Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)
Mae LinkedIn Learning yn cynnig llyfrgell helaeth o gyrsiau a fideos ar-lein, ac maent ar gael yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol (dysgwch sut i gychwyn arni). Ond, oeddech chi’n gwybod bod modd gwylio cyrsiau LinkedIn Learning mewn amrywiaeth o ieithoedd – nid dim ond yn Saesneg?
Yn anffodus, nid yw Cymraeg ar rhestr eto (rydyn ni’n croesi’n bysedd! 🤞), ond mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau ar gael yn yr 13 iaith isod, a allai hwyluso pethau i’r rhai nad Saesneg yw eu mamiaith.
Saesneg
Tsieinëeg wedi’i symleiddio
Ffrangeg
Almaeneg
Siapaneg
Portiwgaleg
Sbaeneg
Iseldireg
Eidaleg
Tyrceg
Pwyleg
Corëeg
Bahasa Indonesia
Sut ydw i’n chwilio am gynnwys yn fy newis iaith?
Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y camau syml hyn i ddysgu sut i chwilio am gynnwys LinkedIn Learning yn eich dewis iaith:
Dechreuwch drwy chwilio am gwrs – gallwch naill ai bori trwy’r gwahanol gategorïau neu deipio yn y bar chwilio
Dewiswch eich iaith o’r hidlydd iaith
Os nad yw’r hidlydd iaith yn ymddangos, dewiswch Pob Hidlydd/All Filters
Rhagor o gymorth wrth ddefnyddio LinkedIn Learning
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth wrth ddefnyddio LinkedIn Learning, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu mae croeso i chi ddod i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol yn yr Hwb Sgiliau, Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen.
Ydych chi erioed wedi bod angen tynnu sgrinlun o sgrin eich cyfrifiadur? Efallai eich bod angen ychwanegu tudalen at eich nodiadau adolygu. Mae yna nifer o offer ar gael ond gyda TipDigidol 26 rydyn ni’n dangos llwybr byr i chi gymryd sgrinlun yn gyflym.
Gallwch dynnu sgrinlun o’ch sgrin trwy ddefnyddio’r llwybr byr “bysell Windows + Shift + S”. Yna gallwch naill ai agor y sgrinlun mewn golygydd neu gopïo’r ddelwedd i mewn i ddogfen, PowerPoint, OneNote a mwy!
Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad cyflym.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)
Yn yr oes sydd ohoni, mae’r rhan fwyaf ohonom yn dibynnu’n helaeth ar dechnoleg. Er bod y byd digidol yn cynnig posibiliadau ac adnoddau diddiwedd, mae’n hanfodol parhau i gofio ei effeithiau posibl ar ein lles digidol. A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion dyma gyfle perffaith i rannu detholiad o awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i gael perthynas iachach â thechnoleg.
Beth yw Rheolwr Tasgau ar gyfer cyfrifiaduron? Pam mae’n bwysig?
Gall Rheolwr Tasgau (a elwir hefyd yn Fonitor Gweithgaredd ar gyfer systemau macOS) ddangos i chi pa raglenni a chymwysiadau sy’n rhedeg ar eich cyfrifiadur ar y pryd.
Os yw’ch cyfrifiadur yn llusgo o ran cyflymder neu berfformiad cyffredinol, neu efallai fod angen datrys rhywfaint o broblemau ar raglen, gallwch ddefnyddio’r Rheolwr Tasgau i adolygu’r hyn sy’n digwydd yn y cefndir a hyd yn oed atal ap nad yw wedi bod yn ymateb, heb orfod ailgychwyn eich cyfrifiadur!
Ar gyfer systemau gweithredu Windows, gallwch ddilyn y llwybr byr hwn i gael mynediad at Reolwr Tasgau Windows:
Ctrl + Shift + Esc
Ar gyfer systemau gweithredu macOS, gallwch ddilyn y llwybr byr hwn i gael mynediad at y rhaglen Monitor Gweithgaredd:
CMD + ALT + ESC
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Y thema eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant, ac mae’n rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae’n ddiwrnod i’n hannog ni i weithio gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy cynhwysol a chyfiawn.
Dyma ddetholiad o fideos a chyrsiau LinkedIn Learning, sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Gallwch gael mynediad i’r holl gynnwys am ddim gyda’ch cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth.
Proffil myfyriwr graddedig cyntaf Semester 2 yw proffil Weronika, sydd â phrofiad helaeth o ddefnyddio meddalwedd golygu lluniau a fideo, ond mae’n dymuno iddi fod wedi dysgu mwy am gysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill ar wefannau rhwydweithio fel LinkedIn cyn iddi adael Prifysgol Aberystwyth. Os oes gennych ddiddordeb hefyd mewn dysgu sut i ddefnyddio LinkedIn, edrychwch ar y sesiwn LinkedIn gyda Gwasanaeth Gyrfaoedd PA yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol ddiweddar.
