Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyfrwng Cymraeg – Beth sydd ymlaen?

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnig nifer o sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn amrywiaeth o bynciau. Cynigir sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg a bydd sesiynau cyfrwng Cymraeg yn ymddangos yn Gymraeg ar wefan hyfforddi staff. Dyma drosolwg o’r sesiynau cyfrwng Cymraeg yr ydym yn eu cynnig drwy weddill y semester:

Tachwedd 2020

16.11.20 (11:00-12:30):

    • CDU: Datblygu eich arferion addysgu (D & A: Ar-lein)

17.11.20 (14:00-15:30):

    • CDU: Defnyddio MS Teams, Offer yr Ystafell Ddysgu ac Addysgu syncronaidd (D & A: Ar-lein)

20.11.20 (14:00-15:00):

    • Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Turnitin (D & A: Ar-lein)

25.11.20 (11:00-12:00):

    Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Panopto (D & A: Ar-lein)

Parhau i ddarllen

Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Hyfforddiant mis Hydref


Hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr ymchwil
Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhedeg nifer o weithdai ar gyfer myfyrwyr ymchwil drwy’r flwyddyn fel rhan o’u Rhaglen Sgiliau Ymchwil. Dyma gopi llawn o’r rhaglen ar gyfer 2020/21. Bydd rhaid i chi gofrestru o flaen llaw ar gyfer unrhyw weithdy, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon.

Dyma gip olwg i chi o’r gweithdai sydd yn rhedeg drwy gydol mis Hydref:

    Dydd Mawrth (13 Hydref), 11:00-11:30 – ‘Cyfres Iechyd a Lles myfyrwyr ôl-radd (Edrych ar ôl eich hun)’ – Andrew Tamplin (sesiwn 1/3 o’r Gyfres Iechyd a Lles myfyrwyr)
    Dydd Gwener (16 Hydref), 14:00-16:00 – ‘Sgiliau Addysgu ar gyfer Myfyrwyr Ôl-radd’ – Dyddgu Hywel
    Dydd Mawrth (20 Hydref), 11:00-12:00 – Rheoli amser a phwysau gwaith (gyda ffocws ar weithio o bell)’ – Mari Ellis Roberts
    Dydd Gwener (23 Hydref), 11:00-12:00 – ‘Rheoli’ch goruchwyliwr (gyda ffocws ar weithio o bell)’ – Nia Gwynn Meacher a Seren Evans


Hyfforddiant ar gyfer staff

Hefyd, fel rhan o Raglen Datblygu Staff (2020/21), mae’r gyfres ‘Iechyd a Lles: Chi fel Staff a’ch Myfyrwyr’ yn parhau fore Mawrth nesaf (9:30-10:00). Mae croeso mawr i unrhyw aelod o staff gofrestru a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon.

6 Hydref 2020: ‘Cyflwyniad i Ymchwil’ gyda Dr Elin Royles


Ymunwch â Dr Elin Royles ar 6 Hydref 2020 rhwng 11:00 a 12:30, fydd yn eich cyflwyno chi i ymchwil uwchraddedig. Bydd y sesiwn yn un byw ar-lein a gallwch gofrestru drwy ddilyn y ddolen hon.

Mae’r gweithdy hwn yn cael ei gynnal fel rhan o Raglen Sgiliau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a dyma gopi llawn o’r rhaglen ar gyfer 2020/21.

Rhaglen Datblygiad Staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol


Bydd rhaglen Datblygiad Staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni (2020/21) yn cael ei darparu ar-lein, gyda’r mwyafrif o’r gweithdai yn cael eu blaen-recordio a’u gosod ar y Porth Adnoddau, fel bod modd i staff eu dilyn pan mae hi’n gyfleus iddynt. Mae rhai o’r gweithdai eisoes ar y Porth Adnoddau, ac fe fydd rhagor yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf.

Yn ogystal â gweithdai sydd wedi’i blaen-recordio, bydd rhai gweithdai yn cael eu cynnal yn fyw. Dyma gipolwg o rai o’r sesiynau a ddarperir yn fyw:

Hydref 2020
Dydd Mawrth (6 Hydref), 09:30-10:00 – Cyfres Iechyd a Lles: chi fel staff a’ch myfyrwyr (1/3)
Dydd Mawrth (13 Hydref), 09:30-10:00 – Cyfres Iechyd a Lles: chi fel staff a’ch myfyrwyr (2/3)
Dydd Mawrth (20 Hydref), 09:30-10:00 – Cyfres Iechyd a Lles: chi fel staff a’ch myfyrwyr (3/3)

Ionawr 2021
Dydd Mercher (27 Ionawr), 15:00-16:30 – Gweminar dysgu ac addysgu (rhannu arfer dda o ddysgu cyfunol)

Mehefin 2021
Dydd Mercher (23 Mehefin), 15:00-16:30 – Gweminar dysgu ac addysgu (rhannu arfer dda o ddysgu cyfunol)
Dydd Mawrth (29 Mehefin) – Cynhadledd Ymchwil y Coleg (ffurf a lleoliad i’w gadarnhau)

Cymerwch olwg ar y rhaglen lawn ar gyfer 2020/21, a dilynwch y ddolen hon i gofrestru.