LinkedIn Learning: Pa sgiliau newydd y gallech chi eu dysgu?

Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Mae Linkedin Learning yn llwyfan dysgu ar-lein rhad ac am ddim gyda thros 16,000 o gyrsiau ar bopeth o ddatblygiad personol, dylunio, gweithgareddau creadigol, sgiliau astudio, cymorth technegol a llawer mwy! Edrychwch ar y cynnwys hwn o’n cyfrif Instagram @ISAberUni Gwasanaethau Gwybodaeth i gael rhai awgrymiadau a thriciau i’ch rhoi ar ben ffordd. 

Cofrestrwch eich cyfrif erbyn 6 Ionawr 2023 er mwyn cael eich cynnwys mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o dair taleb gwerth £20!

Cliciwch Darllen Mwy isod ar gyfer fersiwn testun o’r delweddau hyn.

Read More

Awgrymiadau Da a Thechnoleg i Gefnogi Myfyrwyr sy’n Byw’n Annibynnol

Post Blog gan Urvashi Verma (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Wrth i’r Wythnos Groeso ddod i ben yn ddiweddar, gobeithio bod pawb wedi ymgyfarwyddo â’u hamserlenni newydd. Mae hyn yn golygu newid arferion a ffordd o fyw i gyd-fynd ag amserlen y brifysgol. I fyfyriwr sy’n byw yn annibynnol am y tro cyntaf, gall y newidiadau hyn fod yn anoddach fyth. O reoli arian i fyw gyda phobl newydd, nid yw bob amser yn chwarae plant. Er enghraifft, pan ddechreuais i fyw yn annibynnol am y tro cyntaf, fe wnes i droi fy holl ddillad gwyn yn binc llachar!

Drwy’r post blog hwn, rydw i’n mynd i rannu gyda chi awgrymiadau defnyddiol o fy mhrofiadau fy hun, ac yn enwedig yr apiau a thechnolegau gwahanol sydd wedi fy helpu i deimlo’n fwy cyfforddus yn byw’n annibynnol.

Cael digon o gwsg

Gall sicrhau eich bod chi’n cael digon o gwsg tra hefyd yn jyglo eich bywyd rhwng dosbarthiadau, aseiniadau a gwaith beri straen mawr ar y dechrau a gall gymryd rhywfaint o amser i ddod i arfer â hyn. Ceisiwch gynnal cylch cysgu gyson drwy fynd i gysgu ar yr un amser bob nos.

Technoleg: Byddwn yn argymell ap am ddim o’r enw Sleep Cycle: Sleep Recorded. Bydd yr ap hwn yn eich helpu i gofnodi eich patrwm cysgu, a gallwch ei ddefnyddio i’ch deffro ar yr adeg gywir yn unig drwy ddefnyddio cloc larwm deallus.

Read More

Dewch i ymweld â’n stondin LinkedIn Learning dros yr Wythnos Groeso!

Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Mae LinkedIn Learning, sy’n blatfform dysgu ar-lein, ar gael am ddim i bob myfyriwr. Mae gan ein stondin wybodaeth am y platfform ac mae’n dangos enghreifftiau o’r math o fideos byr, cyrsiau a sgiliau y gallwch ddod o hyd iddynt yno.

Yn fwy na hynny, os cofrestrwch chi i LinkedIn Learning erbyn diwedd yr Wythnos Groeso, a gallwch wneud hynny ar-lein neu drwy ddefnyddio’r cod QR ar ein stondin, byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl lle bydd cyfle gennych ennill un o dair taleb gwerth £20!

Mae ein stondin wedi’i leoli ar lawr gwaelod Llyfrgell Hugh Owen (Lefel D) yn y cefn ger y grisiau.

Hyfforddiant i Staff Academaidd: Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu

Mae LinkedIn Learning yn llwyfan dysgu ar-lein sydd â llyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr. Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi yn ystod mis Hydref 2022 a Ionawr 2023 ar gyfer staff academaidd sydd â diddordeb mewn defnyddio LinkedIn Learning i gefnogi eu haddysgu.

Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:

  • 11 Hydref 2022 (11:00-12:00): Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu
  • 13 Hydref 2022 (14:00-15:00): Using LinkedIn Learning to Support your Teaching
  • 17 Ionawr 2023 (12:00-13:00): Using LinkedIn Learning to Support your Teaching
  • 18 Ionawr 2023 (14:00-15:00): Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).