Ydych chi erioed wedi gweithio ar ddogfen Excel fawr ac wedi sgrolio i lawr i ddod o hyd i ffigur, ond wedyn wedi gorfod sgrolio’n ôl i fyny i’r brig eto i’ch atgoffa’ch hun beth oedd pennawd y golofn honno?!
Mae nodwedd hynod o ddefnyddiol yn Excel a all eich helpu gyda hyn, sy’n galluogi i chi rewi un neu fwy o resi a cholofnau. Gallwch ddefnyddio’r nodwedd yn Excel drwy glicio ar Gweld > Rhewi’r Cwareli.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae rhewi colofnau a rhesi:
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich ffôn yn eich rheoli chi mwy nag yr ydych chi’n rheoli eich ffôn? Dyna’n union yr oeddwn i’n ei deimlo, nes i mi gyrraedd croesffordd y llynedd. Yn rhwystredig oherwydd yr ymdrechion aflwyddiannus i leihau fy amser ar sgrin a’r teimlad o fod yn sownd mewn byd digidol, cychwynnais ar daith ddadwenwyno digidol trwy gydol mis Rhagfyr – gallwch ddarllen amdani yma.
Yn y blogbost hwn, byddaf yn rhannu fy mhrofiad, yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, a’r gwersi a ddysgais o adennill rheolaeth dros fy arferion digidol.
👍 Newidiadau cadarnhaol o’m detocs
Llai, nid mwy, o unigrwydd. Wnes i erioed sylweddoli faint yr oedd cyfryngau cymdeithasol yn draenio fy matri cymdeithasol. Ar ôl peth amser hebddo, roeddwn i’n ei chael hi’n haws mynd allan a rhyngweithio â phobl, ac yn sicr ni wnes i golli’r ofn fy mod yn colli allan.
Gwell ymwybyddiaeth emosiynol. Roeddwn i’n meddwl bod defnyddio fy ffôn yn helpu i reoleiddio fy emosiynau, ond dim ond tynnu sylw ydoedd. Ar ôl addasiad annymunol, gallwn gydnabod a phrosesu fy nheimladau’n fwy iach.
Trefn bore newydd. Roeddwn i’n meddwl nad oedd gen i un, ond fy nhrefn boreol oedd defnyddio fy ffôn. Ar ôl i mi stopio, roeddwn i’n ei chael hi’n haws gwneud pethau eraill, megis ysgrifennu yn fy nyddiadur gyda phaned o de.
Cynhyrchiant a chreadigrwydd diymdrech. Gallwn wneud llawer yn yr eiliadau bach hynny pan fyddwn fel arfer yn codi fy ffôn. Roedd fy meddwl yn glir hefyd i feddwl am fy natrysiadau fy hun yn hytrach na chwilio amdanynt ar-lein.
Gorffwys gwell. Roedd ansawdd fy nghwsg yn gwella, ac roedd seibiannau bach yn ystod y dydd yn fwy hamddenol.
Byw i’r funud. Roedd hi’n haws mwynhau’r cyfnodau bach bob dydd ac roedd amser fel petai’n arafu.
👎 Rhai o’r anfanteision a’r heriau a brofais
Ymfudodd fy arferion digidol i apiau eraill. Am gyfnod, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd peidio â disodli’r cyfryngau cymdeithasol gyda YouTube neu hyd yn oed sgrolio trwy fy lluniau neu negeseuon. Roedd ap ScreenZen yn ddefnyddiol iawn – Darllenwch fy adolygiad o’r ap yma.
Y cyfnod addasu. Am beth amser, roeddwn i’n teimlo’n anniddig ac yn ddiflas ac yn crefu i gael defnyddio fy ffôn trwy’r amser. Roedd angen i mi ail-ddysgu sut i dreulio fy amser a bod yn amyneddgar.
Yr anghyfleustra. Roeddwn i’n synnu faint oedd angen i mi ddefnyddio fy ffôn i wirio’r amser, gosod y larwm neu’r amserydd, defnyddio dilysu aml-ffactor, neu dalu am bethau.
Colli allan. Mae llawer o ddigwyddiadau, megis gigs lleol neu ddigwyddiadau clybiau a chymdeithasau, yn cael eu hysbysebu ar-lein yn unig. Roeddwn i’n cael gwybod am lawer o gyfleoedd ar ôl iddynt ddigwydd, a hyd yn oed wrth chwilio’n rhagweithiol, roedd y rhan fwyaf o ganlyniadau chwilio yn mynd â mi i wefannau cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn aml yn golygu mewngofnodi i gael mynediad at y cynnwys llawn.
