Bob wythnos byddwn yn postio TipDigi defnyddiol i’ch helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg. I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Ydych chi eisiau gallu dod o hyd i’r union dudalen we rydych chi’n chwilio amdani heb wastraffu amser yn mynd trwy sawl tudalen we wahanol? Ar gyfer tudalennau gwe rydych chi’n ymweld â nhw’n aml, gallwch eu llyfrnodi a hyd yn oed greu ffolderi ar gyfer gwahanol gategorïau o lyfrnodau, sy’n golygu na fydd raid i chi lywio drwy’r rhyngrwyd i ddod o hyd i’r dudalen we benodol honno eto!
Dilynwch y camau hyn i lyfrnodi tudalen we:
Agorwch eich dewis o borwr rhyngrwyd
Chwiliwch am y dudalen we yr hoffech ei llyfrnodi
Cliciwch ar y Eicon seren sydd wedi’i leoli ar ochr dde bar cyfeiriad y dudalen we
Dewiswch enw ar gyfer y dudalen we yr hoffech chi ei llyfrnodi a chliciwch ar Iawn (Done)
I reoli eich llyfrnodau:
Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y bar llyfrnodau a dewiswch Rheolwr Llyfrnodau(Bookmarks manager)
I greu ffolder newydd ar gyfer eich tudalennau gwe, cliciwch fotwm de’r llygoden ar y bar llyfrnodau a dewis Ychwanegu ffolder(Add folder)
Blogbost gan Jia Ping Lee (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Rwy’n cofio dod ar draws Code First Girls trwy eu cyfryngau cymdeithasol yn ystod haf 2023, ac yna nes i ddysgu am bartneriaeth newydd Prifysgol Aberystwyth gyda nhw. Er nad oedd gen i unrhyw brofiad blaenorol o godio ac nad oedd gennyf lawer o wybodaeth am fyd technoleg, cefais fy synnu pa mor hawdd oedd hi i edrych trwy’r cyrsiau yr oedd Code First Girls yn eu cynnig ac ni waeth pa lefel o godio sydd gennych – mae cwrs priodol ar gael i chi.
Gan fy mod yn ddechreuwr llwyr gyda ieithoedd codio, cefais gipolwg ar eu cyrsiau rhagarweiniol o’r enw MOOC (cyrsiau ar-lein agored enfawr Code First Girls). Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i gyflwyno a darparu sgiliau technoleg lefel dechreuwyr a helpu i feithrin hyder mewn maes o’ch dewis. Yr hyn yr oeddwn i’n meddwl oedd yn wych am y cyrsiau hyn oedd sut yr oeddent yn cael eu trefnu a’u cyflwyno. Gyda MOOC Sprints, roeddent yn rhedeg dros 4 wythnos gydag 1 sesiwn fyw awr o hyd yr wythnos ac ar ôl i’r Sprint ddod i ben, roedd cyfle i brofi eich gwybodaeth a phrofi datrys problemau’r byd go iawn gyda Heriau MOOC a chael tystysgrif cwblhau ar ôl pasio cwisiau’r sesiwn. Profais amrywiaeth o’r cyrsiau cyflwyno a gynigir gan gynnwys codio, datblygu gwe a datrys problemau gyda Python. Gan fy mod yn gallu adolygu’r hyn a ddysgais ar fy nghyflymdra fy hun ar ôl dosbarthiadau, nid oedd mor llethol ag yr oeddwn i’n ei feddwl i ddechrau, ac roedd tiwtoriaid y cwrs bob amser ar gael i gysylltu â nhw pe bai angen cymorth neu arweiniad ychwanegol arnaf.
Ar ôl mwynhau cymryd y camau cyntaf tuag at feithrin rhywfaint o hyder technolegol, rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu o’r cyrsiau rhagarweiniol a symud ymlaen i’r lefel nesaf. Rwy’n credu mai’r wers bwysicaf yr wyf wedi’i dysgu o’r profiad hwn yw peidio byth â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd sydd y tu allan i’ch cilfan gysurus. I ddechrau, gall y byd codio ymddangos yn frawychus ac yn anodd ei ddeall, yn enwedig os nad ydych wedi dysgu amdano o’r blaen. Ond gyda Code First Girls, maen nhw yma i helpu i’n harwain a’n cefnogi i gyflawni’r sgiliau gorau sydd eu hangen arnom i gael cyfleoedd cyffrous yn y dyfodol!
