Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)
Yn yr oes sydd ohoni, mae’r rhan fwyaf ohonom yn dibynnu’n helaeth ar dechnoleg. Er bod y byd digidol yn cynnig posibiliadau ac adnoddau diddiwedd, mae’n hanfodol parhau i gofio ei effeithiau posibl ar ein lles digidol. A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion dyma gyfle perffaith i rannu detholiad o awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i gael perthynas iachach â thechnoleg.
Hoffem glywed oddi wrthych! Pa strategaethau neu adnoddau sydd fwyaf defnyddiol i chi wrth gynnal perthynas iach â thechnoleg?
Testun yn unig:
Lles Digidol
Mae lles digidol yn ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd iach rhwng buddion ac anfanteision technoleg. Sut alla i wella fy lles digidol?
- Addaswch eich gosodiadau i gyfyngu ar eich amser sgrolio yn Instagram (Darllen mwy)
- Defnyddiwch ap hunanofal Finch i osod nodau lles realistig i chi gyflawni drwy gydol y dydd (Darllen mwy)
- Gwyliwch gyrsiau lles digidol byr yn LinkedIn Learning (Myfyrwyr; Staff)
- Defnyddiwch offer rheoli tasgau, fel Microsoft To Do neu Microsoft Planner i leihau straen tra’n gweithio (Darllen mwy)
- Lleihewch straen llygaid wrth ddefnyddio dyfeisiau drwy: Ddilyn rheol 20-20-20; Ddefnyddio hidlwyr golau glas; Alluogi modd tywyll (Darllen mwy)
- Lleihewch wrthdyniadau o’ch dyfeisiau drwy: Analluogi hysbysiadau; Ddileu apiau nad ydych chi’n eu defnyddio; Alluogi’r gosodiad Do-not-disturb dros nos; Gadw eich ffôn allan o’r golwg ac allan o’ch meddwl!
- Gwnewch y mwyaf o dechnoleg i gadw trac ar eich nodau ffitrwydd
Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk)