Ymunwch â’n Her Dysgu’r Nadolig! 🎄

Mae ein Her Dysgu’r Nadolig yn cychwyn yfory, Dydd Mercher 6 Rhagfyr! Rydym wedi casglu 12 fideo byr o LinkedIn Learning i chi wylio a dysgu ohonynt dros y 12 diwrnod gwaith nesaf. Mae’r cynnwys hyn yn amrywio o 1-8 munud a byddant yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau – o awgrymiadau i hybu cynhyrchinat, defnyddio byrlwybrau bysellfwrdd yn Outlook, i ddatblygu arferion cysgu gwell.

Sut mae ymuno â’r her?

Y cam cyntaf fydd actifadu eich cyfrif LinkedIn Learning. Wedi i chi wneud hynny, mae dwy ffordd i chi ymuno â’r her:

  • Gallwch naill ai ddilyn y dolenni o’r calendr isod bob dydd o’r her
  • Neu gallwch ddilyn ein Llwybr Dysgu Her Dysgu’r Nadolig (sydd hefyd yn ymddangos ar frig dudalen gartref LinkedIn Learning pan fyddwch chi wedi mewngofnodi).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich 12 diwrnod o ddysgu!

TipDigi 12 – Cael Microsoft Word i Ddarllen yn Uchel i chi 🔊

A ydych yn ei chael yn haws gwirio dogfen neu neges ebost pan fyddwch yn gallu clywed yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu? Yn ffodus, mae yna gyfleuster defnyddiol o’r enw Darllen yn Uchel (Read Aloud) a all chwarae testun ysgrifenedig yn ôl ar lafar, ac mae ar gael yn sawl un o apiau Microsoft 365, gan gynnwys Word ac Outlook. Gall ddarllen testun Cymraeg a Saesneg yn ogystal â sawl iaith arall. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: 

  • Y cam cyntaf yw sicrhau bod eich testun yn yr iaith gywir ar gyfer prawfddarllen. Amlygwch y testun a dewiswch Adolygu (Review)
  • Dewiswch Iaith (Language), ac yna Gosod Iaith Prawfddarllen (Set Proofing Language)  
  • Dewiswch eich dewis iaith ac yna cliciwch Iawn (OK)
  • Symudwch eich cyrchwr i ddechrau’r darn o destun yr ydych am iddo gael ei ddarllen yn uchel  
  • Dewiswch Adolygu (Review) ac yna Darllen yn Uchel (Read Aloud) 
  • Gallwch newid yr iaith a’r llais darllen 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigi 10 – Taflu syniadau newydd gan ddefnyddio’r bwrdd gwyn yn MS Teams 💡

Oes angen i chi daflu syniadau newydd â’ch cymheiriaid ar gyfer aseiniad grŵp? Neu efallai fod gennych brosiect gwaith yr hoffech drafod syniadau newydd ar ei gyfer â’ch cydweithwyr? Mae’r bwrdd gwyn yn Microsoft Teams yn adnodd gwych ar gyfer hynny ac mae’n cynnig ystod o dempledi i chi ddewis ohonynt.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae dechrau arni, neu cliciwch ar y ddolen hon os hoffech wylio’r fideo â chapsiynau caeedig.

Byddwn hefyd yn dangos sut i ddefnyddio’r bwrdd gwyn yn ystod ein sesiwn Mastering group work with online tools and strategies prynhawn yma (7 Tachwedd, 15:00-16:00) fel rhan o’r Ŵyl Sgiliau Digidol! Gallwch ymuno â’r sesiwn hon yn uniongyrchol o raglen yr ŵyl.

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Ymunwch â ni wythnos nesaf ar gyfer yr Ŵyl Sgiliau Digidol! 🎆

Bydd Gŵyl Sgiliau Digidol gyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth ar gyfer myfyrwyr yn cael ei chynnal wythnos nesaf rhwng 6 a 10 Tachwedd 2023!

