Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Gyda datblygiad ffonau a thechnoleg mae ap ar gyfer popeth erbyn hyn – gan gynnwys darllen! Fel darllenydd brwd rwy’n hoffi herio fy hun gydag amcanion blynyddol, trafod llyfrau gyda chyd-ddarllenwyr a chyflawni ystadegau darllen. Gyda fy nhri hoff ap darllen – mae hyn i gyd yn bosibl!
- Goodreads
Mae Goodreads yn wych ar gyfer tracio eich deunydd darllen cyfredol a chadw ar y trywydd iawn ar gyfer eich amcanion darllen.
- Gosodwch her ddarllen flynyddol i chi’ch hun a bydd Goodreads yn dweud wrthych a ydych chi ar y trywydd iawn.
- Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd.
- Cewch fathodyn os byddwch yn cyrraedd eich nod.
- Gallwch weld llyfrau yr ydych wedi’u darllen yn y blynyddoedd diwethaf.
- Gallwch greu silffoedd darllen ar gyfer eich anghenion megis “eisiau darllen”.
- Sganiwch gloriau llyfrau yn hytrach na chwilio amdanynt.
- Darganfyddwch lyfrau newydd yn seiliedig ar eich darlleniadau diweddar, cyhoeddiadau newydd a llyfrau sy’n trendio.












