Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr – Wythnos 4 – Gwasanaethau Genetig Cogent Breeding UK

Mae ein pedwerydd Proffil Cyflogwr gyda gwasanaethau genetig Cogent Breeding UK. Mae Cogent UK yn gosod pwysigrwydd ar wybod sut i ddefnyddio Excel, bod â chrebwyll am ddata a meddu ar hyfedredd digidol sylfaenol a sgiliau datrys problemau; dysgwch fwy am ddatblygu’r sgiliau hyn o’r adnoddau isod.

Fersiwn Testun:

Cwmni: Cogent Breeding UK

Maint y Cwmni: 250 o weithwyr

Sefydlwyd: 1995

Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Wedi’i leoli yng Nghaer ond mae’n gweithredu ledled y DU ac yn rhyngwladol

Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:

  • Technegydd Labordy
  • Ymgynghorwyr Gwerthu a Geneteg
  • Cynorthwyydd Gweinyddol

Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Hyfedredd Digidol a Datrys Problemau – Hyfedredd gyda meddalwedd cyfrifiadurol, sgiliau datrys problemau sylfaenol ar gyfer y cyfrifiaduron sy’n rhedeg ein peiriannau didoli a dealltwriaeth o fecaneg gyfrifiadurol.
Llythrenned Ddigidol -Gallu defnyddio Excel ar gyfer rheoli data a dadansoddi samplau data a chwsmeriaid.
Cyfathrebu Digidol – Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy e-bost a llwyfannau digidol eraill.

Meysydd Cyffredin i weithio arnynt:
“Efallai na fydd gan lawer o raddedigion, yn enwedig y rhai o gefndiroedd ymarferol megis amaethyddiaeth neu wyddor anifeiliaid, brofiad gydag offer rheoli data fel Excel. Mae’n ymddangos bod gan raddedigion sy’n gweithio yn y labordai fwy o brofiad data, felly gall hwn fod yn faes sy’n cael ei anwybyddu yn y graddau mwy ymarferol.”

O ble rydyn ni’n recriwtio:
“Rydym wedi recriwtio graddedigion o ystod amrywiol iawn o raddau megis cemeg, gwyddoniaeth fforensig, microbioleg a hyd yn oed cadwraeth bywyd gwyllt.  Rydym yn agored i unrhyw raddedigion cyhyd â bod gennych y sgiliau a’r agwedd gywir, diddordeb yn yr hyn rydych yn ei wneud, parodrwydd i ddysgu a sylw brwd i fanylion.”

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yn ein gweithwyr:
“Mae ein tîm yn cael ei yrru gan angerdd cyfunol dros amaethyddiaeth a dealltwriaeth ddofn o’r diwydiant, ac rydym yn chwilio am yr un peth yn ein recriwtiaid newydd. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd craidd, sy’n onest ac ag ymarweddiad cadarnhaol. Os ydych chi’n hyderus, yn hyddysg am ddata, ac yn awyddus i ddysgu, rydyn ni eisiau i chi fod ar ein tîm ni.”

Gwefan Cogent UK

Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr

TipDigidol 42: Mireinio eich canlyniadau chwilio yn MS Teams 🔎  

Mae gan Teams adnodd chwilio defnyddiol, ond weithiau gall gynhyrchu gormod o ganlyniadau. Er mwyn arbed amser diangen yn chwilio, gallwch ddefnyddio hidlwyr. 

Mae’r hidlwyr hyn yn caniatáu ichi chwilio gan ddefnyddio meini prawf penodol fel dyddiad, anfonwr a math o ffeil, gan eich helpu i nodi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym!

Edrychwch ar y sgrinlun isod i ddysgu sut i ddefnyddio’r hidlwyr hyn ⬇

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!