Yn ystod y gwyliau haf, beth am ymuno â ni ar gyfer Her Haf y Tîm Sgiliau Digidol. Isod ceir naw her ddyddiol y gallwch eu cwblhau o fewn gwyliau’r haf i helpu i hybu eich sgiliau digidol a chreadigol.
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Addysg ar 24 Ionawr 2025 ac rydym yn dathlu drwy eich atgoffa am yr adnoddau sydd ar gael i ddatblygu eich sgiliau digidol.
LinkedIn Learning [ar gael tan fis Mawrth 2025]
Yn rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr PA tan fis Mawrth 2025, mae LinkedIn Learning yn llwyfan ar-lein sy’n cynnig miloedd o gyrsiau dan arweiniad arbenigwyr sy’n addas ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr i lefel uwch. Gyda LinkedIn Learning, gallwch ddatblygu ystod eang o sgiliau, o ddefnyddio offer DA a chyflwyno yn hyderus i feistroli meddalwedd newydd, gan gynnwys ieithoedd rhaglennu amrywiol a chymwysiadau Microsoft. Gallwch weld ein tudalennau gwe i gael mwy o wybodaeth gan gynnwys dechrau arni gyda LinkedIn Learning.
Gŵyl Sgiliau Digidol
Yn 2023, fe wnaethon ni drefnu’r Ŵyl Sgiliau Digidol a chafwyd cyflwyniadau gan amrywiaeth o siaradwyr mewnol ac allanol am amrywiaeth o bynciau megis Deallusrwydd Artiffisial, Excel, Lles Digidol a seiberddiogelwch. Gallwch weld yr holl adnoddau a’r recordiadau o bob sesiwn yma.
Jisc: Offer DA bob dydd
Yn rhan o Wythnos Sgiliau Aber 2024, gwnaethom wahodd Uwch arbenigwr DA Jisc, Paddy Shepperd, i siarad am ‘Offer Deallusrwydd Artiffisial Bob Dydd’, pa offer y gellir eu defnyddio, sut maen nhw’n datblygu a’r peryglon. Gallwch weld recordiad o’r holl sesiwn yma.
SgiliauAber
SgiliauAber yw’r canolbwynt ar gyfer datblygu sgiliau ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe’r Brifysgol. Mae SgiliauAber yn rhoi mynediad i weithdai sgiliau, ynghyd â chymorth gyda sgiliau llyfrgell a gwybodaeth, lles a sgiliau mathemategol, ystadegol a rhifiadol.
TipiauDigidol
Bob dydd Mawrth ers mis Medi 2023, mae’r Tîm Sgiliau Digidol wedi postio awgrym neu dric bach i helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol. Gallwch weld pob TipDigidol yma.
Wrth i ni nesáu at dymor yr arholiadau, gweler isod gasgliad o adnoddau i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr arholiadau. Mae’r adnoddau’n cynnwys awgrymiadau o ran trefnu a sgiliau astudio yn ogystal ag awgrymiadau i gefnogi eich lles digidol yn ystod cyfnodau o straen.
Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol i’r tîm Sgiliau Digidol! Dyma restr o’r hoff bethau rydyn ni wedi’u creu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys fformatau, digwyddiadau ac adnoddau newydd:
👩🏻💻 Tudalennau gwe newydd i’ch helpu i weithio mewn proses gam wrth gam i ddatblygu eich sgiliau
Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau defnyddio’r adnoddau hyn gymaint ag yr ydym ni wedi mwynhau eu creu. Hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd ac edrychwn ymlaen at gefnogi eich sgiliau yn 2025!
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Tîm Sgiliau Digidol gan gynnwys Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr wedi cyhoeddi llawer o bostiadau blog sy’n ymdrin â llawer o bynciau a materion digidol. Dyma’r 5 blogbost gorau o 2023/24!
Fy mhrofiad gyda Code First Girls: Darllenwch am un o’n profiadau wrth ddilyn cwrs gyda Code First Girls a pham y dylech ystyried ymuno â chwrs hefyd!
Cyflwyno’r bot sgwrsio DA newydd yn LinkedIn Learning: Rhag ofn nad oeddech chi’n gwybod – mae nodwedd newydd ar LinkedIn Learning lle gall bot sgwrsio hyfforddi DA nawr ddarparu argymhellion a helpu i wella eich profiad LinkedIn Learning.
Yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni, mae’n bwysig i fyfyrwyr prifysgol sefyll ar allan. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ennill tystysgrifau ar gyfer cyrsiau a gwblhawyd ar eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth a’u hychwanegu at eich proffil LinkedIn personol.
