Mae LinkedIn Learning, adnodd E-ddysgu a ddarperir gan drydydd parti, ar gael yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth.
Beth yw LinkedIn Learning?
Mae gan y llwyfan dysgu ar-lein hwn lyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr; mae’r rhain yn amrywio o gyrsiau busnes i gynnwys creadigol a thechnolegol. Gallwch felly ei ddefnyddio i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol, i ddysgu meddalwedd newydd, ac i archwilio meysydd eraill wrth i chi gynllunio ar gyfer datblygiad personol, academaidd a thwf eich gyrfa.
Dechrau arni
Mae LinkedIn Learning ar gael 24/7 o’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol. Ewch i LinkedIn Learning a mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth. Cymerwch olwg ar ein cyfarwyddiadau mewngofnodi.
Mae ein Pencampwyr Digidol Myfyrwyr wedi bod yn brysur yn cynhyrchu nifer o gasgliadau i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i gynnwys LinkedIn Learning sy’n gysylltiedig â phynciau amrywiol, gan gynnwys:
- Cynnal eich brwdfrydedd
- Lles Digidol
- Llênladrad a Newyddion Ffug
- Byw yn annibynnol
- Gweithgareddau allgyrsiol i fyfyrwyr
Gwybodaeth bellach
Os cewch unrhyw anawsterau wrth fewngofnodi i LinkedIn Learning, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk). Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill, e-bostiwch digi@aber.ac.uk neu ymweld â’n tudalennau Cwestiynau Cyffredin LinkedIn Learning