Dilynwch y camau hyn i osod eich sgyrsiau blaenoriaeth ar frig eich rhestr:
- Ar ochr chwith eich ffenestr Teams, rhowch eich cyrchwr dros y sgwrs yr hoffech roi pin arni
- Cliciwch fotwm de’r llygoden unwaith ar y sgwrs a chliciwch ar Pin
- Bydd eich sgwrs flaenoriaeth yn cael ei gosod ar frig eich rhestr sgwrsio ddiweddar
Dilynwch y camau hyn i ddistewi hysbysiadau o’ch sgwrs ddewisol:
- Ar ochr chwith eich ffenestr Teams, rhowch eich cyrchwr dros y sgwrs yr hoffech ei distewi
- Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y sgwrs a chliciwch ar Mute
- Bydd hysbysiadau sy’n dod i mewn yn cael eu distewi ar gyfer y sgwrs benodol hon
Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn ar gyfer cadw negeseuon i edrych arnynt yn ddiweddarach:
- Agorwch y sgwrs yr hoffech gadw’r neges(euon) sydd ynddi
- Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y neges a chliciwch ar Save this message
- Rhowch eich cyrchwr ar eich eicon Teams a chliciwch arno
- Dewiswch yr opsiwn Saved yn y ddewislen
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!