Cymerwch olwg ar y blogbost hyn lle dewch o hyd i 5 reswm pam y dylech fanteisio ar bartneriaeth Prifysgol Aberystwyth gyda Code First Girls. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl gyfleoedd ar wefan Code First Girls.
Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â’r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gan gynnwys heriau a chyrsiau codio gyda CoderPad a GitHub yn LinkedIn Learning.
Ydych chi’n aml yn cael eich llethu gan yr holl annibendod ac apiau nad ydynt yn cael eu defnyddio sy’n adeiladu ar eich ffôn?
Gyda Tip Digidol 30, gallwn edrych ar sut i greu ffolderi ar eich ffôn a chategoreddio eich apiau yn ôl math i’ch helpu i gadw trefn. Gallai categorïau ffolder enghreifftiol gynnwys teithio, cyllid, ffordd o fyw, adloniant, cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy!
Gwyliwch y fideos isod am arddangosiad byr:
D.S. Bydd y fideos yn cynnwys enghraifft ar gyfer dyfeisiau IOS ac enghraifft ar gyfer dyfeisiau Android.
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Ydych chi’n bwriadu gweithio ar brosiect grŵp cydweithredol gyda’ch cyfoedion neu a ydych chi am i gydweithiwr roi sylwadau i chi heb olygu’r ddogfen yn barhaol?
Heddiw, byddwn yn edrych ar sut i ychwanegu sylwadau mewn dogfennau cydweithredol ar-lein y gall nifer o bobl eu golygu. Trwy ddefnyddio’r nodwedd sylwadau, gall eraill ddeall eich syniadau y tu ôl i unrhyw newidiadau, gofyn unrhyw gwestiynau a chynnig dewisiadau amgen heb effeithio ar y brif ddogfen.
Gyda’r nodwedd sylwadau, mae yna amryw o nodweddion y gallwch chi fanteisio arnynt – ateb sylwadau, ymateb i sylwadau, a’u datrys trwy’r adnodd marcio newidiadau.
Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad byr:
D.S. Recordiwyd y fideo hwn yn Microsoft SharePoint. Fodd bynnag, mae’r broses gyda SharePoint a OneDrive yn debyg iawn i’w gilydd.
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Beth yw Rheolwr Tasgau ar gyfer cyfrifiaduron? Pam mae’n bwysig?
Gall Rheolwr Tasgau (a elwir hefyd yn Fonitor Gweithgaredd ar gyfer systemau macOS) ddangos i chi pa raglenni a chymwysiadau sy’n rhedeg ar eich cyfrifiadur ar y pryd.
Os yw’ch cyfrifiadur yn llusgo o ran cyflymder neu berfformiad cyffredinol, neu efallai fod angen datrys rhywfaint o broblemau ar raglen, gallwch ddefnyddio’r Rheolwr Tasgau i adolygu’r hyn sy’n digwydd yn y cefndir a hyd yn oed atal ap nad yw wedi bod yn ymateb, heb orfod ailgychwyn eich cyfrifiadur!
Ar gyfer systemau gweithredu Windows, gallwch ddilyn y llwybr byr hwn i gael mynediad at Reolwr Tasgau Windows:
Ctrl + Shift + Esc
Ar gyfer systemau gweithredu macOS, gallwch ddilyn y llwybr byr hwn i gael mynediad at y rhaglen Monitor Gweithgaredd:
CMD + ALT + ESC
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Ydych chi’n aml yn teimlo’n rhwystredig wrth orfod sgrolio’n ôl trwy hanes eich porwr i ddod o hyd i’ch hoff dab? Neu hyd yn oed yn cau’r tab yn ddamweiniol a methu cofio’r wefan?
Gyda TipDigidol 22, gallwch nawr binio eich hoff dabiau ar y rhyngrwyd a’i gael yn barod i chi pan fyddwch chi’n agor eich porwr nesaf.
