Cyflwyno’r Llyfrgell Sgiliau Digidol! 💻🔎

Yellow and Blue banner with laptop, AU logo, and the text Digital Skills Library

Rydym wedi bod yn gweithio ar ddod â chasgliad o adnoddau PA ac allanol at ei gilydd i helpu myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a presennol. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys eich addysgu am eich ôl troed digidol; a’ch helpu i wella’ch lles a’ch hunaniaeth ddigidol trwy ddarparu adnoddau i helpu gyda straen arholiadau a gwybodaeth am ‘gwe-gwrteisi’ (ymddygiad ar-lein).  

Ond yn ogystal â hyn, mae gan ein Llyfrgell Sgiliau Digidol adnoddau i helpu gyda’ch addysg a’ch datblygiad digidol. Mae gennym ni adnoddau ar gyfer defnyddio meddalwedd penodol, er enghraifft sut i godio gyda Python, yn ogystal â defnyddio meddalwedd dylunio graffeg a golygu delweddau fel Adobe Photoshop a Canva.

Rydym hefyd wedi cadw mewn cof y gallech chi fod eisiau gwella rhai o’ch sgiliau digidol presennol ac felly rydym wedi cynnwys adnoddau i’ch helpu i ddysgu syniadau a thriciau newydd mewn meddalwedd cyfarwydd fel Microsoft Excel, PowerPoint, Teams, a llawer mwy!  

Ewch i ymweld â’r Llyfrgell Sgiliau Digidol myfyrwyr heddiw a gallech hefyd ymweld â’n stondin ar Lefel D (llawr gwaelod) Llyfrgell Hugh Owen yr wythnos hon er mwyn dysgu mwy.

Bydd y Llyfrgell Sgiliau Digidol ar gyfer staff yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau yn defnyddio’r Llyfrgell Sgiliau Digidol, e-bostiwch digi@aber.ac.uk.  

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*