Os oes angen i chi roi cyflwyniad o fewn terfyn amser caeth, efallai yr hoffech ymarfer i gael yr amseru’n berffaith. Gyda ThipDigidol 39, gallwch ddysgu sut i ymarfer eich cyflwyniad a gweld faint o amser a ddefnyddiwyd gennych fesul sleid. Edrychwch ar y clip byr isod i weld sut i ymarfer:
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Yr wythnos hon bydd ein cyfres saith wythnos o Broffiliau Sgiliau Digidol Cyflogwyr yn dechrau. Yn debyg i’r Gyfres Proffiliau Graddedigion a ryddhawyd gennym y llynedd, mae’r gyfres Proffiliau Cyflogwyr yn gyfres o broffiliau gan amrywiaeth o gyflogwyr i helpu i weld pa sgiliau digidol sy’n hanfodol a gwerthfawr ar draws proffesiynau amrywiol. Bydd proffil newydd yn cael ei ryddhau bob dydd Iau am 11:30 gan ddechrau’r wythnos hon gyda chwmni theatr Arad Goch! Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y proffiliau newydd bob wythnos a gallwch fynd yn ôl a darllen ein Cyfres Proffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion yma.
P’un ai eich bod yn trafod syniadau newydd, yn adolygu ar gyfer arholiad, neu’n cymryd nodiadau, gall mapiau meddwl fod yn adnodd effeithiol ar gyfer datrys problemau, cofio gwybodaeth, a llawer mwy!
Mae Ayoa yn feddalwedd dwyieithog sy’n eich galluogi i greu cymaint o fapiau meddwl ag y dymunwch am ddim. Gallwch ddarllen mwy am Ayoa yn ein blogbost blaenorol.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Ydych chi erioed wedi ceisio meddwl am air gwahanol i ddiwygio eich brawddeg? Nid oes angen pendroni mwyach! Gyda Thipdigidol 37, dysgwch sut i ddefnyddio’r nodwedd cyfystyron yn Word. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam isod neu gwyliwch y fideo byr i ddysgu mwy!
Yn syml:
Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y gair o’ch dewis
Daliwch y llygoden dros ‘cyfystyron’
Dewiswch air newydd!
Dal ddim yn gweld gair priodol? Dewiswch thesawrws i weld mwy!
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Efallai y bydd adegau pan fydd rhywun wedi anfon e-bost atoch, a hoffech gydnabod ei dderbyn heb anfon ateb arall. Nodwedd wych i’w defnyddio yn yr achos hwn yw’r nodwedd ymateb yn Outlook, sy’n gweithio’n debyg i’r rhai yn MS Teams neu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol.
I ymateb i e-bost, cliciwch ar y botwm wyneb hapus ar frig eich sgrin. Yna gallwch ddewis o chwe emoji, yn amrywio o fawd i fyny 👍 i wyneb trist! 😥
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
A oes arnoch angen cloi’ch sgrin yn gyflymach na mynd trwy’r ddewislen Dechrau? Mae TipDigidol 35 yn cynnig datrysiad i chi!
Oeddech chi’n gwybod y gallwch gloi’ch sgrin yn gyflym trwy ddewis y fysell Windows a phwyso ‘L’.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Ym mis Medi 2023, gwnaethom lansio safle Blackboard newydd ‘Hanfodion Digidol GG ar gyfer Dysgu’. Mae’r safle yn benllanw adnoddau gan y Gwasanaethau Gwybodaeth y gallai aelodau newydd o staff academaidd fod eu hangen. Mae hyn yn cynnwys rhestr wirio ar gyfer popeth sydd angen i chi ei gwblhau cyn i chi ddechrau addysgu, yn ogystal â gwybodaeth a mynediad at adnoddau y gallai fod eu hangen arnoch ar hyn o bryd, neu efallai yr hoffech ddysgu trwy gyfrwng technoleg.
