TipDigi 13 – Trefnu ac oedi anfon eich negeseuon e-bost yn Outlook 📨

Gan ddibynnu ar bwy yr hoffech gyfathrebu â nhw, weithiau mae’n fwy cyfleus i amserlennu ac oedi anfon eich negeseuon e-bost tan amser arall. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i chi ail-olygu cynnwys eich e-bost eto os oes angen a gallwch leihau straen i’r dyfodol os gallwch baratoi eich e-byst ymlaen llaw! 

Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: 

  • Agorwch neges e-bost newydd wag yn Outlook 
  • Ysgrifennwch yr e-bost a sicrhau eich bod wedi cynnwys derbynnydd a llinell bwnc 
  • Cliciwch ar y tab Ffeil (File) sydd i’w weld ar gornel chwith uchaf y ffenestr e-bost 
  • Dewiswch Priodweddau (Properties)  
  • Sicrhewch fod yr opsiwn Peidio â danfon cyn (Do not deliver before) wedi’i dicio  
  • Dewiswch yr amser a’r dyddiad yr hoffech i’r e-bost gael ei anfon 
  • Cliciwch ar Cau (Close) ac yna Anfon (Send) 

Mae’n werth nodi bod yn rhaid i Outlook fod ar agor i e-bost a oedwyd gael ei anfon allan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis amser anfon pan fyddwch chi’n gwybod y bydd eich Outlook ymlaen. 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi 12 – Cael Microsoft Word i Ddarllen yn Uchel i chi 🔊

A ydych yn ei chael yn haws gwirio dogfen neu neges ebost pan fyddwch yn gallu clywed yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu? Yn ffodus, mae yna gyfleuster defnyddiol o’r enw Darllen yn Uchel (Read Aloud) a all chwarae testun ysgrifenedig yn ôl ar lafar, ac mae ar gael yn sawl un o apiau Microsoft 365, gan gynnwys Word ac Outlook. Gall ddarllen testun Cymraeg a Saesneg yn ogystal â sawl iaith arall. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: 

  • Y cam cyntaf yw sicrhau bod eich testun yn yr iaith gywir ar gyfer prawfddarllen. Amlygwch y testun a dewiswch Adolygu (Review)
  • Dewiswch Iaith (Language), ac yna Gosod Iaith Prawfddarllen (Set Proofing Language)  
  • Dewiswch eich dewis iaith ac yna cliciwch Iawn (OK)
  • Symudwch eich cyrchwr i ddechrau’r darn o destun yr ydych am iddo gael ei ddarllen yn uchel  
  • Dewiswch Adolygu (Review) ac yna Darllen yn Uchel (Read Aloud) 
  • Gallwch newid yr iaith a’r llais darllen 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigi 11: Cyflwyno ap hunanofal Finch 🐥

Mae Finch yn ap hunanofal sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i osod nodau lles realistig i’w cyflawni trwy gydol y dydd.  

Mae’r ap yn cynnwys nodweddion megis amserydd ffocws neu fyfyrdod, dyddiaduron myfyrio, cwisiau, a seinweddau.  

Helpwch eich avatar Finch i dyfu trwy ennill pwyntiau wrth gwblhau eich nodau dyddiol. Gall cofio yfed dŵr, mynd am dro ym myd natur, cymryd rhan yn yr adran symud ar yr ap sy’n cynnwys casgliad o symudiadau ymestyn a ioga oll fod yn nodau dyddiol.  

Gallwch lawrlwytho ap Finch ar ddyfeisiau Apple ac Android. 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi 10 – Taflu syniadau newydd gan ddefnyddio’r bwrdd gwyn yn MS Teams 💡

Oes angen i chi daflu syniadau newydd â’ch cymheiriaid ar gyfer aseiniad grŵp? Neu efallai fod gennych brosiect gwaith yr hoffech drafod syniadau newydd ar ei gyfer â’ch cydweithwyr? Mae’r bwrdd gwyn yn Microsoft Teams yn adnodd gwych ar gyfer hynny ac mae’n cynnig ystod o dempledi i chi ddewis ohonynt.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae dechrau arni, neu cliciwch ar y ddolen hon os hoffech wylio’r fideo â chapsiynau caeedig.

