Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod LinkedIn Learning, adnodd E-ddysgu a ddarperir gan drydydd parti, bellach ar gael yn rhad ac am ddim i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Beth yw LinkedIn Learning?
Mae gan y llwyfan dysgu ar-lein hwn lyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr; mae’r rhain yn amrywio o gyrsiau busnes i gynnwys creadigol a thechnolegol. Gallwch felly ei ddefnyddio i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol, i ddysgu meddalwedd newydd, ac i archwilio meysydd eraill wrth i chi gynllunio ar gyfer datblygiad personol, academaidd a thwf eich gyrfa.
Dechrau arni
Mae LinkedIn Learning ar gael 24/7 o’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol. Ewch i LinkedIn Learning a mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau mewngofnodi yma.
Dilynwch y fideo hwn i ddysgu sut i ddechrau arni gyda LinkedIn Learning.
Cyfle i ennill taleb gwerth £25
Os byddwch yn actifadu eich cyfrif cyn 10 Ionawr 2022, byddwn yn eich cynnwys yn awtomatig mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o ddwy daleb rhodd gwerth £25.
Gwybodaeth bellach
Os cewch unrhyw anawsterau wrth fewngofnodi i LinkedIn Learning, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk).
Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk). Gallwch hefyd ymweld â’r tudalennau Cwestiynau Cyffredin LinkedIn Learning