Blogbost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Fel Microsoft Word, mae PowerPoint yn rhaglen Microsoft arall yr ydych chi fwy na thebyg wedi’i defnyddio o’r blaen. Gall cynllunio ar gyfer rhoi cyflwyniad fod yn dasg frawychus i rai, oherwydd nid yn unig y mae’n rhaid i chi siarad o flaen eich cyd-fyfyrwyr, ond bydd eich cyflwyniad PowerPoint hefyd yn cael ei arddangos ar sgrin fawr. Ond, peidiwch â phoeni oherwydd bydd gan y blogbost hon rai awgrymiadau a thriciau gwerthfawr i’ch helpu i droi cyflwyniad da yn gyflwyniad GWYCH!
Awgrym 1: Mewnosod data Excel i PowerPoint
Os yw’ch cyflwyniad yn gofyn i chi ddangos data o ddogfen Microsoft Excel sy’n bodoli eisoes, mae ffordd hawdd o’i arddangos o fewn PowerPoint.

- Ar y sleid yr ydych am i’ch data ymddangos arni, ewch i Insert > Object
- O’r ffenestr Insert Object, dewiswch Create from file > Browse > yna dewiswch y ffeil Microsoft Excel lle mae’r siart yr hoffech ei chynnwys wedi’i lleoli > OK
- Bydd hyn yn mewnosod y data a’r siart yn awtomatig o’ch dogfen Microsoft Excel
- Gallwch olygu’r data hwn yn uniongyrchol yn eich dogfen PowerPoint trwy glicio ddwywaith ar y siart ar eich sleid
- Cliciwch y tu allan i’r siart pan fyddwch chi wedi gorffen, a bydd PowerPoint yn cynhyrchu siart gyda’ch data Excel!
