Ticio a Mynd: Eich Canllaw i Apiau ‘Rhestr o Bethau i’w Gwneud’ ✅

Wrth i’r tymor arholiadau agosáu, fe allai fod yn anodd cofio am bob tasg, ac fe allai eich llethu ar ben popeth arall sydd angen ei wneud. Gyda’r blogbost hwn, byddwn yn cyflwyno pedwar ap ‘Rhestr o bethau i’w Gwneud’ gwahanol i’ch helpu i reoli eich llwyth gwaith a threfnu eich diwrnodau.

Microsoft To Do 

Mae Microsoft To Do yn ap cynlluniwr a ddarperir gan Microsoft ac felly mae’n ap y gallwch ei gael ar eich ffôn sydd hefyd wedi’i gysylltu â’ch cyfrif Teams. Gallwch hefyd ddefnyddio Microsoft To Do trwy’r opsiwn ‘Planner’ ar fwrdd gwaith eich cyfrif Teams. Rhai o nodweddion allweddol Microsoft To Do yw ‘My Day’ lle gallwch drefnu’r holl dasgau sydd angen i chi eu cwblhau ar gyfer y diwrnod ond hefyd ‘Planned’ lle gallwch osod dyddiadau cwblhau ar gyfer tasgau yn y dyfodol. Os ydych chi wedi dewis cysylltu Microsoft To Do â’ch cyfrif Teams o dan ‘Assigned to me’, byddwch yn gallu gweld yr holl dasgau a neilltuwyd i chi trwy fyrddau tasgau sianeli Teams a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer prosiectau grŵp. Mae yna hefyd nodwedd i greu rhestrau newydd megis os ydych chi eisiau rhestr benodol ar gyfer yr holl dasgau sydd angen eu creu ar gyfer prosiect.

Todoist 

Gyda Todoist gallwch greu a gweld eich tasgau dyddiol a chreu a gweld tasgau sydd ar ddod gyda dyddiadau cwblhau. Gallwch ddewis gosod tasgau rheolaidd megis yfed dŵr bob dydd gyda’r dewis o osod gwahanol lefelau blaenoriaeth i bob tasg i helpu gyda blaenoriaethu. Mae gan yr ap hefyd opsiwn hysbysiad atgoffa ar gyfer tasgau nad ydych wedi’u cwblhau neu ar gyfer tasgau sydd i ddod yr ydych wedi’u gosod ymlaen llaw.  

Lists To Do 

Mae Lists To Do yn ap Rhestr o Bethau i’w Gwneud sylfaenol sydd orau ar gyfer tasgau o fewn tasg er enghraifft, eitemau sydd eu hangen o fewn rhestr siopa neu eitemau sydd angen eu pacio. Gellir rhoi emojis i restrau i helpu gyda gwahaniaethu. Gallwch hefyd cynifer o wahanol restrau ag yr hoffech yn ogystal â dyblygu rhestrau! Mae gan yr ap hwn hefyd yr opsiwn i ddidoli rhestrau yn nhrefn yr wyddor neu â llaw.

Structured – Daily Planner 

Mae Structured – Daily Planner yn canolbwyntio’n fwy ar dasgau unigol y mae angen i chi eu cwblhau bob dydd. Mae dwy brif ardal ar yr ap hwn, y cyntaf yw ‘mewnflwch’. Mae’r ‘mewnflwch’ yn caniatáu ichi ychwanegu meddyliau a thasgau cyflym lle gallwch eu hychwanegu at eich ‘llinell amser’ yn ddiweddarach. Mae eich ‘llinell amser’ yn dangos eich diwrnod wedi’i gynllunio o’r adeg y byddwch yn deffro hyd nes y bydd yn dirwyn i ben! Gallwch dicio’ch tasgau wrth i chi fynd ac mae gan yr ap hwn hefyd yr opsiwn i roi cod lliw i dasgau ac ychwanegu emojis yn awtomatig yn seiliedig ar eich tasg.   

Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd 🌲

Heddiw – 21 Mawrth 2025 – yw Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd ac i ddathlu rydyn ni’n ailymweld â phob blogbost a ThipDigidol sy’n gysylltiedig â natur!

  1. Gadewch i’ch Cynhyrchiant Ffynnu gyda’r ap Flora! 🌼: Mae Flora yn ap cynhyrchiant rhyngweithiol lle gallwch storio rhestrau o bethau i’w gwneud a meithrin arferion cadarnhaol, ac mae ar gael ar iOS ac Android.
  2. TipDigidol 40: Cysylltu â natur gyda Seek gan iNaturalist🔎🌼: Efallai y dewch ar draws adar, planhigion, ffyngau, ac amffibiaid na allwch eu hadnabod. Gan ddefnyddio technoleg adnabod delweddau, bydd yr ap Seek by iNaturalist yn eich helpu i fynd â’ch gwybodaeth am natur i’r lefel nesaf! 
  3. Natur ar flaenau eich bysedd: Fy hoff apiau ar gyfer mwynhau’r awyr agored 🍃🌻: Er mwyn gwella eich anturiaethau yn yr awyr agored, rwyf wedi llunio rhestr o fy hoff apiau am ddim a fydd, gobeithio, yn ennyn eich chwilfrydedd ac yn dyfnhau eich gwerthfawrogiad o natur.
  4. TipDigi 4 – Cyfle i wella eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned, gyda’r Forest App 🌱: Ydych chi eisiau cynyddu eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned? Bydd y Forest App yn helpu i leihau oedi ac amhariadau a rhoi’r cymhelliant ychwanegol i chi aros yn gynhyrchiol, trwy dyfu coed ac ennill darnau arian rhithwir i ddatgloi planhigion newydd gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych chi wedi aros yn gynhyrchiol.