Hyfforddiant Curadur LinkedIn Learning ym mis Mehefin

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am fod yn guradur yn LinkedIn Learning? Gyda hawliau curadur gallwch lanlwytho a threfnu’ch cynnwys mewn fformat a fydd yn hawdd i’r gynulleidfa ei defnyddio ac yn ennyn ei diddordeb, yn ogystal â deall sut mae eich cynulleidfa yn defnyddio’ch cynnwys.  

Bydd Simon Lee, Uwch Reolwr Llwyddiant Cwsmeriaid ar gyfer Addysg Uwch yn LinkedIn, yn cyflwyno dwy sesiwn hyfforddi i staff Prifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin i ddangos sut i wneud y gorau o’r hawliau curadur yn LinkedIn Learning. Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i rannu’n ddwy ran, ac mae croeso i staff fynychu’r naill sesiwn neu’r llall ond fe’u hanogir i fynychu’r ddwy. 

  • Dydd Mawrth 14 Mehefin (14:30-15:30) – LinkedIn Learning: Content and Curation (Part 1)* 
  • Dydd Mawrth 21 Mehefin (10:00-11:00) – LinkedIn Learning: Content and Curation – Learning in discussion (Part 2)* 

*Noder y bydd y ddwy sesiwn yn cael eu cyflwyno yn Saesneg. 

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk). 

Diwrnod y Ddaear 2022: Buddsoddi yn ein Planed

Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod y Ddaear, a thema eleni yw #BuddsoddiYnEinPlaned.

Gallwn ni fel unigolion fuddsoddi ein hamser a’n hymdrech i ddysgu mwy am gynaliadwyedd a’r newidiadau y gallwn ni eu gwneud i’n harferion dyddiol er mwyn byw bywyd mwy cynaliadwy. Cofiwch, gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i’n planed.

Rydym hefyd wedi creu ymgyrch ar LinkedIn Learning ar gyfer Diwrnod y Ddaear, a gallwch gael mynediad iddo o’r prif ddangosfwrdd yn LinkedIn Learning. 

Cyrsiau LinkedIn Learning poblogaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ymddengys mai cynhyrchiant yw trefn y dydd, a chyrsiau LinkedIn Learning sy’n gysylltiedig â Microsoft 365 yw’r rhai yr edrychwyd arnynt fwyaf gan staff a myfyrwyr yn ddiweddar. Rydym i gyd yn gyfarwydd â Microsoft 365 ond faint ohonom sy’n manteisio’n llawn ar yr offer a’r nodweddion y mae’n eu cynnig?   

Enillodd MS Teams y parch sy’n ddyledus iddo yn ystod y pandemig ar draws sectorau addysg a’r byd gwaith gyda 91% o gwmnïau Fortune 100 yn ei ddefnyddio yn 2019. Y tu hwnt i gyfarfod rhithiol, mae MS Teams yn cynorthwyo cydweithredu drwy sgyrsiau, rhannu ffeiliau, rheoli tasgau, cynllunio prosiectau, llunio rhestrau a mwy. Yn ddiweddar, bûm mewn cyfarfod MS Teams a oedd yn gwneud defnydd rhagorol o fyrddau gwyn rhithiol, nodwedd nad oeddwn yn ymwybodol ohoni tan hynny. Gall penderfynu pa nodwedd i’w defnyddio a phryd fod yn anodd felly bydd dysgu mwy am bob un yn eich helpu i wneud y penderfyniad hwnnw. 

Os hoffech chi ddysgu mwy am offer Microsoft 365 dyma’r pum prif gwrs LinkedIn Learning yr edrychwyd arnynt yn Aberystwyth yn ystod y 30 diwrnod diwethaf. I actifadu eich cyfrif LinkedIn Learning, sy’n rhad ac am ddim i holl staff a myfyrwyr PA, edrychwch ar ein tudalennau ‘cychwyn arni gyda LinkedIn Learning’.

  1. Microsoft Teams Essential Training (2h 21m)
  2. Learning Office 365 (57m)
  3. Microsoft Planner Essential Training (1h 27m) 
  4. Outlook Essential Training (2h 13m)
  5. Modern Project Management in Microsoft 365 (1h 39m)

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 #TorrirGogwydd

Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Mae’r diwrnod hwn yn rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae’n alwad i weithredu o blaid cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan godi ymwybyddiaeth yn erbyn pob rhagfarn.

Y thema eleni yw #TorrirGogwydd, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â rhwystrau systematig sy’n dal menywod yn ôl yn eu gyrfaoedd, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd hyblygrwydd yn y gwaith.

