Mae’n bosib eich bod chi wedi clywed am alluoedd digidol yn barod, neu efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â’r term cysylltiedig, sgiliau digidol. Gyda sefydliad diweddar Prosiect Galluoedd Digidol newydd y Brifysgol, mae’n debygol y byddwch chi’n clywed llawer mwy am alluoedd digidol dros y misoedd nesaf.
Beth yw galluoedd digidol?
Yn ôl Jisc, mae galluoedd digidol yn arfogi unigolion i allu byw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas ddigidol. Yn sgil y pandemig, mae’r amser y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei dreulio ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol – drwy weithio, dysgu, addysgu a rhyngweithio gydag eraill ar-lein.
Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i ddysgu mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.