Ar Ddydd Mawrth 28.03.23 (12:00-14:00), bydd yr adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn cynnal seminar wyneb yn wyneb i helpu ymchwilwyr i benderfynu a yw eu syniad am ap yn ymarferol a sut i fynd ati i wneud iddo ddigwydd.
Bydd y seminar yn cael ei arwain gan yr Athro Chris Price o’r Adran Gyfrifiadureg.
A hoffech chi ddysgu sut i ddefnyddio marchnata digidol i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?
Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Digital Marketing Masterclass gyda Francesca Irving o ‘Lunax Digital’ ar Ddydd Mercher 8 Chwefror (2yh).
A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu pa adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i asesu a datblygu eich galluoedd digidol? Neu, efallai bod diddordeb gennych chi mewn dysgu mwy am sut y gallwch gefnogi’ch myfyrwyr i ddatblygu eu galluoedd digidol?
Byddwn ni’n cynnal nifer o sesiynau hyfforddi i staff drwy gydol mis Ionawr. Os nad oes modd ichi fynychu’r sesiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk a gallwn drefnu sgwrs i chi ag aelod o’n tîm.
Rydym yn falch iawn o gael ein croesawu gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (UDDA) i arwain dwy sesiwn ar Alluoedd Digidol fel rhan o’u rhaglen Fforwm yr Academi y flwyddyn academaidd hon. Mae Fforwm yr Academi yn rhoi llwyfan i staff a myfyrwyr rannu arferion da wrth ddysgu ac addysgu. Am gyhoeddiadau a mwy o wybodaeth am sesiynau sydd ar y gweill, gallwch ddilyn Blog Fforwm Academi’r UDDA.
Cynhelir Rhan 1 ar Ddydd Mercher 7 Rhagfyr (2-3:30pm). Yn ystod y sesiwn hon gwahoddir staff i rannu’r gwahanol arferion sydd ganddynt ar hyn o bryd i gefnogi eu myfyrwyr i deimlo’n hyderus ac yn alluog wrth ddefnyddio technolegau digidol amrywiol, yn ogystal â’r heriau sydd ynghlwm â hyn, a’r dulliau o oresgyn y rhain.
Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff a chadwch olwg am fanylion Rhan 2, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan! Ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Tîm Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).
Daeth degfed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth, a gynhaliwyd rhwng 12 a 14 Medi 2022, â’r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o’r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i’r dulliau cyffrous ac arloesol sy’n cael eu defnyddio wrth addysgu.
Fe wnaethom ni gynnal trafodaeth banel (Cefnogi datblygiad galluoedd digidol myfyrwyr) ar ddiwrnod olaf y gynhadledd, gyda Saffron Passam (Yr Adran Seicoleg), Megan Williams (Ysgol Fusnes Aberystwyth) a Panna Karlinger (Ysgol Addysg), sef y staff academaidd gwych a oedd yn rhan o gynllun peilot yr Offeryn Darganfod Digidol gyda myfyrwyr y llynedd.
Aelodau’r Panel: Megan Williams (chwith-uchaf), Saffron Passam (dde-uchaf), Panna Karlinger (gwaelod-ganol). Hwylusydd y Panel: Sioned Llywelyn (gwaelod-chwith)
Os na welsoch chi ein trafodaeth banel, gallwch wylio recordiad ohoni yma. Fe wnaethom roi crynodeb byr o’r cynllun peilot a rhannodd Saffron, Megan a Panna sylwadau gwerthfawr ar yr hyn a weithiodd yn dda, a ddim cystal, iddynt yn ystod y cynllun peilot. Fe wnaethon nhw hefyd rannu eu cynghorion gorau i helpu myfyrwyr i ddefnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol, a buom hefyd yn trafod yr heriau a’r llwyddiannau ehangach wrth geisio gwreiddio sgiliau megis galluoedd digidol o fewn y cwricwlwm.
