Hyfforddiant i Staff Academaidd: Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol

Bydd yr Offeryn Darganfod Digidol ar gael i bob myfyriwr Blwyddyn Sylfaen a Blwyddyn Gyntaf o ddechrau blwyddyn academaidd 2022/23. Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi yn ystod mis Medi a Hydref ar gyfer staff academaidd a fydd yn cefnogi eu myfyrwyr i adolygu eu hadroddiadau Offeryn Darganfod Digidol, a bydd yn hwyluso sgyrsiau gyda myfyrwyr am alluoedd digidol.

Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:

  • 15 Medi 2022 (11:00-12:00): Introduction to the Digital Discovery Tool
  • 15 Medi 2022 (15:00-16:00): Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol
  • 19 Medi 2022 (10:00-11:00): Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol
  • 21 Medi 2022 (14:00-15:00): Introduction to the Digital Discovery Tool
  • 4 Hydref 2022 (11:00-12:00): Introduction to the Digital Discovery Tool
  • 7 Hydref 2022 (14:00-15:00): Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk). 

1 Awst: Dyddiad cau ar gyfer lawrlwytho adroddiadau Offeryn Darganfod Digidol

Mae’r platfform presennol ar gyfer yr Offeryn Darganfod Digidol yn cael ei ddiweddaru ar 1 Awst 2022. Os ydych wedi defnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol o’r blaen ac wedi derbyn adroddiad, rhaid ei lawrlwytho cyn 1 Awst 2022 os ydych am gadw copi ohono. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: Sut mae cael mynediad i’m hadroddiad Offeryn Darganfod Digidol a’i lawrlwytho fel ffeil PDF? 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am lawrlwytho eich adroddiad, cysylltwch â digi@aber.ac.uk.  

Beth yw Galluoedd Digidol?

Mae’n bosib eich bod chi wedi clywed am alluoedd digidol yn barod, neu efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â’r term cysylltiedig, sgiliau digidol. Gyda sefydliad diweddar Prosiect Galluoedd Digidol newydd y Brifysgol, mae’n debygol y byddwch chi’n clywed llawer mwy am alluoedd digidol dros y misoedd nesaf.

Beth yw galluoedd digidol?

Yn ôl Jisc, mae galluoedd digidol yn arfogi unigolion i allu byw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas ddigidol. Yn sgil y pandemig, mae’r amser y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei dreulio ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol – drwy weithio, dysgu, addysgu a rhyngweithio gydag eraill ar-lein.

Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i ddysgu mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.

Read More