’r Testun yn Unig

Mae’r opsiwn hwn yn hepgor unrhyw fformatio presennol AC unrhyw elfennau nad ydynt yn destun yr ydych wedi’u copïo (e.e. delweddau neu dablau).

 I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigidol 20: Cyflwyno To Bach ⌨

Ydych chi wedi cael trafferth ysgrifennu yn Gymraeg ar eich cyfrifiadur? Ydych chi wedi defnyddio llwybrau byr neu symbolau i roi to bach ac acenion ar lythrennau Cymraeg? Peidiwch â straffaglu mwyach!  

Nawr gallwch lawrlwytho meddalwedd To Bach o’r Porth Cwmni yn rhad ac am ddim ar holl gyfrifiaduron PA.  Ar gyfer cyfrifiaduron personol, mae To Bach ar gael i’w lawrlwytho am ddim!

Ar ôl ei lawrlwytho, i deipio llythrennau gyda tho bach, yr unig beth sydd angen ei wneud yw dewis “Alt Gr” a’ch priod lafariad (e.e., â ê î ô û ŵ ŷ).  

Strôc AllweddolSymbol
Alt Gr + aâ
Alt Gr + eê
Alt Gr + oô
Alt Gr + iî
Alt Gr + yŷ
Alt Gr + wŵ
Alt Gr + uû

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwestiynau a Holir yn Aml yma.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 19 – Camau Cyflym yn Outlook⚡

Ydych chi eisiau gallu arbed amser wrth ddefnyddio Outlook trwy redeg tasgau lluosog yn effeithlon?

Gyda TipDigidol 19, byddwn yn edrych ar sut i osod eich Camau Cyflym. Pan ddaw e-bost i’ch mewnflwch, gydag un clic yn unig, gallwch farcio eich bod wedi’i ddarllen, ei symud i ffolder benodol, anfon ateb yn awtomatig a llawer fwy o opsiynau arall.

Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad byr:

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 18 – Mynegwch eich hun ag Emojis gyda’r llwybr byr cudd ar y bysellfwrdd 🥳🤩💖

Mae emojis wedi dod yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym yn cyfathrebu, a gallant fod yn wych ar gyfer mynegi ein hemosiynau gydag un nod yn unig! 🥰🤣🙄🤯😴

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn fwy cyfarwydd â defnyddio emojis ar ein ffonau symudol 📱, ond bydd adegau pan fyddwn eisiau cynnwys emojis wrth ddefnyddio ein gliniaduron neu gyfrifiaduron. Yn hytrach na chwilio ar y we am yr emoji sydd ei angen arnoch, beth am ei gyrchu’n uniongyrchol o’ch bysellfwrdd!

Ar Windows a Mac, gallwch gyrchu’ch bysellfwrdd emoji mewn eiliadau trwy ddewis:

  • Windows – Bysell Windows + “.” (botwm atalnod llawn)
  • Mac – Bysell Command + Control + bar gofod

Gwyliwch y fideo isod i weld sut mae’r llwybr byr hwn yn gweithio ar ddyfais Windows.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigidol 17: Trefnu eich gwaith gyda Tasks yn Teams ✍

Ydych chi’n gynllunydd ond yn ei chael hi’n anodd bod yn gynhyrchiol? Ydych chi’n gweithio’n well gyda rhestr o bethau i’w gwneud, ond yr hoffech chi gael popeth yn yr un lle? Dyma gyflwyno Task by planner Microsoft Teams!  

Gallwch greu eich rhestrau eich hun o bethau i’w gwneud, torri’r rhain i lawr i restrau dyddiol o bethau i’w gwneud a hyd yn oed gweld tasgau sydd wedi’u clustnodi i chi yn sianeli Microsoft Teams.  

I greu eich Rhestr o bethau i’w gwneud: 

  • Ewch i’r eicon Apps ar ochr chwith MS Teams 
  • Chwiliwch a gosodwch yr ap Tasks by Planner and To Do 
  • Ar waelod y cynllunydd, dewiswch ‘+ New list or plan’ 
  • Nodwch unrhyw dasg, dewiswch y flaenoriaeth a’r dyddiad cyflwyno 
  • Ar ôl gorffen dewiswch y cylch a bydd y dasg yn cwblhau ei hun 

I dorri eich rhestr o bethau i’w gwneud i lawr i amcanion mwy cyraeddadwy, gallwch ychwanegu tasgau o’ch rhestr o bethau i’w gwneud i “my day” a fydd yn adnewyddu bob dydd.   

Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad o sut i ddefnyddio Tasks by planner Microsoft Teams.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi 16 – Lleihau straen llygaid gyda hidlydd golau glas 👓

Ydych chi’n aml yn cael llygaid blinedig ar ôl edrych ar eich dyfais am gyfnod rhy hir? Yn TipDigi 16, byddwn yn edrych ar sut i ddefnyddio gosodiad hidlo golau glas, i leihau faint o olau glas a allyrrir o sgrin eich dyfais.

Ar ddyfeisiau Windows, dilynwch y gosodiadau system isod i ysgogi “Night light”:

  • Dewiswch Start ar eich bar tasgau Windows a theipiwch Settings yn y blwch chwilio
  • O Settings, dewiswch System cyn dod o hyd i’r opsiwn Display
  • Unwaith y byddwch wedi dewis yr opsiwn Display dewiswch Night light
  • Gyda “Night light” wedi’i droi ymlaen, bydd lliwiau cynhesach yn cael eu defnyddio ar eich sgrin i helpu i rwystro golau glas
  • I bersonoli pryd y bydd “Night light” yn cael ei ddefnyddio ar eich dyfais, dewiswch yr opsiwn Schedule night light lle gallwch ddewis naill ai Sunset to sunrise neu Set hours i ddewis eich amseroedd eich hun iddo ddechrau a gorffen cyn cau’r ffenestr

Ar ddyfeisiau MacOS, dilynwch y gosodiadau system isod i ysgogi “Night Shift”:

  • Ewch i’r ddewislen Apple i agor yr opsiwn System Preferences
  • Trwy’r System Preferences, dewiswch yr eicon Displays eicon
  • Ar frig y ffenestr, cliciwch ar y tab Night shift
  • Dewiswch y gwymplen Schedule cyn dewis Custom
  • I bersonoli pryd y bydd ‘Night Shift’ yn cael ei ddefnyddio ar eich dyfais, gallwch ddewis naill ai Sunset to sunrise neu Custom i ddewis eich amseroedd eich hun iddo ddechrau a gorffen cyn clicio Done

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Ail-ymweld â’n holl TipiauDigi o Semester 1!

Croeso i ddechrau 2024 a gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael gwyliau Nadolig gwych!

O fis Medi 2023, mae’r Tîm Sgiliau Digidol wedi bod yn cyhoeddi TipiauDigi byr a fydd, gobeithio, yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg – gan amrywio o ofalu am eich lles meddyliol gyda’r ap Finch hunanofal i allu trafod syniadau newydd gyda’r bwrdd gwyn yn MS Teams!

Gan ddechrau o ddydd Mawrth 9 Ionawr, byddwn yn parhau i bostio TipiauDigi wythnosol am bopeth digidol ac os hoffech edrych ar unrhyw un o’n TipiauDigi blaenorol, gallwch gael mynediad atynt o’r dudalen hon.