Dyma ddetholiad o fideos a chyrsiau o LinkedIn Learning, sy’n cwmpasu rhagfarn a’i niwed, dod yn gynghreiriad, a gwrando ar leisiau menywod er mwyn creu gweithle cyfartal.

  1. Fighting Gender Bias At Work (14 munud)
  2. Unlocking Authentic Communication In A Culturally Diverse Workplace (49 munud)
  3. Leadership Strategies For Women (course) (1awr 6 munud)
  4. Becoming a male ally at work (41 munud)
  5. Women Transforming Tech: Breaking Bias (22 munud)
  6. Men as allies (2 munud 27 eiliad)
  7. Unconscious Bias (23 munud)

Rydym hefyd wedi creu ymgyrch ar LinkedIn Learning ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, a gallwch gael mynediad iddo o’r prif ddangosfwrdd yn LinkedIn Learning.


Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgol: Adnoddau Lles Digidol

Mae’n #DdiwrnodIechydMeddwlPrifysgol heddiw! Diwrnod i ddod â chymuned y Brifysgol ynghyd i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’r Brifysgol gyfan.

Elfen bwysig o Fframwaith Galluoedd Digidol Jisc yw Lles Digidol, terms sy’n disgrifio effaith technoleg a gwasanaethau digidol ar iechyd meddwl, ffisegol, cymdeithasol ac emosiynol unigolion.

Dyma rai clipiau fideo byr a chyrsiau yr ydym wedi’u rhoi at ei gilydd o LinkedIn Learning a all fod o gymorth i staff a myfyrwyr ar les digidol, iechyd meddwl a lles yn fwy cyffredinol.

  1. Supporting your mental health while working from home (17 munud)
  2. Wellbeing in the workplace (23 munud)
  3. What is mindfulness? (7 munud 8 eiliad)
  4. Sleep is your Superpower (34 munud)
  5. Balancing Work and Life (28 munud)
  6. De-stress meditation and movement for stress management (36 munud)
  7. How to set goals when everything feels like a priority (15 munud)
  8. How to manage feeling overwhelmed (43 munud)
  9. How to support your employees’ wellbeing (34 munud)
  10. Mindful Stress Management (36 munud)

Os oes angen cymorth arnoch chi, cofiwch fod yna ystod o wasanaethau sy’n gallu helpu.

Gweminarau LinkedIn a LinkedIn Learning ar y gweill (Mis Chwefor a Mawrth 2022)

Hoffech chi ddysgu sut i wella eich hunaniaeth ddigidol drwy wneud y gorau o’ch proffil LinkedIn? Neu efallai yr hoffech chi ddysgu sut, fel myfyriwr neu aelod o staff, y gallwch wneud y gorau o LinkedIn Learning? Cymerwch gip ar y gweminarau canlynol a fydd yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr LinkedIn a LinkedIn Learning. Cliciwch ar deitl pob sesiwn i ddysgu mwy ac i gofrestru.

  1. Rock your profile (ar gael yn fyw bob wythnos) – Yn addas ar gyfer staff a myfyrwyr: Cymerwch gam i wneud y gorau o’ch proffil LinkedIn. Ymunwch â’r sesiwn hon i ddysgu beth sydd ei angen i adeiladu proffil gwych sy’n siarad yn uniongyrchol â’ch cynulleidfa ddelfrydol a chael ateb i’ch cwestiynau gan arbenigwr LinkedIn.
  2. Student Success with LinkedIn Learning (16 Chwefror ’22; 13:00) – Addas i fyfyrwyr: Bydd y weminar hon yn archwilio sut y gall myfyrwyr fanteisio ar rwydwaith LinkedIn ac offer pwerus eraill i baratoi ar gyfer y gweithlu, yn ogystal â chanolbwyntio ar y sgiliau angenrheidiol ar gyfer 2022.
  3. Academic Success with LinkedIn Learning (16 Mawrth ’22; 13:00) – Addas i staff: Bydd y weminar hon yn canolbwyntio ar sut y gall academyddion fanteisio i’r eithaf ar LinkedIn Learning a’i ymgorffori’n llwyddiannus yn y cwricwlwm. Bydd awgrymiadau, arferion gorau a mewnwelediadau i’r sgiliau sydd fwyaf angenrheidiol yn cael eu rhannu yn ystod y sesiwn.

Mae gan holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth fynediad am ddim i LinkedIn Learning. Ewch i’r blog hwn i ddysgu mwy am LinkedIn Learning. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau mewngofnodi yma a dilynwch y fideo hwn i ddysgu sut i ddechrau arni gyda LinkedIn Learning.