Fy nghyngor i’r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud detocs digidol
Nid oes rhaid iddo fod yn berffaith. Hyd yn oed os oes angen i chi ddefnyddio dyfeisiau ar gyfer gwaith / astudio neu os ydych yn baglu o ran eich ymrwymiadau, mae’n dal yn bosibl – gallwch chi elwa yn fawr o’r profiad o hyd.
Addasu wrth i chi fynd. Efallai y bydd angen i chi addasu eich disgwyliadau os nad yw pethau’n mynd yn union fel y cynlluniwyd, nid methiant yw hyn. Dathlwch lwyddiannau bach a dod o hyd i’r hyn sy’n teimlo’n dda i’ch helpu i adeiladu arferion cynaliadwy.
Nid yw’n ddedwyddwch llwyr, ond nid yw’n ddiflastod llwyr chwaith. Bydd adegau pan fyddwch chi eisiau rhoi’r gorau iddi ac adegau pan na fyddwch chi’n difaru dim. Bydd eich profiad a phopeth rydych chi’n ei ddysgu amdanoch chi’ch hun yn unigryw, ac efallai taw hyn yw’r peth mwyaf gwerthfawr.
Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)
Dydd Gŵyl Dewi Hapus!
Mae’n hynod o bwysig bod dewis gan bawb i weithio ar eu cyfrifiadur yn yr iaith y dymunant. Ar Ddydd Gŵyl Dewi, rwyf am rannu rhai o fy hoff awgrymiadau gyda chi ar gyfer gwneud gweithio yn Gymraeg ar eich cyfrifiadur yn llawer mwy hwylus.
Awgrym 1: Newid iaith eich cyfrifiadur i’r Gymraeg
Un o’r pethau cyntaf gallwch wneud yw newid iaith arddangos eich cyfrifiadur. Bydd hyn yn addasu rhyngwyneb eich cyfrifiadur a bydd eiconau fel Gosodiadau (Settings) a Chwilotwr Ffeiliau (File Explorer) yn ymddangos yn Gymraeg.
Awgrym Ychwannegol: A wyddoch chi y gallwch chi hefyd addasu iaith arddangos eich ffôn symudol? Dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol ar gyfer eich ffonau Android neu Apple.
Awgrym 2: Newid iaith meddalwedd penodol i’r Gymraeg
Os nad ydych eisiau newid iaith eich cyfrifiadur, mae hefyd opsiwn i chi newid iaith meddalwedd penodol, a gallwch wneud hyn yn unrhyw raglen Microsoft Office (e.e. Word, Outlook, PowerPoint, ayyb). Mae gennych chi’r opsiwn i newid yr iaith arddangos ac i newid eich iaith awduro a phrawf ddarllen. Dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol i ddysgu sut i newid iaith meddalwedd penodol.
Awgrym 3: Defnyddio app to bach
Tra’n ysgrifennu yn Gymraeg, ydych chi erioed wedi defnyddio botwm symbolau i ddod o hyd i acenion neu do bach ar gyfer llythrennau? Does dim angen i chi wneud hynny mwyach!
Gallwch lawrlwytho meddalwedd to bach ar eich cyfrifiadur gwaith o’r ganolfan feddalwedd neu ar eich cyfrifiadur personol, wedyn daliwch allwedd Alt Gr i lawr a theipio’r llafariad rydych chi’n dymuno cael to bach arni:
Strôc Allweddol
Symbol
Alt Gr + a
â
Alt Gr + e
ê
Alt Gr + o
ô
Alt Gr + i
î
Alt Gr + y
ŷ
Alt Gr + w
ŵ
Alt Gr + u
û
Awgrym 4: Newid iaith prawf ddarllen eich dogfennau
Os nad ydych chi wedi newid iaith awduro a phrawf ddarllen meddalwedd penodol (gweler awgrym 2), yna gallech addasu iaith prawf ddarllen dogfennau unigol er mwyn sicrhau bod gwallau sillafu a gwallau gramadegol syml yn cael eu amlygu.
Gwyliwch y fideo canlynol i ddysgu sut i newid iaith prawf ddarllen eich dogfennau.
Awgrym 5: Gwirio eich testun gyda Cysill
Mae Cysill yn rhan o becyn meddalwedd iaith Cysgliad y gallwch ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. Bydd Cysill yn caniatáu i chi adnabod o chywiro gwallau Cymraeg yn eich testun, ac mae’n cynnwys thesawrws defnyddiol.
