Mae’r Tîm Sgiliau Digidol yn falch o gyhoeddi lansiad y Llyfrgell Sgiliau Digidol newydd i staff. Mae’r Llyfrgell Sgiliau Digidol yn gasgliad ar-lein o adnoddau a ddewiswyd yn benodol gan PA ac adnoddau allanol i helpu pob aelod o staff i ddatblygu eu sgiliau digidol. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd o gefnogi eich hunaniaeth ddigidol a’ch lles, arweiniad ynghylch dysgu a datblygu megis cyfarwyddiadau CMS, cyngor i wella’ch cyfathrebu digidol a llawer mwy.
Mae’r Llyfrgell Sgiliau Digidol ar gael i’r holl staff ddatblygu eu sgiliau digidol. Fodd bynnag, yn ogystal â hyn, mae gennym adnoddau penodol hefyd i helpu gydag addysgu, gan gynnwys cyngor ar Blackboard, canllawiau llyfrgell ac adnoddau i gefnogi addysgu ar-lein.
Ewch i’r Llyfrgell Sgiliau Digidol Staff heddiw!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, problemau wrth geisio cael mynediad i’r Llyfrgell Sgiliau Digidol, neu awgrymiadau ar gyfer adnoddau newydd, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol yn digi@aber.ac.uk.