Drwy gydol yr wythnos, bydd 28 o ddigwyddiadau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau digidol cyfoes. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys cyflwyniadau ar Ddeallusrwydd Artiffisial, diogelwch ar-lein, lles digidol, rheoli eich ôl troed digidol, a defnyddio’r Gymraeg ar eich cyfrifiadur. Yn ogystal, bydd siaradwyr allanol o gwmnïau megis Barclays a Clicky Media yn trafod y sgiliau digidol sydd eu hangen i ragori yn eu cwmnïau eu hunain a chwmnïau tebyg. Yn olaf, bydd hefyd sawl gweithdy rhyngweithiol ar bynciau megis defnyddio meddalwedd fel Microsoft Excel a sut i feistroli gwaith grŵp gydag amryw o offer ar-lein.  

Bydd pob myfyriwr sy’n mynychu tair sesiwn ar-lein yn cael eu cynnwys mewn raffl lle bydd cyfle iddynt ennill un o ddwy daleb gwerth £50

Gallwch weld manylion pob sesiwn ac archebu eich lle drwy raglen yr Ŵyl Sgiliau Digidol, neu gallwch hefyd weld beth sydd ymlaen pob dydd o’r delweddau isod!

TipDigi 9 – Recordio eich sgrin yn uniongyrchol yn PowerPoint 🎥

Os oes angen i chi gynnwys recordiad sgrin yn eich cyflwyniad PowerPoint, gallwch wneud hynny’n uniongyrchol yn PowerPoint heb orfod defnyddio unrhyw feddalwedd arall! Agorwch PowerPoint, ac yna gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • Dewiswch Recordio (Record)
  • Dewiswch Recordio Sgrin (Screen Recording)
  • Agorwch y dudalen yr ydych am ei recordio
  • Cliciwch ar Dewiswch yr Ardal (Select Area) a dewiswch yr union ran o’r sgrin yr ydych am ei recordio
  • Dewiswch Sain (Audio) os ydych am recordio sain gyda’ch fideo
  • Dewiswch Recordio (Record) (dylech weld 3, 2, 1 ar eich sgrin cyn bod y recordio’n dechrau) a chwblhewch eich recordiad
  • Pan fyddwch wedi gorffen eich recordiad, gadewch i’ch llygoden hofran ar dop y sgrin a dewiswch Stop (Stop)
  • Bydd eich recordiad sgrin yn cael ei ludo’n awtomatig yn eich cyflwyniad PowerPoint
  • Gallwch olygu eich recordiad drwy glicio ar eich recordiad a dewis Chwarae (Playback)

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Dysgwch sut i godio am ddim gyda CoderPad yn LinkedIn Learning

Efallai fod yna lawer o wahanol resymau pam yr hoffech ddysgu codio. Mae’n bosibl ei bod yn sgil yr hoffech ei hymarfer ar gyfer eich gradd; gallai fod yn hobi i chi; neu efallai fod gennych ddiddordeb mewn datblygu’r sgil hon i wella eich cyflogadwyedd.

Mae gwybod sut i godio yn sgil hynod o werthfawr, ond os ydych chi’n newydd i godio, fe allai fod yn anodd gwybod sut i ddechrau arni. Yn ffodus, mae LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein y mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim iddo, (dysgu sut i ddechrau arni), wedi lansio partneriaeth newydd gyda CoderPad.

Maent wedi lansio amrywiaeth o gyrsiau Heriau Cod newydd ar Python, Java, SQL, JavaScript, C#, a Go, a gynlluniwyd i helpu dysgwyr o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch i ddatblygu eu sgiliau codio trwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am yr heriau hyn:

Ar hyn o bryd mae 33 o Heriau Cod (ond mae hyn yn cynyddu’n barhaus), a gallwch hefyd ddysgu sut i godio ac ymarfer eich sgiliau gyda chyrsiau rhaglennu GitHub ychwanegol yn LinkedIn Learning.