Darllenwch TipDigidol 2 lle rydyn ni’n rhoi cyfarwyddiadau i lawrlwytho a defnyddio fersiwn ap ac ar-lein Cysill.
Awgrym 6: Adnoddau Ieithyddol ychwanegol
Gallwch hefyd ddod o hyd i lu o gronfeydd terminoleg ar-lein. Dyma rhai o’r rhai mwyaf poblogaidd:
TermCymru – cronfa derminoleg sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â’r adnoddau sydd wedi’u crybwyll uchod, mae gwybodaeth helaeth ar dudalen we Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ar adnoddau ieithyddol.
Cymorth Bellach 💬
Os hoffech chi siarad â aelod o’r Tîm Sgiliau Digidol am ddefnyddio eich cyfrifiadur yn Gymraeg, ac am unrhyw gymorth gydag unrhyw un o’r awgrymiadau uchod, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni drwy e-bost (digi@aber.ac.uk), neu alw heibio i’n sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol wythnosol yn Llyfrgell Hugh Owen.
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
⭐⭐⭐⭐⭐
Rating: 4.5 out of 5.
Prif fanteision: Am ddim. Gallwch addasu gosodiadau ar gyfer gwahanol apiau. Mae’n ysbrydoledig.
Prif anfanteision: Mae’n cymryd ychydig o amser i’w osod i fyny.
Beth yw ScreenZen?
Mae ScreenZen yn ap hyblyg sy’n grymuso defnyddwyr i osod ffiniau gyda’u dyfeisiau. Yn wahanol i atalyddion apiau traddodiadol sy’n cyfyngu mynediad yn gyfan gwbl, mae ScreenZen yn cyflwyno dull newydd trwy gynyddu’r rhwystr i fynediad. Trwy roi amser a lle meddyliol i ddefnyddwyr wneud penderfyniadau ymwybodol am eu defnydd digidol, mae ScreenZen yn naturiol yn meithrin ymwybyddiaeth ofalgar wrth ryngweithio â thechnoleg ac, felly, gwell lles digidol.
Mae’r ap yn gwbl rad ac am ddim ac ar gael ar gyfer defnyddwyr Apple ac Android.
Beth yw prif nodweddion ScreenZen?
Yr hyn sy’n gosod ScreenZen ar wahân yw ei addasrwydd rhyfeddol, a’i brif nodweddion yw:
Caniatáu i chi ddewis amser aros penodol cyn i chi agor pob ap.
Torri ar eich traws wrth i chi ddefnyddio apiau dethol ar ôl amser penodol (gallwch osod amseroedd gwahanol ar gyfer eich apiau amrywiol).
Eich torri i ffwrdd pan fyddwch wedi cyrraedd eich terfyn amser dyddiol neu derfyn codi (h.y. sawl gwaith yr ydych chi’n agor ap bob dydd) a hyd yn oed eich atal rhag newid y gosodiadau i fynd o gwmpas hyn.
Arddangos neges ysgogol neu eich atgoffa am weithgareddau mwy gwerthfawr i chi.
Cyflwyno mwy o ymwybyddiaeth ofalgar i’ch arferion digidol trwy eich annog i wneud gweithgareddau anadlu wrth aros i’r ap ddatgloi, sydd hefyd yn eich annog i ailwerthuso’ch angen i ddefnyddio’r ap rydych chi’n ceisio ei agor.
I’r rhai sy’n llawn cymhelliant, cyrchu pyliau ac ystadegau eraill i olrhain eich cynnydd a’ch annog i aros ar y trywydd iawn, ond dim ond ar gyfer yr apiau rydych chi’n eu dewis, fel y gallwch chi ddarllen e-lyfrau o hyd neu ddefnyddio’ch hoff ap myfyrdod heb boeni am golli’ch pwl!
Fy meddyliau terfynol ar ScreenZen
A fyddaf yn parhau i ddefnyddio ScreenZen? Yn bendant!
Fy hoff beth am yr ap hwn yw ei fod yn ei gwneud hi’n haws alinio fy newisiadau digidol â fy ngwerthoedd a’m harferion a gall fod yn ddefnyddiol i unrhyw un. P’un a yw’n well gennych derfynau llym neu ddim ond eisiau meithrin ymwybyddiaeth o’ch arferion digidol, mae ScreenZen yn darparu’r dewisiadau amrywiol hyn. Mae’r nodweddion addasu yn golygu ei bod yn cymryd amser i’w osod, ond ar ôl ei osod, gwelais fod yr ap hwn yn ychwanegiad gwerthfawr at gefnogi fy lles digidol.