Byddwn hefyd yn dangos sut i ddefnyddio’r bwrdd gwyn yn ystod ein sesiwn Mastering group work with online tools and strategies prynhawn yma (7 Tachwedd, 15:00-16:00) fel rhan o’r Ŵyl Sgiliau Digidol! Gallwch ymuno â’r sesiwn hon yn uniongyrchol o raglen yr ŵyl.

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigi 9 – Recordio eich sgrin yn uniongyrchol yn PowerPoint 🎥

Os oes angen i chi gynnwys recordiad sgrin yn eich cyflwyniad PowerPoint, gallwch wneud hynny’n uniongyrchol yn PowerPoint heb orfod defnyddio unrhyw feddalwedd arall! Agorwch PowerPoint, ac yna gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • Dewiswch Recordio (Record)
  • Dewiswch Recordio Sgrin (Screen Recording)
  • Agorwch y dudalen yr ydych am ei recordio
  • Cliciwch ar Dewiswch yr Ardal (Select Area) a dewiswch yr union ran o’r sgrin yr ydych am ei recordio
  • Dewiswch Sain (Audio) os ydych am recordio sain gyda’ch fideo
  • Dewiswch Recordio (Record) (dylech weld 3, 2, 1 ar eich sgrin cyn bod y recordio’n dechrau) a chwblhewch eich recordiad
  • Pan fyddwch wedi gorffen eich recordiad, gadewch i’ch llygoden hofran ar dop y sgrin a dewiswch Stop (Stop)
  • Bydd eich recordiad sgrin yn cael ei ludo’n awtomatig yn eich cyflwyniad PowerPoint
  • Gallwch olygu eich recordiad drwy glicio ar eich recordiad a dewis Chwarae (Playback)

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi 8: Cyfyngu ar eich amser sgrolio ar Instagram 🤳

Ydych chi’n cael trafferth canolbwyntio ar eich gwaith? Ydych chi’n oedi a gohirio ar gyfryngau cymdeithasol?  

Oes angen i chi gyfyngu ar eich amser sgrolio? 

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi nawr gyfyngu ar eich amser sgrolio trwy’r gosodiadau ar Instagram?  

Ewch i: 

  • Settings, 
  • Time spent, 
  • Set daily time limit. 

Gallwch osod y cyfyngiadau hyn fel bod nodyn atgoffa yn ymddangos ar ôl cyfnod o’ch dewis sy’n awgrymu eich bod yn cymryd egwyl.  

I ailosod yr amserydd, caewch yr ap a’i ailagor. 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi 7 – Dysgwch sgiliau digidol newydd am ddim gyda’n casgliadau sgiliau digidol o LinkedIn Learning 💻

Ydych chi eisiau dysgu neu ddatblygu eich sgiliau digidol ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Gyda’n casgliadau sgiliau digidol LinkedIn Learning, gallwch bellach ddatblygu eich sgiliau digidol ymhellach gyda chyrsiau a fideos hawdd eu deall sydd wedi’u teilwra’n fwy penodol i’r hyn yr ydych chi’n chwilio amdano. Gydag amrywiaeth o gynnwys i ddewis ohonynt yn LinkedIn Learning, rydym wedi datblygu 30 casgliad newydd (15 i fyfyrwyr a 15 i staff) i’ch cynorthwyo ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddod o hyd i’r cynnwys mwyaf priodol sy’n addas ar gyfer yr hyn yr hoffech ddysgu amdano. Mae pob casgliad yn cynnwys 9 o adnoddau, a gall yr adnoddau hyn amrywio o fideos byr 3 munud i gyrsiau mwy manwl.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y casgliadau LinkedIn Learning hyn, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).  