Adnoddau a Chefnogaeth Bellach:
Os byddwch chi’n cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol eleni, gweler y gronfa newydd o Adnoddau Addysgu i Staff (bydd angen mewngofnodi). Gallwch hefyd drefnu ymgynghoriad gydag aelod o’n tîm drwy anfon e-bost at digi@aber.ac.uk.
Rydym ni’n cynnig hyfforddiant i staff gydag Offeryn Darganfod Digidol Jisc i helpu i wella eich sgiliau a’ch galluoedd digidol. Byddwn yn rhoi trosolwg o alluoedd digidol, gan weithio drwy hunan-asesiad yr Offeryn Darganfod Digidol a thrafod pa adnoddau sydd ar gael i chi yn ogystal â pha mor bwysig yw galluoedd digidol ar gyfer staff Prifysgol Aberystwyth.
Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:
12 Hydref 2022 (14:00 – 14:45): Getting started with your digital capailities.
20 Hydref 2022 (15:00 – 15:45): Getting started with your digital capabilities.
Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Tîm Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).
Mae LinkedIn Learning yn llwyfan dysgu ar-lein sydd â llyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr. Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi yn ystod mis Hydref 2022 a Ionawr 2023 ar gyfer staff academaidd sydd â diddordeb mewn defnyddio LinkedIn Learning i gefnogi eu haddysgu.
Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:
11 Hydref 2022 (11:00-12:00): Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu
13 Hydref 2022 (14:00-15:00): Using LinkedIn Learning to Support your Teaching
17 Ionawr 2023 (12:00-13:00): Using LinkedIn Learning to Support your Teaching
18 Ionawr 2023 (14:00-15:00): Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu
Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).
A ydych chi eisiau dysgu sut i wella eich sgiliau cyfathrebu digidol, ac yn enwedig sut i ddefnyddio Instagram i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?
Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Use Instagram for your Business/Social Enterprise– with Kacie Morgan, ar 5 Medi (18:00-19:00). Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal ar-lein dros MS Teams.
Bydd yr Offeryn Darganfod Digidol ar gael i bob myfyriwr Blwyddyn Sylfaen a Blwyddyn Gyntaf o ddechrau blwyddyn academaidd 2022/23. Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi yn ystod mis Medi a Hydref ar gyfer staff academaidd a fydd yn cefnogi eu myfyrwyr i adolygu eu hadroddiadau Offeryn Darganfod Digidol, a bydd yn hwyluso sgyrsiau gyda myfyrwyr am alluoedd digidol.
Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:
15 Medi 2022 (11:00-12:00): Introduction to the Digital Discovery Tool
15 Medi 2022 (15:00-16:00): Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol
19 Medi 2022 (10:00-11:00): Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol
21 Medi 2022 (14:00-15:00): Introduction to the Digital Discovery Tool
4 Hydref 2022 (11:00-12:00): Introduction to the Digital Discovery Tool
7 Hydref 2022 (14:00-15:00): Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol
Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am fod yn guradur yn LinkedIn Learning? Gyda hawliau curadur gallwch lanlwytho a threfnu’ch cynnwys mewn fformat a fydd yn hawdd i’r gynulleidfa ei defnyddio ac yn ennyn ei diddordeb, yn ogystal â deall sut mae eich cynulleidfa yn defnyddio’ch cynnwys.
Bydd Simon Lee, Uwch Reolwr Llwyddiant Cwsmeriaid ar gyfer Addysg Uwch yn LinkedIn, yn cyflwyno dwy sesiwn hyfforddi i staff Prifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin i ddangos sut i wneud y gorau o’r hawliau curadur yn LinkedIn Learning. Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i rannu’n ddwy ran, ac mae croeso i staff fynychu’r naill sesiwn neu’r llall ond fe’u hanogir i fynychu’r ddwy.
Dydd Mawrth 14 Mehefin (14:30-15:30) – LinkedIn Learning: Content and Curation (Part 1)*
Dydd Mawrth 21 Mehefin (10:00-11:00) – LinkedIn Learning: Content and Curation – Learning in discussion (Part 2)*
*Noder y bydd y ddwy sesiwn yn cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).