TipDigidol 50: Rhagori mewn Cymryd Nodiadau! 📝

Hoffech chi wella eich dull o gymryd nodiadau ond rydych chi’n cael trafferth gyda fformat? Gyda ThipDigidol 50 a thempledi tudalen yn OneNote gallwch wneud hynny! 

Mae gan Microsoft OneNote yr opsiwn i fewnosod templedi tudalen i’ch helpu i fformatio’ch nodiadau. Mae templedi o nodiadau darlithoedd syml i drosolwg prosiect i flaenoriaethu rhestrau. Gwyliwch y fideo isod i ddarganfod mwy! 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Diwrnod Rhyngwladol Addysg 🏫

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Addysg ar 24 Ionawr 2025 ac rydym yn dathlu drwy eich atgoffa am yr adnoddau sydd ar gael i ddatblygu eich sgiliau digidol.   

LinkedIn Learning [ar gael tan fis Mawrth 2025] 

Yn rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr PA tan fis Mawrth 2025, mae LinkedIn Learning yn llwyfan ar-lein sy’n cynnig miloedd o gyrsiau dan arweiniad arbenigwyr sy’n addas ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr i lefel uwch. Gyda LinkedIn Learning, gallwch ddatblygu ystod eang o sgiliau, o ddefnyddio offer DA a chyflwyno yn hyderus i feistroli meddalwedd newydd, gan gynnwys ieithoedd rhaglennu amrywiol a chymwysiadau Microsoft.  Gallwch weld ein tudalennau gwe i gael mwy o wybodaeth gan gynnwys dechrau arni gyda LinkedIn Learning

Gŵyl Sgiliau Digidol 

Yn 2023, fe wnaethon ni drefnu’r Ŵyl Sgiliau Digidol a chafwyd cyflwyniadau gan amrywiaeth o siaradwyr mewnol ac allanol am amrywiaeth o bynciau megis Deallusrwydd Artiffisial, Excel, Lles Digidol a seiberddiogelwch. Gallwch weld yr holl adnoddau a’r recordiadau o bob sesiwn yma.  

Jisc: Offer DA bob dydd 

Yn rhan o Wythnos Sgiliau Aber 2024, gwnaethom wahodd Uwch arbenigwr DA Jisc, Paddy Shepperd, i siarad am ‘Offer Deallusrwydd Artiffisial Bob Dydd’, pa offer y gellir eu defnyddio, sut maen nhw’n datblygu a’r peryglon. Gallwch weld recordiad o’r holl sesiwn yma

SgiliauAber 

SgiliauAber yw’r canolbwynt ar gyfer datblygu sgiliau ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe’r Brifysgol. Mae SgiliauAber yn rhoi mynediad i weithdai sgiliau, ynghyd â chymorth gyda sgiliau llyfrgell a gwybodaeth, lles a sgiliau mathemategol, ystadegol a rhifiadol.  

TipiauDigidol 

Bob dydd Mawrth ers mis Medi 2023, mae’r Tîm Sgiliau Digidol wedi postio awgrym neu dric bach i helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol. Gallwch weld pob TipDigidol yma.  

TipDigidol 49: Graffiau diddorol yn MS Excel 📈

Ydych chi eisiau ychwanegu ffyrdd diddorol o gyflwyno’ch data yn MS Excel? Gall TipDigidol 49 helpu gyda hynny trwy gyflwyno Sparklines. Mae Sparklines yn graffiau bach sydd ond yn cymryd un gell mewn dalen Excel ac yn ffordd effeithiol o gyflwyno data heb orfod cael graff sy’n llenwi dalen gyfan. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyflwyno data sy’n bwysig ond nad yw’n hanfodol i gyflwyniad.