Dyma ychydig o gyrsiau Heriau Cod i chi ddechrau arni!

Heriau Cod i Ddechreuwyr

Heriau Cod Uwch

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw ran o’r cynnwys a grybwyllir uchod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

TipDigi6 – Gosod eich statws am gyfnod penodol yn MS Teams i ddangos eich bod yn brysur 🔕

Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i chi neilltuo rhywfaint o amser i ganolbwyntio ar ddarn penodol o waith, ond sut mae dangos i bobl eraill sydd hefyd ar-lein eich bod yn brysur? Mae Microsoft Teams yn eich galluogi i osod eich statws ar Peidiwch â tharfu (Do not disturb), sy’n golygu na fydd hysbysiadau neu alwadau Teams yn tarfu arnoch (oni bai eich bod yn dewis eu cael gan bobl benodol). Ond mae’n hawdd anghofio diffodd y statws hwnnw pan fyddwch wedi gorffen.

Yn ffodus, mae Teams yn eich galluogi i osod eich statws am gyfnod penodol. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • Agorwch MS Teams a chliciwch ar eich llun proffil
  • Cliciwch ar eich statws presennol
  • Dewsiwch Hyd (Duration)
  • Dewiswch Peidiwch â tharfu (Do not Disturb) (neu ba statws bynnag yr ydych am iddo ymddangos)
  • Dewiswch am ba hyd yr ydych am i’r statws hwn ymddangos
  • Cliciwch ar Cwblhau (Done)

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Dewch i’n sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol trwy gydol Semester 1

Bydd aelod o’r tîm ar gael bob wythnos i gefnogi myfyrwyr a staff yn ein sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i adnoddau i ddatblygu eich sgiliau digidol; rhoi cyngor cyffredinol i chi am ddatblygu eich sgiliau digidol; ac rydym hefyd yn hapus iawn i drafod eich adroddiadau Offeryn Darganfod Digidol.

📍 Byddwn yn yr Hwb Sgiliau (a ddangosir gan y seren ar y ddelwedd isod) yn Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen ar y dyddiau Mawrth a Mercher isod drwy gydol semester 1. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk.

Dydd Mawrth
⏰ 11:00-12:00
Dydd Mercher
⏰ 10:00-11:00
Hydref ’2311 Hydref ’23
17 Hydref ’2325 Hydref ’23
31 Hydref ’23Tachwedd ’23
14 Tachwedd ’2322 Tachwedd ’23
28 Tachwedd ’23Rhagfyr ’23
12 Rhagfyr ’23

Croeso i’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr ar gyfer ’23-24!

Banner with Student Digital Champion

Croeso cynnes i’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr a ymunodd â’r Tîm Sgiliau Digidol ar ddechrau mis Medi! Fe fydd y tri yn gweithio gyda ni drwy gydol y flwyddyn academaidd i annog myfyrwyr ar draws y brifysgol i ddatblygu eu sgiliau digidol ac i roi mewnwelediadau gwerthfawr i’r cymorth y mae myfyrwyr ei eisiau.


Noel Czempik

“Helo! Noel ydw i ac rwy’n fyfyriwr Geneteg israddedig sydd â diddordeb arbennig mewn meddygaeth bersonol. Rwyf hefyd yn gerddor ac yn mwynhau bod yn greadigol yn y gwaith, boed hynny mewn labordy neu stiwdio recordio. Mae fy niddordebau’n cynnwys peintio, dylunio mewnol, cerddoriaeth fyw, teithiau ffordd, teithiau natur, chwilota a choginio. Rwyf hefyd yn casglu recordiau a ffigurynnau ysbrydion.