Prif Sgiliau ein Graddedigion 🎓

Yn 2024, cynhaliodd ein Hyrwyddwyr Digidol gyfweliadau gydag wyth o raddedigion Prifysgol Aberystwyth i ddeall pa sgiliau y maent bellach yn eu defnyddio ar ôl graddio a sgiliau yr hoffent fod wedi’u dysgu a’u datblygu yn y brifysgol. Isod ceir y pum prif sgil ar draws yr holl broffiliau y mae’r graddedigion yn eu defnyddio nawr a sut y gallwch ddatblygu’r sgiliau hyn: 

  1. Microsoft Excel 
  1. Microsoft Teams/Llwyfannau Cyfarfod Ar-lein 
  1. Photoshop a Meddalwedd Golygu 
  1. Outlook 
  1. Microsoft PowerPoint 

Os hoffech chi ddarllen y Proffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion, gallwch eu gweld yma neu gallwch eu lawrlwytho yma

Datblygwch eich sgiliau DA yn ymarferol yn LinkedIn Learning 👩‍💻

Nôl ym mis Hydref 2023, fe wnaethom ni ysgrifennu am bartneriaeth gyffrous newydd rhwng LinkedIn Learning a CoderPad, a gyflwynodd ychwanegiad Heriau Cod i LinkedIn Learning.  Mae’r heriau hyn wedi’u teilwra i gynorthwyo dysgwyr, o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch, i ddatblygu eu sgiliau codio drwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real. Gallwch ailymweld â’n blogbost blaenorol yma i ddysgu mwy.

Mae DA (Deallusrwydd Artiffisial) a DA Cynhyrchiol yn prysur ddod yn gonglfeini arloesedd. I gefnogi eich datblygiad yn y sgiliau hyn, mae LinkedIn Learning wedi ehangu eu casgliad i gynnwys 73 o gyrsiau ymarferol ar gyfer sgiliau DA a DA Cynhyrchiol. Mae’r cyrsiau hyn i gyda ar gael ar y dudalen we hon neu edrychwch ar ddetholiad ohonynt isod.

Dechreuwyr

Dysgwyr Canolradd

Dysgwyr Uwch

Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff fynediad at yr holl gyrsiau ar LinkedIn Learning, gan gynnwys y rhai ymarferol hyn, drwy eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth rhad ac am ddim. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning neu am gael mynediad i unrhyw gynnwys a grybwyllwyd yn y blogbost hwn, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu dewch â’ch cwestiynau i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol!

TipDigi 9 – Recordio eich sgrin yn uniongyrchol yn PowerPoint 🎥

Os oes angen i chi gynnwys recordiad sgrin yn eich cyflwyniad PowerPoint, gallwch wneud hynny’n uniongyrchol yn PowerPoint heb orfod defnyddio unrhyw feddalwedd arall! Agorwch PowerPoint, ac yna gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • Dewiswch Recordio (Record)
  • Dewiswch Recordio Sgrin (Screen Recording)
  • Agorwch y dudalen yr ydych am ei recordio
  • Cliciwch ar Dewiswch yr Ardal (Select Area) a dewiswch yr union ran o’r sgrin yr ydych am ei recordio
  • Dewiswch Sain (Audio) os ydych am recordio sain gyda’ch fideo
  • Dewiswch Recordio (Record) (dylech weld 3, 2, 1 ar eich sgrin cyn bod y recordio’n dechrau) a chwblhewch eich recordiad
  • Pan fyddwch wedi gorffen eich recordiad, gadewch i’ch llygoden hofran ar dop y sgrin a dewiswch Stop (Stop)
  • Bydd eich recordiad sgrin yn cael ei ludo’n awtomatig yn eich cyflwyniad PowerPoint
  • Gallwch olygu eich recordiad drwy glicio ar eich recordiad a dewis Chwarae (Playback)

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Seminar YBacA (28 Mawrth): Apiau symudol ar gyfer ymchwil, cymorth neu elw

Person Holding Silver Android Smartphone with apps displayed on the screen

Ar Ddydd Mawrth 28.03.23 (12:00-14:00), bydd yr adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn cynnal seminar wyneb yn wyneb i helpu ymchwilwyr i benderfynu a yw eu syniad am ap yn ymarferol a sut i fynd ati i wneud iddo ddigwydd.

Bydd y seminar yn cael ei arwain gan yr Athro Chris Price o’r Adran Gyfrifiadureg. 

Am ragor o wybodaeth, ac i archebu eich lle, ewch i dudalen y digwyddiad.

Ymunwch â’r dosbarth meistr Marchnata Digidol (8 Chwefror)

A hoffech chi ddysgu sut i ddefnyddio marchnata digidol i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?

Woman holding a tablet

Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Digital Marketing Masterclass gyda Francesca Irving o ‘Lunax Digital’ ar Ddydd Mercher 8 Chwefror (2yh).

Ymunwch â’r weminar ar-lein drwy MS Teams.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â aberpreneurs@aber.ac.uk.