Mynediad am ddim i LinkedIn Learning

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod LinkedIn Learning, adnodd E-ddysgu a ddarperir gan drydydd parti, bellach ar gael yn rhad ac am ddim i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Beth yw LinkedIn Learning? 

Mae gan y llwyfan dysgu ar-lein hwn lyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr; mae’r rhain yn amrywio o gyrsiau busnes i gynnwys creadigol a thechnolegol. Gallwch felly ei ddefnyddio i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol, i ddysgu meddalwedd newydd, ac i archwilio meysydd eraill wrth i chi gynllunio ar gyfer datblygiad personol, academaidd a thwf eich gyrfa. 

Dechrau arni

Mae LinkedIn Learning ar gael 24/7 o’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol. Ewch i LinkedIn Learning a mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau mewngofnodi yma.

Dilynwch y fideo hwn i ddysgu sut i ddechrau arni gyda LinkedIn Learning. 

Cyfle i ennill taleb gwerth £25 

Os byddwch yn actifadu eich cyfrif cyn 10 Ionawr 2022, byddwn yn eich cynnwys yn awtomatig mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o ddwy daleb rhodd gwerth £25. 

Gwybodaeth bellach 

Os cewch unrhyw anawsterau wrth fewngofnodi i LinkedIn Learning, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk).

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk). Gallwch hefyd ymweld â’r tudalennau Cwestiynau Cyffredin LinkedIn Learning

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*