Ydych chi’n gweithio ar un sgrin ac yn ei chael hi’n anodd? Ydych chi wedi blino ar newid rhwng dwy ffenestr?
Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hollti’ch sgrin i weld dau beth ar unwaith sy’n ei gwneud hi’n llawer haws edrych ar ddwy ffenestr ar yr un pryd? Mae hyn yn golygu y gallwch weithio ar ddogfennau, tabiau a llawer mwy ochr yn ochr.
- Ar eich bysellfwrdd, i ochr chwith y bar gofod mae’r botwm Windows.Â
- Daliwch y botwm Windows ac yna tapio unrhyw allwedd saeth yr hoffech. Er enghraifft, daliwch y fysell Windows ac yna tapiwch y fysell saeth chwith.
- Bydd hyn yn symud eich dogfen i ochr chwith eich sgrin.
- Byddwch yn gweld yr holl ffenestri agored sydd gennych i lenwi gweddill y sgrin. Dewiswch ba ffenestr yr hoffech ei hagor.
Noder, mae’r cyfarwyddiadau hyn ar gyfer Windows PC yn unig. Os ydych chi’n gweithio ar Mac, edrychwch ar y cyfarwyddiadau canlynol i hollti’r sgrin: Use two Mac apps side by side in Split View – Apple Support (UK)Â
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!Â