Ar gyfer porwyr rhyngrwyd megis Chrome a Firefox, gallwch ddilyn y camau hyn:
Agorwch eich porwr rhyngrwyd a theipio eich URL dewisol
Cliciwch fotwm de’r llygoden ar eich tab URL a dewiswch yr opsiwn “Pin“
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Ydych chi eisiau gallu arbed amser wrth ddefnyddio Outlook trwy redeg tasgau lluosog yn effeithlon?
Gyda TipDigidol 19, byddwn yn edrych ar sut i osod eich Camau Cyflym. Pan ddaw e-bost i’ch mewnflwch, gydag un clic yn unig, gallwch farcio eich bod wedi’i ddarllen, ei symud i ffolder benodol, anfon ateb yn awtomatig a llawer fwy o opsiynau arall.
Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad byr:
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Hoffem ddiolch yn fawr i’r holl siaradwyr a chyfranogwyr a fynychodd Ŵyl Sgiliau Digidol gyntaf Prifysgol Aberystwyth ym mis Tachwedd 2023.
Gyda 28 o wahanol ddigwyddiadau digidol yn cael eu cynnal dros 5 diwrnod, roedd yn wych gallu cynnig amrywiaeth o sesiynau yn amrywio o gyflwyniad ar ddysgu sut i godio i ddeall pwysigrwydd ein lles digidol a’n hunaniaeth ddigidol.
O’n gwefan Gŵyl Sgiliau Digidol, gallwch bellach gyrchu’r holl recordiadau ac adnoddau o’r sesiynau yn ystod yr wythnos felly cymerwch gipolwg os hoffech loywi eich gwybodaeth am yr hyn a ddysgwyd neu os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi gyd eto yng Ngŵyl Sgiliau Digidol y flwyddyn nesaf yn 2024!
Ydych chi’n aml yn cael llygaid blinedig ar ôl edrych ar eich dyfais am gyfnod rhy hir? Yn TipDigi 16, byddwn yn edrych ar sut i ddefnyddio gosodiad hidlo golau glas, i leihau faint o olau glas a allyrrir o sgrin eich dyfais.
Ar ddyfeisiau Windows, dilynwch y gosodiadau system isod i ysgogi “Night light”:
Dewiswch Start ar eich bar tasgau Windows a theipiwch Settings yn y blwch chwilio
O Settings, dewiswch System cyn dod o hyd i’r opsiwn Display
Unwaith y byddwch wedi dewis yr opsiwn Display dewiswch Night light
Gyda “Night light” wedi’i droi ymlaen, bydd lliwiau cynhesach yn cael eu defnyddio ar eich sgrin i helpu i rwystro golau glas
I bersonoli pryd y bydd “Night light” yn cael ei ddefnyddio ar eich dyfais, dewiswch yr opsiwn Schedule night light lle gallwch ddewis naill ai Sunset to sunrise neu Set hours i ddewis eich amseroedd eich hun iddo ddechrau a gorffen cyn cau’r ffenestr
Ar ddyfeisiau MacOS, dilynwch y gosodiadau system isod i ysgogi “Night Shift”:
Ewch i’r ddewislen Apple i agor yr opsiwn System Preferences
Trwy’r System Preferences, dewiswch yr eicon Displays eicon
Ar frig y ffenestr, cliciwch ar y tab Night shift
Dewiswch y gwymplen Schedule cyn dewis Custom
I bersonoli pryd y bydd ‘Night Shift’ yn cael ei ddefnyddio ar eich dyfais, gallwch ddewis naill ai Sunset to sunrise neu Custom i ddewis eich amseroedd eich hun iddo ddechrau a gorffen cyn clicio Done
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Croeso i ddechrau 2024 a gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael gwyliau Nadolig gwych!
O fis Medi 2023, mae’r Tîm Sgiliau Digidol wedi bod yn cyhoeddi TipiauDigi byr a fydd, gobeithio, yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg – gan amrywio o ofalu am eich lles meddyliol gyda’r ap Finch hunanofal i allu trafod syniadau newydd gyda’r bwrdd gwyn yn MS Teams!
Gan ddechrau o ddydd Mawrth 9 Ionawr, byddwn yn parhau i bostio TipiauDigi wythnosol am bopeth digidol ac os hoffech edrych ar unrhyw un o’n TipiauDigi blaenorol, gallwch gael mynediad atynt o’r dudalen hon.