Dyma neges i atgoffa’r holl staff academaidd bod safle Blackboard yn dal i fod ar gael i gefnogi unrhyw staff newydd neu bresennol. Edrychwch ar wefan Blackboard i ddysgu mwy.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael trafferth cael mynediad i’r cwrs. Cysylltwch â ni ar digi@aber.ac.uk
Ydych chi erioed wedi bod mewn cyfarfod MS Teams lle mae angen i chi anfon rhestr gyflym sy’n hawdd i eraill ei darllen? Mae dwy ffordd gyflym o greu pwyntiau bwled neu restrau wedi’u rhifo mewn unrhyw sgwrs MS Teams.
Opsiwn 1
Gallwch naill ai glicio ar yr eicon fformat yn y sgwrs, a gallwch greu pwyntiau bwled neu restr wedi’i rhifo’n hawdd oddi yma.
Opsiwn 2
Neu os ydych chi mewn sgwrs Teams:
Pwyswch – ac yna’r bar gofod i ddechrau eich pwyntiau bwled
Pwyswch 1. ac yna’r bar gofod i ddechrau eich rhestr wedi’i rhifo
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Yr wythnos nesaf bydd yr adnodd TipDigidol, ein hawgrym unwaith yr wythnos i’ch helpu gyda’ch Sgiliau Digidol! Gallwch weld y TipDigidol a bostiwyd y llynedd yma a darganfod pa 5 oedd y mwyaf poblogaidd yn y blogbost hwn. Cofiwch gadw eich llygaid allan am bob TipDigidol eleni trwy danysgrifio i’r blog!
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Ym mis Medi 2023, dechreuodd y Tîm Sgiliau Digidol TipDigidol – blogbost wythnosol i dynnu sylw at awgrymiadau defnyddiol y gallwch eu defnyddio i wneud eich bywyd digidol dyddiol yn haws. Isod ceir y 5 prif TipDigidol o 2023/24.
Ydych chi’n gweithio ar un sgrin ac yn ei chael hi’n anodd? Ydych chi wedi blino ar newid rhwng dwy ffenestr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hollti’ch sgrin i weld dau beth ar unwaith sy’n ei gwneud hi’n llawer haws edrych ar ddwy ffenestr ar yr un pryd? Mae hyn yn golygu y gallwch weithio ar ddogfennau, tabiau a llawer mwy ochr yn ochr.
Bydd y rhan fwyaf ohonom yn fwy cyfarwydd â defnyddio emojis ar ein ffonau symudol 📱, ond bydd adegau pan fyddwn eisiau cynnwys emojis wrth ddefnyddio ein gliniaduron neu gyfrifiaduron 💻. Yn hytrach na chwilio ar y we am yr emoji sydd ei angen arnoch, beth am ei gyrchu’n uniongyrchol o’ch bysellfwrdd!
Ydych chi’n cael trafferth canolbwyntio ar eich gwaith? Ydych chi’n oedi a gohirio ar gyfryngau cymdeithasol? Ydych chi angen cyfyngu eich amser sgrolio? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi nawr gyfyngu ar eich amser sgrolio Instagram trwy’r gosodiadau ar Instagram?
Ydych chi erioed wedi copïo a gludo cynnwys o dudalen we neu ddogfen arall i ddogfen Word newydd a chanfod ei fod yn gwneud llanast llwyr o’ch fformatio? Yn ffodus, mae opsiynau ychwanegol y tu allan i’r opsiwn gludo sylfaenol (ctrl + v) a all helpu i ddatrys hyn!
Weithiau, efallai y bydd angen i chi neilltuo peth amser i ganolbwyntio ar ddarn penodol o waith, ond sut allwch chi ddangos i bobl eraill sydd ar-lein hefyd eich bod chi’n brysur? Mae Microsoft Teams yn caniatáu ichi osod eich statws i Do not disturb, sy’n golygu na fydd hysbysiadau neu alwadau Teams yn tarfu arnoch (oni bai eich bod yn dewis derbyn y rhain gan bobl benodol), ond gall fod yn hawdd anghofio diffodd y statws hwn ar ôl i chi orffen.
Ymunwch â ni ym mis Hydref 2024 am fwy o’r TipDigidol, i ddilyn ein TipDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu fel arall, gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon, lle ychwanegir TipDigidol newydd bob wythnos gan ddechrau o fis Hydref!