Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Ydych chi’n cael ymdeimlad o arswyd bob tro y mae’n rhaid i chi ddefnyddio Excel yn ystod eich gradd? Wel, rydyn ni yma i helpu! Bydd angen defnyddio Excel ar ryw adeg ar gyfer nifer o gynlluniau gradd er mwyn dadansoddi data, gwneud cyfrifiadau mathemateg, creu graff neu siart, rheoli prosiectau a llawer mwy.
Gall Excel ymddangos yn gymhleth ac yn frawychus i rai, yn enwedig os ydych chi’n gymharol newydd iddo, felly rydw i wedi llunio rhestr o syniadau ac awgrymiadau yn ogystal â chasgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning i’ch rhoi ar ben ffordd.
Cadwch lygad ar ein blog ddiwedd yr wythnos, gan y byddaf yn cyhoeddi ail ran y blogbost hwn, a fydd yn cynnwys 5 o syniadau ac awgrymiadau eraill ar ddefnyddio Excel!
Awgrym 1: Llwybrau byr defnyddiol ar y bysellfwrdd
Mae llwybrau byr bysellfwrdd yn golygu pwyso mwy nag un fysell ar yr un pryd a thrwy eu cofio, gall arbed llawer iawn o amser i chi, er enghraifft defnyddio CTRL+A i ddewis yr holl gelloedd mewn taenlen. Cymerwch olwg ar y rhestr ganlynol o’r rhai da i’w dysgu:
Ctrl + N | Creu llyfr gwaith (workbook) newydd |
Ctrl + O | Agor llyfr gwaith sy’n bodoli eisoes |
Ctrl + S | Cadw’r llyfr gwaith gweithredol |
F12 | Cadw’r llyfr gwaith gweithredol o dan enw newydd – Bydd hyn yn dangos y blwch deialog Save As |
Ctrl + W | Cau’r llyfr gwaith gweithredol |
Ctrl + C | Copïo cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd |
Ctrl + X | Torri cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd |
Ctrl + V | Gludo/mewnosod cynnwys y Clipfwrdd yn y celloedd a ddewiswyd |
Ctrl + Z | Dadwneud eich gweithred ddiwethaf |
Ctrl + P | Agor y dialog argraffu |
Alt + H | Agor y tab cartref |
Alt + N | Agor y tab mewnosod |
Alt + P | Agor y tab cynllun tudalen |
Ctrl + S | Arbed y llyfr gwaith |
Ctrl + 9 | Cuddio’r rhesi a ddewiswyd |
Ctrl + 0 | Cuddio’r colofnau a ddewiswyd |