Blog-bost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Cyflwyniad i Primo
Gall fod yn anodd mynd i unrhyw lyfrgell a dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano. Mae’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd yn cynnwys cannoedd o lyfrau, ac mae llyfrgell Hugh Owen yn cynnwys MILOEDD o lyfrau. Os ydych chi eisiau dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano gyda manylder clinigol, rwy’n argymell eich bod yn rhoi cynnig ar Primo. Catalog llyfrgell digidol a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth yw Primo. Mae’n gronfa ddata enfawr sy’n fodd i fyfyrwyr chwilio am lyfrau i’w benthyg gan y Brifysgol, gwneud rhestrau o lyfrau i gofio amdanynt, a manteisio ar fersiynau ar-lein o ddeunyddiau darllen. Mae’n cynnwys llond lle o nodweddion sydd wedi gwneud fy amser yn Aberystwyth yn llawer rhwyddach. Er y gellid ei ystyried fel ‘chwiliad Google ar gyfer y llyfrgell’, mae’n llawer mwy na hynny. O arbed rhestrau o lyfrau i wneud cais am lyfrau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy nghwrs, mae Primo wedi arbed amser a’m helpu i osgoi aml i gur pen yn ystod fy astudiaethau. Yn y blog-bost hwn, fe fyddaf yn edrych ar Primo, yr hyn mae’n ei wneud a sut y gall fod yn fuddiol i chi.
Chwilio am eitem
Mae’n hawdd chwilio am eitem ar Primo. Teipiwch yr eitem rydych chi eisiau dod o hyd iddi a bydd Primo yn rhoi gwybod i chi lle bydd i’w gael yn llyfrgell Hugh Owen neu os yw ar gael ar-lein (mae copïau papur a chopïau ar-lein o rai eitemau). Mae nodwedd chwilio primo wedi ei gosod ar ‘pob eitem’ yn ddiofyn, a gall hynny amharu ar eich canlyniadau i raddau os cynigir gormod o opsiynau.
Ar waelod y bar chwilio, mae tair cwymplen sy’n cynnwys opsiynau i’ch helpu i ddod o hyd i’r UNION eitem rydych chi’n chwilio amdani. Er enghraifft, beth am ddweud fy mod i eisiau chwilio am lyfrau gan John Steinbeck yn unig. O waelod y bar chwilio, fe fyddwn i’n dewis ‘Llyfrau’, yna ‘gyda fy union ymadrodd’, gan ddewis ‘fel awdur/crëwr’ ac yn olaf chwilio am ‘John Steinbeck’