Post Blog gan Urvashi Verma (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Wrth i’r Wythnos Groeso ddod i ben yn ddiweddar, gobeithio bod pawb wedi ymgyfarwyddo â’u hamserlenni newydd. Mae hyn yn golygu newid arferion a ffordd o fyw i gyd-fynd ag amserlen y brifysgol. I fyfyriwr sy’n byw yn annibynnol am y tro cyntaf, gall y newidiadau hyn fod yn anoddach fyth. O reoli arian i fyw gyda phobl newydd, nid yw bob amser yn chwarae plant. Er enghraifft, pan ddechreuais i fyw yn annibynnol am y tro cyntaf, fe wnes i droi fy holl ddillad gwyn yn binc llachar!
Drwy’r post blog hwn, rydw i’n mynd i rannu gyda chi awgrymiadau defnyddiol o fy mhrofiadau fy hun, ac yn enwedig yr apiau a thechnolegau gwahanol sydd wedi fy helpu i deimlo’n fwy cyfforddus yn byw’n annibynnol.
Cael digon o gwsg
Gall sicrhau eich bod chi’n cael digon o gwsg tra hefyd yn jyglo eich bywyd rhwng dosbarthiadau, aseiniadau a gwaith beri straen mawr ar y dechrau a gall gymryd rhywfaint o amser i ddod i arfer â hyn. Ceisiwch gynnal cylch cysgu gyson drwy fynd i gysgu ar yr un amser bob nos.
Technoleg: Byddwn yn argymell ap am ddim o’r enw Sleep Cycle: Sleep Recorded. Bydd yr ap hwn yn eich helpu i gofnodi eich patrwm cysgu, a gallwch ei ddefnyddio i’ch deffro ar yr adeg gywir yn unig drwy ddefnyddio cloc larwm deallus.