TipDigidol 48: Dewiswch lwybr byr! 🖥️ 

Amser i ddysgu llwybr byr newydd gyda ThipDigidol 48! 

Llwybr byr hawdd i ddewis rhes gyfan yn Excel. Yn y rhes yr hoffech ei dewis, defnyddiwch y llwybr byr: Shift + bar gofod.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 46: Cydweddu lliwiau ar eich sleidiau PowerPoint gyda’r adnodd Eyedropper 🎨 

Wrth greu cyflwyniad PowerPoint, efallai y bydd adegau pan fyddwch chi eisiau cydweddu lliw’r cefndir neu wrthrych â lliw penodol iawn. Er bod yr opsiynau lliw sydd ar gael yn helaeth, mae yna adnodd hynod ddefnyddiol o’r enw eyedropper, sy’n eich galluogi i gydweddu lliw yn berffaith! 

Dilynwch y fideo isod i ddysgu sut i ddefnyddio’r nodwedd hon. Yn y fideo, byddwn yn dangos i chi sut i newid lliw siâp, ond mae’r un camau’n berthnasol i newid lliw eich cefndir, border, a llawer mwy. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 44: Gwneud penderfyniadau cyflym gyda’r nodwedd bleidleisio yn MS Teams 📊  

Efallai y bydd adegau pan fyddwch mewn cyfarfod MS Teams, ac mae angen i chi wneud penderfyniad cyflym. E.e. penderfynu pryd i gynnal eich cyfarfod grĹľp nesaf neu bleidleisio ar ba deitl i’w ddewis ar gyfer adroddiad prosiect.  

Os hoffech chi greu pleidlais ar ôl i chi ddechrau eich cyfarfod, mae gan Teams adnodd pleidleisio. Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae gosod eich pleidlais gyntaf! 

Noder:Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio Vevox, adnodd pleidleisio PA os ydych chi’n bwriadu gosod pleidlais cyn eich cyfarfod neu sesiwn ar-lein. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 43: Newid eich gwaith gyda Disodli yn Word 🔃

Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi ddisodli gair rydych chi wedi’i ddefnyddio’n gyson drwy gydol eich gwaith – gallai hwn fod yn enw neu’n air a gamsillafwyd. Gall TipDigidol 43 ddangos i chi sut i ddod o hyd i eiriau a’u disodli’n gyflym. Darllenwch y cyfarwyddiadau cam wrth gam byr neu gwyliwch y fideo i ddysgu sut!  

  • Yn y rhuban uchaf, dewiswch yr opsiwn ‘disodli’. 
  • Rhowch y gair yr hoffech ei ddisodli yn yr adran ‘Canfod beth’. 
  • Rhowch y gair yr hoffech ei ddefnyddio yn ei le yn yr adran ‘Disodli gyda’. 
  • Dewiswch yr opsiwn perthnasol i chi – disodli a dod o hyd nesaf i newid fersiynau unigol neu ddisodli’r cyfan.  

Noder, ni fydd hyn yn gweithio oni bai bod y gair yn ‘canfod beth’ wedi’i sillafu’n gywir.    

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 42: Mireinio eich canlyniadau chwilio yn MS Teams 🔎  

Mae gan Teams adnodd chwilio defnyddiol, ond weithiau gall gynhyrchu gormod o ganlyniadau. Er mwyn arbed amser diangen yn chwilio, gallwch ddefnyddio hidlwyr. 

Mae’r hidlwyr hyn yn caniatĂĄu ichi chwilio gan ddefnyddio meini prawf penodol fel dyddiad, anfonwr a math o ffeil, gan eich helpu i nodi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym!

Edrychwch ar y sgrinlun isod i ddysgu sut i ddefnyddio’r hidlwyr hyn ⬇

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 41: Gwell Nodiadau gyda Microsoft OneNote 📒

A ydych erioed wedi meddwl yr hoffech gael eich holl nodiadau gan gynnwys dogfennau neu ddogfennau PDF i gyd mewn un lle? Mae hyn yn bosibl gyda OneNote! Yn ogystal â bod yn lle gwych i storio eich nodiadau personol, oeddech chi’n gwybod y gallwch chi fewnosod allbrintiau ffeiliau gan gynnwys dogfennau PDF a thudalennau Word i fynd ochr yn ochr â’ch nodiadau? Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae mewnosod allbrintiau ffeiliau! 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 39: Gorau arf, ymarfer: Amseroedd ymarfer yn PowerPoint 🥇

Os oes angen i chi roi cyflwyniad o fewn terfyn amser caeth, efallai yr hoffech ymarfer i gael yr amseru’n berffaith. Gyda ThipDigidol 39, gallwch ddysgu sut i ymarfer eich cyflwyniad a gweld faint o amser a ddefnyddiwyd gennych fesul sleid. Edrychwch ar y clip byr isod i weld sut i ymarfer: 

Noder y bydd angen i chi ddiffodd amseriadau sleidiau cyn i chi gyflwyno er mwyn newid y sleidiau â llaw, gallwch ddysgu sut i wneud hyn yma: Ymarfer ac amseru cyflwyniad – Cymorth Microsoft 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigidol 37: Diwygiwch eich gwaith gyda Chyfystyron yn Word 🔀

Ydych chi erioed wedi ceisio meddwl am air gwahanol i ddiwygio eich brawddeg? Nid oes angen pendroni mwyach! Gyda Thipdigidol 37, dysgwch sut i ddefnyddio’r nodwedd cyfystyron yn Word. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam isod neu gwyliwch y fideo byr i ddysgu mwy! 

Yn syml: 

  • Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y gair o’ch dewis  
  • Daliwch y llygoden dros ‘cyfystyron’  
  • Dewiswch air newydd! 
  • Dal ddim yn gweld gair priodol? Dewiswch thesawrws i weld mwy! 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 36: Ymatebion i e-byst yn Outlook 👍🎉 

Efallai y bydd adegau pan fydd rhywun wedi anfon e-bost atoch, a hoffech gydnabod ei dderbyn heb anfon ateb arall. Nodwedd wych i’w defnyddio yn yr achos hwn yw’r nodwedd ymateb yn Outlook, sy’n gweithio’n debyg i’r rhai yn MS Teams neu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol. 

I ymateb i e-bost, cliciwch ar y botwm wyneb hapus ar frig eich sgrin. Yna gallwch ddewis o chwe emoji, yn amrywio o fawd i fyny 👍 i wyneb trist! 😥 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 34: Gwneud sgyrsiau MS Teams yn haws i’w darllen gyda phwyntiau bwled 💬 

Ydych chi erioed wedi bod mewn cyfarfod MS Teams lle mae angen i chi anfon rhestr gyflym sy’n hawdd i eraill ei darllen? Mae dwy ffordd gyflym o greu pwyntiau bwled neu restrau wedi’u rhifo mewn unrhyw sgwrs MS Teams.

Opsiwn 1

Gallwch naill ai glicio ar yr eicon fformat yn y sgwrs, a gallwch greu pwyntiau bwled neu restr wedi’i rhifo’n hawdd oddi yma.

Opsiwn 2

Neu os ydych chi mewn sgwrs Teams: 

  • Pwyswch ac yna’r bar gofod i ddechrau eich pwyntiau bwled 
  • Pwyswch 1. ac yna’r bar gofod i ddechrau eich rhestr wedi’i rhifo 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!