Fe wnes i gais am rôl Pencampwr Digidol Myfyrwyr er mwyn cymryd rhan mewn gwaith creadigol ac ystyrlon a datblygu fy sgiliau digidol ymhellach. Rwy’n angerddol am brofiad myfyrwyr yn y brifysgol ac yn chwilfrydig ynghylch goblygiadau iechyd a chymdeithasol bywyd digidol. Edrychaf ymlaen at gefnogi’r Tîm Sgiliau Digidol, yn arbennig wrth gefnogi lles digidol.”


Joel Williams

“Helo, Joel Williams ydw i, rydw i’n fyfyriwr yn y 3edd flwyddyn yn astudio Daearyddiaeth. Fy meysydd o ddiddordeb yw folcanoleg ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar sut mae’r ddau yn effeithio ar bobl. Fe wnes i gais i fod yn Bencampwr Digidol Myfyrwyr oherwydd roedd yn rhoi cyfle i mi adeiladu ar fy sgiliau digidol fy hun a gwella’r profiad i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ers fy ail flwyddyn rwyf wedi bod yn Gynrychiolydd Academaidd ar gyfer fy adran. Rwyf wedi mwynhau’r rôl hon yn fawr gan ei bod wedi galluogi i mi a’m cyfoedion leisio ein barn i’r Brifysgol ac yna gweld canlyniadau pendant hyn. Mae fy niddordebau’n cynnwys, tynnu lluniau tirweddau a bywyd gwyllt, nofio (fel arfer mewn pwll nofio), a than yn ddiweddar roeddwn i’n chwarae pêl-droed Americanaidd i’r Brifysgol.”


Laurie Stevenson

“Helo, Laurie ydw i ac rydw i yn fy mhedwaredd flwyddyn yn astudio gradd Cadwraeth Bywyd Gwyllt. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Tîm Sgiliau Digidol eto eleni fel Pencampwr Digidol Myfyrwyr sy’n dychwelyd. Fe wnes i fwynhau’r rôl y llynedd yn fawr iawn a sut y gwnaeth fy helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chreadigrwydd digidol yn ogystal â’m gwthio y tu hwnt i’m cilfan gysurus wrth arwain grwpiau ffocws a chynnal cyfweliadau. Rwy’n gobeithio parhau i ddysgu sgiliau newydd eleni ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ochr yn ochr â dau bencampwr newydd!”


🔔 Dilynwch ein categori Pencampwyr Digidol Myfyrwyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gynnwys cyffrous y bydd y pencampwyr yn ei gyhoeddi ar ein blog drwy gydol y flwyddyn, a hefyd ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Gwasanaethau Gwybodaeth!

Lansiad safle Blackboard newydd ‘Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG’

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG, safle Blackboard Learn Ultra newydd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi staff addysgu newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Mae’r safle hwn yn dwyn ynghyd yr holl gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol o Wasanaethau Gwybodaeth y bydd ei hangen ar staff addysgu newydd, gan sicrhau eu bod yn cael eu paratoi’n ‘ddigidol’ ar gyfer addysgu. P’un ai yw hynny’n arweiniad ar ddefnyddio OneDrive i storio gwaith; sut i osod modiwl newydd yn Blackboard Learn Ultra; neu ddod o hyd i ganllawiau ar gipio darlithoedd.

Gyda rhestr wirio ddefnyddiol a mynediad awtomatig i bawb drwy Blackboard Learn Ultra, gobeithiwn y bydd y safle’n arbed amser gwerthfawr i staff, yn ogystal â bod yn adnodd defnyddiol i holl staff adrannol. 

Edrychwch ar y cyflwyniad i’r safle Blackboard i ddysgu sut mae cychwyn arni.

Ar Ddydd Mercher 11 Hydref (2-3yh), hoffem wahodd staff addysgu newydd i ymuno â ni am baned yn D54, Hugh Owen (cyfarwyddiadau ar sut i ddod o hyd i’r ystafell). Bydd yn gyfle i staff addysgu newydd gwrdd â’i gilydd, yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr o Wasanaethau Gwybodaeth. Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth am y safle, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).