Beth yw Galluoedd Digidol?

Mae’n bosib eich bod chi wedi clywed am alluoedd digidol yn barod, neu efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â’r term cysylltiedig, sgiliau digidol. Gyda sefydliad diweddar Prosiect Galluoedd Digidol newydd y Brifysgol, mae’n debygol y byddwch chi’n clywed llawer mwy am alluoedd digidol dros y misoedd nesaf.

Beth yw galluoedd digidol?

Yn ôl Jisc, mae galluoedd digidol yn arfogi unigolion i allu byw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas ddigidol. Yn sgil y pandemig, mae’r amser y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei dreulio ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol – drwy weithio, dysgu, addysgu a rhyngweithio gydag eraill ar-lein.

Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i ddysgu mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.

Fframwaith Galluoedd Digidol Jisc

Mae Jisc wedi datblygu Fframwaith Galluoedd Digidol sydd yn esbonio’r galluoedd gwahanol hyn mewn mwy o fanylder, ac rydym ni’n dilyn y fframwaith yn agos fel rhan o’r Prosiect Galluoedd Digidol. Mae’r fframwaith wedi’i grwpio i 6 prif allu, sydd bellach yn cael eu rhannu’n 15 elfen.

  1. Llythrennedd gwybodaeth, data a llythrennedd yn y cyfryngau
  2. Dysgu a datblygiad digidol
  3. Dysgu, creu ac arloesi digidol
  4. Cyfranogiad, cydweithio a chyfathrebu digidol
  5. Hunaniaeth a lles digidol
  6. Hyfedredd mewn TGCh
Fframwaith Galluoedd Digidol Jisc

 Cadwch lygaid ar y blog hwn gan y byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am bob un o’r chwe gallu yn y dyfodol agos.

Sut gallaf i asesu a datblygu fy ngalluoedd digidol?

Erbyn hyn, mae gan bob aelod o staff a myfyriwr fynediad am ddim i LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein sydd â llyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr. Cewch hyd yno i amrywiaeth enfawr o gynnwys a fydd o gymorth i chi i ddatblygu eich galluoedd digidol.

Wrth i ni ddatblygu’r Prosiect Galluoedd Digidol, byddwn yn rhoi mynediad i staff a myfyrwyr at adnoddau ac arweiniad pellach a fydd yn eich helpu i asesu a datblygu eich galluoedd digidol. Er enghraifft, rydym ni ar hyn o bryd yn treialu Offeryn Darganfod Digidol Jisc, adnodd dwyieithog sy’n galluogi defnyddwyr i hunanasesu eu galluoedd digidol, gyda sawl adran ar draws y Brifysgol. Cadwch lygaid ar y blog hwn gan y byddwn yn cyhoeddi canlyniadau, canfyddiadau a gwybodaeth gyffredinol am y prosiect peilot yn fuan.

Sut alla i gael rhagor o wybodaeth am alluoedd digidol?

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau gwe Galluoedd Digidol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning, Offeryn Darganfod Digidol Jisc, neu unrhyw ymholiadau cyffredinol am alluoedd digidol, cysylltwch â’r Swyddog Galluoedd Digidol (Dr Sioned Llywelyn) ar digi@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*