Ond pam mae hyn yn bwysig? Mae ychwanegu tystysgrifau yn cynyddu eich siawns o gael eich canfod gan recriwtwyr sy’n chwilio am sgiliau penodol, gan ddangos eich ymrwymiad i ddysgu parhaus a datblygu gyrfa, gan eich gwneud yn ymgeisydd mwy apelgar.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut i ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol ⬇
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk) neu edrychwch ar y dudalen Tystysgrif LinkedIn Learning swyddogol.
Wrth i ni agosáu at ddechrau cyfnod yr arholiadau, rydym wedi rhestri amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i wneud y gorau o dechnoleg wrth i chi baratoi ac adolygu ar gyfer eich arholiadau.
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
I lawer o fyfyrwyr, gall y cydbwysedd rhwng astudio ar gyfer arholiadau, cwblhau gwaith cwrs, a chwilio am gyfleoedd cyflogaeth ymddangos yn amhosibl. Dw i wedi ei chael hi’n anodd rheoli fy astudiaethau i wrth geisio dod o hyd i swyddi perthnasol ac wedyn llenwi tudalen ar ôl tudalen o geisiadau. Cymerwch lwyfannau fel Gradcracker neu GyrfaoeddAber. Mae Gradcracker, a weles i yn gyntaf yn ystod yr Ŵyl Sgiliau Digidol, fel llawer o wefannau tebyg, yn cyfuno llawer o gyfleoedd cyflogaeth wedi’u teilwra’n unswydd i’m sgiliau i. Yn y blogbost yma, dwi’n gobeithio amlinellu rhai o’r dulliau ddefnyddies i i helpu i reoli fy astudiaethau wrth chwilio am swyddi, a chyfeirio hefyd at nifer o adnoddau sydd ar gael drwy’r Brifysgol.
Rheoli’ch amser ⏰
Un o’r prif heriau sy’n wynebu myfyrwyr sy’n chwilio am swydd yw rheoli amser. Gyda darlithoedd, seminarau ac aseiniadau yn mynnu eu sylw, gall neilltuo amser penodol i wneud cais am swydd fod yn her. A dweud y gwir, roedd yr amser sy’n angenrheidiol ym mhob cais am swydd yn ffordd wych o ohirio cyn gwneud fy nhraethawd hir, a helpodd fi i gwblhau llawer ohonyn nhw yn gyflym. Er hynny, wrth i’m trydedd flwyddyn barhau ac wrth i aseiniadau eraill ddechrau codi braw, dyma weld mai’r ffordd orau i gadw rheolaeth dros y cyfan oedd rhoi awr neu ddwy i mi fy hun bob wythnos pan fyddwn i’n canolbwyntio ar geisiadau am swyddi yn unig. Er mwyn cadw at y terfyn amser hunanosodedig, dwi’n arbed URL unrhyw swyddi mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Os ydyn nhw ar Gradcracker, dwi’n gofalu eu bod nhw yn fy rhestr fer, sy’n golygu ei bod yn hawdd dod o hyd iddyn nhw a dangos faint o amser sydd gen i i wneud cais am y swydd.
Cymaint o ysgrifennu ✍
Un rhwystr arall mae myfyrwyr yn dod ar ei draws yw’r pwysau i sefyll allan mewn marchnad swyddi hynod gystadleuol. Mae llunio CV perswadiol, ysgrifennu llythyrau eglurhaol pwrpasol, a pharatoi ar gyfer cyfweliadau i gyd yn elfennau hanfodol o’r broses o ymgeisio am swydd. Ond, mae cydbwyso cyflawniad academaidd a phrofiad gwaith perthnasol yn gallu cymryd amser ac ymdrech, yn enwedig i’r rhai sy’n jyglo nifer o ymrwymiadau yr un pryd. Yr adnodd mwyaf defnyddiol a weles i wrth geisio diweddaru fy CV oedd defnyddio’r sesiynau galw heibio sy’n cael eu cynnig yn ddyddiol gan y gwasanaeth gyrfaoedd. Roedd cael pâr arall o lygaid i edrych dros bopeth yn amhrisiadwy.
Un o’r adrannau yn fy CV dwi bob amser wedi cael trafferth ei llenwi yw’r adran sgiliau, a hynny yn rhannol am y gall fod yn anodd gwybod pa un yw’r pwysicaf i’w restru a hefyd am y gall fod yn anodd yn aml i lunio rhestr o sgiliau yn y fan a’r lle. Er mwyn helpu i lenwi’r adrannau hyn, fe ddefnyddies i gyfuniad o wybodaeth am fodiwlau a Offeryn Darganfod Digidol Jisc, a ddefnyddies i i adnabod fy hyfedredd â thechnoleg.