  • Yn gyntaf, mae angen i chi gael cyfanswm priodol o ddata fel y dangosir.
  • Yna dewiswch y Celloedd rydych chi am eu defnyddio i gyflwyno’r data a mynd i ‘mewnosod’ yn y tabiau a dewis y math o graff yr hoffech ei gael gan Sparklines.
  • Dewiswch yr ystod ddata yr hoffech ei defnyddio, sef B2; F4 yn yr enghraifft.
  • A dyna ni; dylech gael graff sy’n cyflwyno’r data i gyd mewn un gell.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Gadewch i’ch Cynhyrchiant Ffynnu gyda’r ap Flora! 🌼

Gyda chyfnod yr arholiadau ar fin dechrau, gall adolygu a bod yn gynhyrchiol fod yn anodd, a gall fod yn demtasiwn i roi’r gwaith o’r neilltu a sgrolio trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Ond gyda’r ap Flora, gall hyn fod yn llawer haws! Mae Flora yn ap cynhyrchiant rhyngweithiol lle gallwch storio rhestrau o bethau i’w gwneud a meithrin arferion cadarnhaol, ac mae ar gael ar iOS ac Android. Gallwch osod amseryddion i ganolbwyntio ac amseryddion i’ch atgoffa i gamu i ffwrdd o’ch tasg a phryd i ddechrau eto. Mae’r ap Flora yn caniatáu ichi blannu hedyn ar ddechrau eich tasg, sy’n tyfu’n araf yr hiraf y byddwch chi’n parhau i ganolbwyntio, ac os ewch chi ar eich ffôn i fynd ar apiau eraill megis y cyfryngau cymdeithasol neu gemau, bydd eich coeden yn marw! Mae nodweddion eraill yn cynnwys y gallu i ddatgloi gwahanol rywogaethau o goed yr hiraf nad ydych chi’n torri eich amseryddion canolbwyntio, neu gwblhau heriau, yr opsiwn i greu rhestrau o bethau i’w gwneud er mwyn rheoli eich tasgau, hysbysiadau ar eich ffôn i’ch atgoffa i gymryd seibiant, y gallu i gael ffrindiau a herio eich gilydd i dyfu coed ac aros oddi ar eich ffonau. Lawrlwythwch nawr a dechreuwch blannu yn eich gardd gynhyrchiant! 

TipDigidol 48: Dewiswch lwybr byr! 🖥️ 

Amser i ddysgu llwybr byr newydd gyda ThipDigidol 48! 

Llwybr byr hawdd i ddewis rhes gyfan yn Excel. Yn y rhes yr hoffech ei dewis, defnyddiwch y llwybr byr: Shift + bar gofod.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Cyfaill Astudio! Casgliad o adnoddau i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr arholiadau 📚

Wrth i ni nesáu at dymor yr arholiadau, gweler isod gasgliad o adnoddau i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr arholiadau. Mae’r adnoddau’n cynnwys awgrymiadau o ran trefnu a sgiliau astudio yn ogystal ag awgrymiadau i gefnogi eich lles digidol yn ystod cyfnodau o straen.

Paratoi ac adolygu’n effeithiol ar gyfer yr arholiadau

Mewngofnodwch gyda’ch ebost a chyfrinair PA

Mynd i’r afael â straen arholiadau

Mewngofnodwch gyda’ch ebost a chyfrinair PA

Edrychwch hefyd ar y Cwestiynau a Holir yn Aml am yr arholiadau, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch unrhyw un o’r adnoddau sydd wedi’u rhestri uchod, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk). 

Dychwelyd at Fyd y TipDigidol! 💡

Mae croesawu’r Flwyddyn Newydd a Semester 2 hefyd yn golygu croesawu ein cyfres nesaf o awgrymiadau digidol. Dechreuodd y gyfres TipDigidol ym mis Medi 2023 lle mae’r Tîm Sgiliau Digidol yn postio tip byr a chyflym i’ch helpu gyda’ch bywyd digidol. Gallwch weld pob TipDigidol blaenorol yma ac o 14 Ionawr 2025 gallwch weld TipDigidol newydd yn cael ei bostio bob wythnos. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i sicrhau nad ydych yn eu colli!