Gallwch chwyddo i mewn ac allan yn rhwydd gyda ThipDigidol 61! Os oes angen i chi chwyddo i mewn neu allan yn gyflym ar eich cyfrifiadur Windows, y llwybr byr hawdd ar gyfer hyn yw’r fysell Windows a + i chwyddo i mewn ac yna bysell Windows a – i chwyddo allan!
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Ers mis Medi 2023, mae’r Tîm Sgiliau Digidol wedi bod yn cyhoeddi awgrymiadau a thriciau wythnosol i helpu i wella eich Sgiliau Digidol, un TipDigidol ar y tro. Hyd yn hyn, rydym wedi cyhoeddi 60 TipDigidol o lwybrau byr Microsoft i awgrymiadau am apiau lles digidol!
Byddwn yn dychwelyd yr wythnos nesaf ar ddydd Mawrth 29 Ebrill gyda 5 TipDigidol arall, os ydych chi am fynd yn ôl ac edrych ar DipDigidol blaenorol gallwch ddarllen pob un ohonynt ar y dudalen we hon.
Sut alla i ddilyn y TipDigidol?
Os ydych chi am weld ein TipDigidol bob wythnos, mae sawl ffordd wahanol o wneud hynny.
Gallwch osod llyfrnod i’r dudalen we hon a bydd TipDigidol newydd yn ymddangos yma am 10yb bob dydd Mawrth yn ystod y tymor (Darllenwch TipDigidol 1 os nad ydych chi’n siŵr sut i osod llyfrnod ar dudalen we).
Rydym hefyd yn cyhoeddi pob TipDigidol ar dudalennau Facebook ac Instagram y gallwch eu gweld o’r eiconau isod. Oddi yno, gallwch ddilyn ein hashnodau #TipDigidolPA#AUDigiTips
Ydych chi erioed wedi cael trafferth cyflwyno eich PowerPoint ar-lein trwy rannu eich sgrin? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gyflwyno’n uniongyrchol o PowerPoint i Teams? Wel rydych chi’n gwybod nawr gyda ThipDigidol 60!
Pan fyddwch yn eich cyfarfod ac yn barod i rannu eich sleidiau – dewiswch y botwm “present in Teams” yn eich PowerPoint a dechrau cyflwyno!
Edrychwch ar y fideo byr isod i weld pa mor hawdd ydyw:
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Ydych chi’n anghofio yfed digon o ddŵr yn y Brifysgol neu yn y gwaith? Dyma’r TipDigidol i chi. Mae yfed digon o ddŵr yn rhan bwysig o’ch lles gan ei fod yn dylanwadu ar faint o egni sydd gennych ac yn eich helpu i ganolbwyntio.
Mae gan My Water fersiwn am ddim a fydd yn anfon hysbysiadau atoch ar gyfnodau penodol sy’n eich atgoffa i yfed i gyrraedd eich nod ar gyfer y diwrnod. Ochr yn ochr â hyn rhoddir ystadegau i chi hefyd yn seiliedig ar faint o ddŵr ydych chi wedi’i yfed yn ystod yr wythnos. Mae yna hefyd dudalen Cyflawniadau sy’n dangos pa gerrig milltir rydych chi wedi’u taro a sut i gyflawni mwy. Wrth gofnodi’r hyn rydych chi wedi’i yfed ar y fersiwn am ddim gallwch ddewis dŵr, coffi neu de a fydd yn dychwelyd symiau gwahanol i’ch cynnydd dŵr yn seiliedig ar gydbwysedd y dŵr yn eich diod.
Isod ceir rhai sgrinluniau o’r ap sy’n dangos rhai o’r nodweddion hyn.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!