
Ers mis Medi 2023, mae’r Tîm Sgiliau Digidol wedi bod yn cyhoeddi awgrymiadau a thriciau wythnosol i helpu i wella eich Sgiliau Digidol, un TipDigidol ar y tro. Hyd yn hyn, rydym wedi cyhoeddi 60 TipDigidol o lwybrau byr Microsoft i awgrymiadau am apiau lles digidol!
Byddwn yn dychwelyd yr wythnos nesaf ar ddydd Mawrth 29 Ebrill gyda 5 TipDigidol arall, os ydych chi am fynd yn ôl ac edrych ar DipDigidol blaenorol gallwch ddarllen pob un ohonynt ar y dudalen we hon.
Sut alla i ddilyn y TipDigidol?
Os ydych chi am weld ein TipDigidol bob wythnos, mae sawl ffordd wahanol o wneud hynny.
- Gallwch osod llyfrnod i’r dudalen we hon a bydd TipDigidol newydd yn ymddangos yma am 10yb bob dydd Mawrth yn ystod y tymor (Darllenwch TipDigidol 1 os nad ydych chi’n siŵr sut i osod llyfrnod ar dudalen we).
- Os hoffech gael neges e-bost pan fydd TipDigidol newydd yn cael ei bostio gallwch danysgrifio i’n Blog Sgiliau Digidol.
- Rydym hefyd yn cyhoeddi pob TipDigidol ar dudalennau Facebook ac Instagram y gallwch eu gweld o’r eiconau isod. Oddi yno, gallwch ddilyn ein hashnodau #TipDigidolPA #AUDigiTips