Defnyddio Primo yn Effeithiol 📚

Blog-bost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Cyflwyniad i Primo

Gall fod yn anodd mynd i unrhyw lyfrgell a dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano. Mae’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd yn cynnwys cannoedd o lyfrau, ac mae llyfrgell Hugh Owen yn cynnwys MILOEDD o lyfrau. Os ydych chi eisiau dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano gyda manylder clinigol, rwy’n argymell eich bod yn rhoi cynnig ar Primo. Catalog llyfrgell digidol a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth yw Primo. Mae’n gronfa ddata enfawr sy’n fodd i fyfyrwyr chwilio am lyfrau i’w benthyg gan y Brifysgol, gwneud rhestrau o lyfrau i gofio amdanynt, a manteisio ar fersiynau ar-lein o ddeunyddiau darllen. Mae’n cynnwys llond lle o nodweddion sydd wedi gwneud fy amser yn Aberystwyth yn llawer rhwyddach. Er y gellid ei ystyried fel ‘chwiliad Google ar gyfer y llyfrgell’, mae’n llawer mwy na hynny. O arbed rhestrau o lyfrau i wneud cais am lyfrau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy nghwrs, mae Primo wedi arbed amser a’m helpu i osgoi aml i gur pen yn ystod fy astudiaethau. Yn y blog-bost hwn, fe fyddaf yn edrych ar Primo, yr hyn mae’n ei wneud a sut y gall fod yn fuddiol i chi.

Chwilio am eitem

Mae’n hawdd chwilio am eitem ar Primo. Teipiwch yr eitem rydych chi eisiau dod o hyd iddi a bydd Primo yn rhoi gwybod i chi lle bydd i’w gael yn llyfrgell Hugh Owen neu os yw ar gael ar-lein (mae copïau papur a chopïau ar-lein o rai eitemau). Mae nodwedd chwilio primo wedi ei gosod ar ‘pob eitem’ yn ddiofyn, a gall hynny amharu ar eich canlyniadau i raddau os cynigir gormod o opsiynau.

Ar waelod y bar chwilio, mae tair cwymplen sy’n cynnwys opsiynau i’ch helpu i ddod o hyd i’r UNION eitem rydych chi’n chwilio amdani. Er enghraifft, beth am ddweud fy mod i eisiau chwilio am lyfrau gan John Steinbeck yn unig. O waelod y bar chwilio, fe fyddwn i’n dewis ‘Llyfrau’, yna ‘gyda fy union ymadrodd’, gan ddewis ‘fel awdur/crëwr’ ac yn olaf chwilio am ‘John Steinbeck’

Screenshot of Primo showing how to insert text in the search bar and the different filters

Mae’r chwiliad hwn yn rhoi pob llyfr gan John Steinbeck sydd ar gael, gan gynnwys lleoliad pob llyfr. Os ydych chi’n cael trafferth yn dod o hyd i lyfr neu erthygl, rydym ni’n argymell eich bod yn rhoi cynnig ar y nodweddion hyn er mwyn dod o hyd i’r UNION eitem rydych chi’n chwilio amdani. Os ydych chi angen chwiliad mwy manwl fyth, rydym ni’n argymell defnyddio’r opsiwn ‘chwiliad uwch’ ger y prif far chwilio a fydd yn helpu i gyfyngu’r chwiliad.

Rheoli eich cyfrif

Nid catalog yn unig yw Primo, gallwch reoli eich cyfrif llyfrgell arno hefyd. Er mwyn gweld eich cyfrif llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost myfyriwr Aber a’ch cyfrinair. O’r fan hon gallwch reoli eich benthyciadau, gan gynnwys eu dyddiadau dychwelyd yn ogystal â’u hadnewyddu os hoffech chi eu cadw’n hirach.

Gallwch hefyd wneud cais am eitem i’w chasglu drwy wneud cais (Sut mae gwneud hynny?). Os yw’r eitem ar fenthyg gan ddefnyddiwr arall, byddant yn derbyn ysgogiad i ddychwelyd yr eitem honno i’r llyfrgell. Bydd y llyfrgell yn anfon e-bost i roi gwybod i chi pan fydd eitem rydych chi wedi gwneud cais amdani yn barod i’w chasglu. Bydd yr eitemau ar gael ar lawr isaf Llyfrgell Hugh Owen ar y silff bwrpasol ar gyfer casgliadau.

Mae modd i chi weld a thalu eich dirwyon am eitemau sydd yn hwyr ac wedi cael eu had-alw gan ddefnyddwyr eraill drwy Primo (Sut mae gwneud hynny?). Mae’r gwasanaeth yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd yn ogystal â thaliadau CerdynAber.

Dal yn methu â chael gafael ar eitem?

Os ydych chi’n chwilio am erthygl o gyfnodolyn neu gylchgrawn ac yn cael dim llwyddiant ar Primo, gallwch ddefnyddio nodwedd BrowZine. Catalog llyfrgell fel Primo yw BrowZine ond yn hytrach na llyfrau mae’n rhoi mynd â chi at filoedd o gyfnodolion ac erthyglau o gyfnodolion ar ystod eang o bynciau ar gais. Mae’n hynod ddefnyddiol i’r rhai sy’n chwilio am ffynonellau ar gyfer aseiniad.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*