Esiampl o adroddiad o Offeryn Darganfod Digidol Jisc
Gloywi’ch Presenoldeb Digidol 👣
Un o’r camau cyntaf gymeres i yn gynnar yn y broses o ymgeisio am swyddi oedd diweddaru a sgleinio fy mhroffil ar LinkedIn. Ar ôl cael fy sbarduno gan sesiwn ‘How to use LinkedIn‘ yn ystod yr Ŵyl Sgiliau Digidol, adolyges i lawer o’m proffil blaenorol a chreu rhywbeth y gallaf ei ddefnyddio ar gyfer ceisiadau am swyddi erbyn hyn.
Mae gwirio’ch ôl troed digidol yn elfen sy’n aml yn cael ei hanwybyddu wrth wneud cais am swyddi mewn oes ddigidol. Mae fy nghyd-Bencampwr Digidol Noel wedi ysgrifennu blogbost defnyddiolyn edrych ar y camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu’ch ôl troed digidol a sicrhau bod y cyhoedd a chyflogwyr yn gallu gweld yr hyn rydych chi am iddyn nhw ei weld a dim byd arall. Mae’r Tîm Sgiliau Digidol hefyd wedi curadu casgliad LinkedIn Learning ar reoli eich hunaniaeth ddigidol.
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd 💬
Os ydych chi’n chwilio am gyngor mwy penodol, y gwasanaeth gyrfaoedd yw’r bobl orau i siarad â nhw ac mae manylion am y ffordd orau o ddefnyddio’r gwasanaeth ar eu tudalennau gwe, ac mae’r cymorth yn agored i fyfyrwyr presennol ac ôl-raddedigion.
Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Mae hynny’n cloi hanner cyntaf y cyfweliadau â graddedigion yn ein Cyfres o Broffiliau Sgiliau Digidol a bydd yr ail hanner yn cael ei ryddhau yn Semester 2 felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol GG am ddiweddariadau!
Yn y cyfamser, o ddarllen yr hyn y mae ein graddedigion yn dweud yr hoffent fod wedi’i ddysgu cyn graddio, efallai eich bod yn meddwl tybed beth sydd ar gael i chi fel myfyriwr PA i wella eich sgiliau digidol? Dyma rhai o’r prif adnoddau sydd ar gael i chi:
Sefydliad Blackboard ‘Sut mae eich sgiliau digidol?’
Rydym wedi datblygu sefydliad Blackboard newydd sy’n rhoi arweiniad cam wrth gam i chi ar sut i ddefnyddio’r holl adnoddau a grybwyllir isod, gan gynnwys Offeryn Darganfod Digidol Jisc a LinkedIn Learning.
Offeryn Darganfod Digidol Jisc
Mae Offeryn Darganfod Digidol Jisc yn adnodd dwyieithog sy’n galluogi chi i hunanasesu eich hyder â thechnoleg. Bydd yn eich galluogi i nodi eich cryfderau yn ogystal â thynnu sylw at gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau digidol ymhellach.
LinkedIn Learning
Mae’r platfform dysgu ar-lein hwn ar gael am ddim i bob myfyriwr PA ac mae’n cynnwys dros 16,000 o gyrsiau am ddim ar bopeth o olygu lluniau a fideo, codio, sut i chwarae offeryn, cyrsiau celf a chymaint mwy! Os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn datblygu eich sgiliau digidol, gallwch hefyd ymweld â’n casgliadau sgiliau digidol yn y platfform. Ysgogwch eich cyfrif heddiw!
Llyfrgell Sgiliau Digidol
Archwiliwch y Llyfrgell Sgiliau Digidol, lle dewch o hyd i adnoddau i’ch helpu i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a phresennol o fewn chwe chategori.
Blog Sgiliau Digidol
Yn ogystal â’r gyfres hon, mae gennym ddigonedd o gynnwys diddorol ac addysgiadol ar ein tudalen flog o driciau ar gyfer meddalwedd Microsoft, ein Tipiau Digi wythnosol, i’n Cyfres Lles Digidol.
SgiliauAber
Mae SgiliauAber yn cynnwys ystod eang o adnoddau a gwybodaeth am sesiynau 1-2-1 a gweithdai i’ch helpu i ddatblygu ystod o sgiliau astudio, sgiliau cyflogadwyedd a llawer mwy. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich hyder gyda meddalwedd penodol, gallwch ymweld â’r adran Defnyddio Technoleg yn Aber.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw yn o’r adnoddau a restrwyd uchod, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
I gyd-fynd â blogbost a gyhoeddais yr wythnos diwethaf ar sut y gallwch ddefnyddio offer rheoli amser i’ch helpu i feistroli’ch amserlen, rwyf wedi creu ffeithlun (fersiwn testun isod) sy’n crynhoi rhai o’r strategaethau a’r offer allweddol sydd wedi gweithio i mi.