TipDigidol 87 – Cael Microsoft Office am ddim gyda’ch mewngofnod Prifysgol Aber

Oeddech chi’n gwybod y gallwch fel myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth gael mynediad at drwyddedau am ddim ar gyfer Microsoft Office Suite ar hyd at bum dyfais. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich cyfrif o unrhyw raglen/cymhwysiad Microsoft drwy glicio ar eich llythrennau cyntaf yn y gornel dde uchaf. O’r fan hon, dewiswch Gweld Cyfrif a chliciwch ar Gosod Office i gael mynediad i Word, PowerPoint, Teams, Excel, OneNote a mwy!  

Ar gael ar gyfer Windows, iOS, ac Android. 

Datblygwch eich hyder digidol yn y Caffi Sgiliau Digidol

A hoffech chi deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio offer digidol ar gyfer eich astudiaethau a thu hwnt? Dewch draw i’r Caffi Sgiliau Digidol, ein gwasanaeth galw heibio wythnosol newydd i’ch helpu i feithrin eich sgiliau digidol drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.

P’un a oes gennych gwestiwn penodol, neu ddim yn siŵr ble i ddechrau, rydyn ni yma i helpu. Mae’r Caffi yn gyfle i chi fanteisio ar y pethau canlynol

Sut allwn ni helpu? 

Cael cymorth gyda’ch astudiaethau

Dysgu rhagor am offer digidol i’ch helpu gyda’ch aseiniadau, prosiectau a thasgau astudio, a chael arweiniad ar ddewis a defnyddio’r rhai sy’n iawn i chi.

Datblygu eich hyder digidol

Trafod eich adroddiad Adnodd Darganfod Digidol a chanfod ffyrdd ymarferol o ddatblygu eich sgiliau.

Paratoi ar gyfer eich dyfodol

Ystyried y sgiliau digidol y gallai fod eu hangen arnoch ar gyfer lleoliadau gwaith, astudiaethau ôl-raddedig, a’ch gyrfa yn y dyfodol.

Pryd a ble?

Gallwch ddod o hyd i ni wrth ddesg galw heibio SgiliauAber ar Lawr D, Llyfrgell Hugh Owen, ger mynedfa’r grisiau, trwy gydol y tymor:

  • Dydd Mercher, 13.30-15.30
  • Dydd Gwener, 10.30-12.30

Cymerwch eich cam nesaf

Galwch heibio am sgwrs – byddem wrth ein bodd yn eich helpu i gymryd eich cam nesaf.

Ewch i dudalen we’r Caffi Sgiliau Digidol i gael rhagor o wybodaeth neu anfonwch e-bost atom yn digi@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Eich Aseiniad Cyntaf

Ydych chi wedi cael eich aseiniad cyntaf? Rhwng 19 a 23 Hydref, byddwn yn rhannu cyngor, adnoddau a digwyddiadau i’ch helpu i ddechrau arni.

Byddwn yn eich tywys trwy bob cam o’r broses, o ddeall briff yr aseiniad a dod o hyd i’r wybodaeth gywir i gynllunio, ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith yn hyderus.

Ac nid yw hyn ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn unig. Os ydych chi yn eich ail neu’ch trydedd flwyddyn, gweithio ar eich astudiaethau Ôl-raddedig neu’n dilyn cwrs Dysgu Gydol Oes, cewch awgrymiadau a chymorth defnyddiol i helpu gyda’ch aseiniadau.

Digwyddiadau a Gweithgareddau:

Dydd Llun 19eg: Deall eich aseiniad

  • Sesiwn galw heibio SgiliauAber gyda Non rhwng 10:00 a 12:00 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
  • Dehongli eich aseiniad gyda Tamsin (Teams, 13.30-14.00)

Dydd Mawrth 20fed: Dod o hyd i’ch deunyddiau

  • Dod o Hyd i’r Pethau Da: Erthyglau a Adolygwyd gan Gymheiriaid gydag Anita, 10:00-10:10, 11:00- 11:10 a 12:00 – 12:10 (Teams).
  • Taith y llyfrgell gyda Simon am 14:00 (cwrdd ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)

Dydd Mercher 21ain: Paratoi’r dechnoleg

  • Caffi Sgiliau Digidol gyda Keziah rhwng 13:30 a 15:30 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
  • Offer cyfrifiadurol ar gyfer ysgrifennu Cymraeg gyda Tamsin, 14.00-15.00 (Teams)

Dydd Iau 22ain: Ysgrifennu Eich Aseiniad

  • Cwrdd â Samanatha Wynne-Rhydderch, Cymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ac awdur cyhoeddedig rhwng 10:30 a 13:30 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
  • Ymwelwch â Tamsin Davies, Tiwtor Sgiliau Cymraeg, i gael cyngor am ysgrifennu eich aseiniad yn Gymraeg, 12.00-14.00 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
  • Taith o amgylch y llyfrgell gyda Simon am 14:00 (cwrdd ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)

Dydd Gwener 23ain: Cyflwyno Eich Aseiniad

  • Sesiwn galw heibio i drafod cyflwyno gyda Luke rhwng 10:00 a 12:00 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)

Trwy’r Wythnos:

  • Desg ymholiadau Lefel F: 11:00 – 15:00
  • Arddangosfeydd llyfrau yn Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Bydd popeth ar gael ar Ffrwd, felly cadwch lygad yn ystod yr wythnos. Pob lwc!

Am unrhyw gwestiynau pellach cysylltwch drwy:

Ffon: 01970 622020 

Ebost: llyfrgell@aber.ac.uk