Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Un o ganolbwyntiau’r Pencampwyr Digidol Myfyrwyr eleni yw ystyried y strategaethau a’r rhaglenni yr ydyn ni wedi’u defnyddio i gynyddu ein lles digidol. Bydd y gyfres hon yn pwyso a mesur beth yw lles digidol a bydd yn cynnwys postiadau a ffeithluniau sy’n trafod lleihau straen llygaid, dadwenwyno digidol, amgylchedd gwaith a llawer mwy!
Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu drwy gydol y flwyddyn gyda sawl neges dymhorol, gan gynnwys heriau ar gyfer y Nadolig a’r Pasg. Gallwch hefyd ddefnyddio’r casgliadau LinkedIn Learning rydyn ni wedi’u curadu os hoffech wybod mwy rhwng postiadau, a gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf gyda’r holl negeseuon newydd o fewn y gyfres hon drwy’r dudalen hon ar ein blog Sgiliau Digidol.
I gyd-fynd â’r blogbost rhagarweiniol hwn, rydym wedi creu Canllaw i fyfyrwyr ar drechu straen llygaid cyfrifiadurol! (fersiwn testun gyda dolenni isod)
Fersiwn testun:
Canllaw i Fyfyrwyr ar drechu Straen Llygaid Cyfrifiadurol – Gan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr
Dyma rai awgrymiadau rydw i wedi’u defnyddio i helpu i wneud defnyddio cyfrifiaduron yn brofiad mwy pleserus trwy gydol fy ngradd. Mae mwy o wybodaeth ar y Blog Sgiliau Digidol.
Rheol 20-20-20
- Bob 20 munud
- Cymerwch egwyl o 20 eiliad
- Canolbwyntiwch ar wrthrych 20 troedfedd i ffwrdd
- Amrantwch lawer yn ystod yr egwyl hon
Lleihau Golau Glas
- Defnyddiwch feddalwedd i leihau golau glas
- Gosodiadau system megis Nightshift ar MacOS a Nightlight ar Windows
- Defnyddiwch feddalwedd trydydd parti megis f.lux
- Defnyddiwch sbectol hidlo golau glas
Galluogi Modd Tywyll
- Galluogwch y modd tywyll yn y gosodiadau system ar MacOS a Windows
- Newidiwch raglenni Office 365 i’r modd tywyll
- Defnyddiwch osodiadau ac ategion i newid rhaglenni eraill i’r modd tywyll
digi@aber.ac.uk