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi6 – Gosod eich statws am gyfnod penodol yn MS Teams i ddangos eich bod yn brysur 🔕

Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i chi neilltuo rhywfaint o amser i ganolbwyntio ar ddarn penodol o waith, ond sut mae dangos i bobl eraill sydd hefyd ar-lein eich bod yn brysur? Mae Microsoft Teams yn eich galluogi i osod eich statws ar Peidiwch â tharfu (Do not disturb), sy’n golygu na fydd hysbysiadau neu alwadau Teams yn tarfu arnoch (oni bai eich bod yn dewis eu cael gan bobl benodol). Ond mae’n hawdd anghofio diffodd y statws hwnnw pan fyddwch wedi gorffen.

Yn ffodus, mae Teams yn eich galluogi i osod eich statws am gyfnod penodol. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • Agorwch MS Teams a chliciwch ar eich llun proffil
  • Cliciwch ar eich statws presennol
  • Dewsiwch Hyd (Duration)
  • Dewiswch Peidiwch â tharfu (Do not Disturb) (neu ba statws bynnag yr ydych am iddo ymddangos)
  • Dewiswch am ba hyd yr ydych am i’r statws hwn ymddangos
  • Cliciwch ar Cwblhau (Done)

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigi 5: Holltwch eich sgrin a chwblhau sawl tasg ar yr un pryd 💻

Ydych chi’n gweithio ar un sgrin ac yn ei chael hi’n anodd? Ydych chi wedi blino ar newid rhwng dwy ffenestr? 

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hollti’ch sgrin i weld dau beth ar unwaith sy’n ei gwneud hi’n llawer haws edrych ar ddwy ffenestr ar yr un pryd? Mae hyn yn golygu y gallwch weithio ar ddogfennau, tabiau a llawer mwy ochr yn ochr.  

  • Ar eich bysellfwrdd, i ochr chwith y bar gofod mae’r botwm Windows
  • Daliwch y botwm Windows ac yna tapio unrhyw allwedd saeth yr hoffech. Er enghraifft, daliwch y fysell Windows ac yna tapiwch y fysell saeth chwith.  
  • Bydd hyn yn symud eich dogfen i ochr chwith eich sgrin.  
  • Byddwch yn gweld yr holl ffenestri agored sydd gennych i lenwi gweddill y sgrin. Dewiswch ba ffenestr yr hoffech ei hagor. 

Noder, mae’r cyfarwyddiadau hyn ar gyfer Windows PC yn unig. Os ydych chi’n gweithio ar Mac, edrychwch ar y cyfarwyddiadau canlynol i hollti’r sgrin: Use two Mac apps side by side in Split View – Apple Support (UK) 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigi 4 – Cyfle i wella eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned, gyda’r Forest App 🌱

Ydych chi eisiau cynyddu eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned? Bydd y Forest App yn helpu i leihau oedi ac amhariadau a rhoi’r cymhelliant ychwanegol i chi aros yn gynhyrchiol, trwy dyfu coed ac ennill darnau arian rhithwir i ddatgloi planhigion newydd gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych chi wedi aros yn gynhyrchiol.

Wrth i’ch coedwig dyfu, gallwch weld sut olwg sydd ar eich dosbarthiad amser penodol dros amser, gyda siartiau manwl amrywiol wedi’u cynnwys yn yr ap. 

Gyda’r Forest App yn partneru â sefydliad plannu coed go iawn, pan fydd defnyddwyr yn gwario eu darnau arian rhithwir ar blannu coed newydd, gall tîm Forest App roi cyfraniad i’r sefydliad plannu coed go iawn i greu archebion plannu!

Gallwch lawrlwytho’r Forest App drwy’r Storfa Apiau ar ddyfeisiau iOS ac Android.

Am ragolwg cyflym, edrychwch ar y sgrin luniau uchod i weld sut gall yr Forest App edrych ar eich dyfais symudol.

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!