TipDigi 15 – 3 nodwedd ddefnyddiol i ddysgu yn Microsoft Teams 💬

Dilynwch y camau hyn i osod eich sgyrsiau blaenoriaeth ar frig eich rhestr: 

  • Ar ochr chwith eich ffenestr Teams, rhowch eich cyrchwr dros y sgwrs yr hoffech roi pin arni 
  • Cliciwch fotwm de’r llygoden unwaith ar y sgwrs a chliciwch ar Pin
  • Bydd eich sgwrs flaenoriaeth yn cael ei gosod ar frig eich rhestr sgwrsio ddiweddar 

Dilynwch y camau hyn i ddistewi hysbysiadau o’ch sgwrs ddewisol: 

  • Ar ochr chwith eich ffenestr Teams, rhowch eich cyrchwr dros y sgwrs yr hoffech ei distewi 
  • Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y sgwrs a chliciwch ar Mute
  • Bydd hysbysiadau sy’n dod i mewn yn cael eu distewi ar gyfer y sgwrs benodol hon 

Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn ar gyfer cadw negeseuon i edrych arnynt yn ddiweddarach: 

  • Agorwch y sgwrs yr hoffech gadw’r neges(euon) sydd ynddi 
  • Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y neges a chliciwch ar Save this message
  • Rhowch eich cyrchwr ar eich eicon Teams a chliciwch arno 
  • Dewiswch yr opsiwn Saved yn y ddewislen

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi 13 – Trefnu ac oedi anfon eich negeseuon e-bost yn Outlook 📨

Gan ddibynnu ar bwy yr hoffech gyfathrebu â nhw, weithiau mae’n fwy cyfleus i amserlennu ac oedi anfon eich negeseuon e-bost tan amser arall. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i chi ail-olygu cynnwys eich e-bost eto os oes angen a gallwch leihau straen i’r dyfodol os gallwch baratoi eich e-byst ymlaen llaw! 

Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: 

  • Agorwch neges e-bost newydd wag yn Outlook 
  • Ysgrifennwch yr e-bost a sicrhau eich bod wedi cynnwys derbynnydd a llinell bwnc 
  • Cliciwch ar yr eicon  sydd nesaf i’r botwm Anfon (Send)sydd wedi’i uwch oleuo mewn glas.
  • Dewiswch Trefnu Anfon (Schedule Send)
  • Dewiswch yr amser a’r dyddiad yr hoffech i’r e-bost gael ei anfon, neu:
  • Cliciwch Amser Personol (Customised Time)a dewis amser penodol ar gyfer anfon yr e-bost.
  • Cliciwch Anfon (Send)unwaith eich bod yn hapus gyda’r e-bost a’r gosodiadau ‘Trefnu Anfon’.

Mae’n werth nodi bod yn rhaid i Outlook fod ar agor i e-bost a oedwyd gael ei anfon allan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis amser anfon pan fyddwch chi’n gwybod y bydd eich Outlook ymlaen. 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi 7 – Dysgwch sgiliau digidol newydd am ddim gyda’n casgliadau sgiliau digidol o LinkedIn Learning 💻

Ydych chi eisiau dysgu neu ddatblygu eich sgiliau digidol ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Gyda’n casgliadau sgiliau digidol LinkedIn Learning, gallwch bellach ddatblygu eich sgiliau digidol ymhellach gyda chyrsiau a fideos hawdd eu deall sydd wedi’u teilwra’n fwy penodol i’r hyn yr ydych chi’n chwilio amdano. Gydag amrywiaeth o gynnwys i ddewis ohonynt yn LinkedIn Learning, rydym wedi datblygu 30 casgliad newydd (15 i fyfyrwyr a 15 i staff) i’ch cynorthwyo ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddod o hyd i’r cynnwys mwyaf priodol sy’n addas ar gyfer yr hyn yr hoffech ddysgu amdano. Mae pob casgliad yn cynnwys 9 o adnoddau, a gall yr adnoddau hyn amrywio o fideos byr 3 munud i gyrsiau mwy manwl.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y casgliadau LinkedIn Learning hyn, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).  

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi 4 – Cyfle i wella eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned, gyda’r Forest App 🌱

Ydych chi eisiau cynyddu eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned? Bydd y Forest App yn helpu i leihau oedi ac amhariadau a rhoi’r cymhelliant ychwanegol i chi aros yn gynhyrchiol, trwy dyfu coed ac ennill darnau arian rhithwir i ddatgloi planhigion newydd gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych chi wedi aros yn gynhyrchiol.

Wrth i’ch coedwig dyfu, gallwch weld sut olwg sydd ar eich dosbarthiad amser penodol dros amser, gyda siartiau manwl amrywiol wedi’u cynnwys yn yr ap. 

Gyda’r Forest App yn partneru â sefydliad plannu coed go iawn, pan fydd defnyddwyr yn gwario eu darnau arian rhithwir ar blannu coed newydd, gall tîm Forest App roi cyfraniad i’r sefydliad plannu coed go iawn i greu archebion plannu!

Gallwch lawrlwytho’r Forest App drwy’r Storfa Apiau ar ddyfeisiau iOS ac Android.

Am ragolwg cyflym, edrychwch ar y sgrin luniau uchod i weld sut gall yr Forest App edrych ar eich dyfais symudol.

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Hyfforddiant Sgiliau Digidol: Semester 1 ’23-24

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu pa adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i asesu a datblygu eich sgiliau digidol? Neu, efallai bod diddordeb gennych chi mewn dysgu mwy am sut y gallwch gefnogi’ch myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau digidol?

Byddwn ni’n cynnal nifer o sesiynau hyfforddi i staff drwy gydol Semester 1. Os nad oes modd ichi fynychu’r sesiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk a gallwn drefnu sgwrs i chi ag aelod o’n tîm.

Sesiynau cyfrwng Cymraeg:

Sesiynau cyfrwng Saesneg: