Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr – Wythnos 3 – Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae ein trydydd Proffil Cyflogwr gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwerthfawrogi sgiliau sy’n ymwneud â hyfedredd digidol, dysgu digidol a chyfathrebu digidol; dysgwch fwy am ddatblygu’r sgiliau hyn o’n casgliadau LinkedIn Learning sydd wedi’u curadu isod.

Fersiwn Testun:

Cwmni: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Maint y Cwmni: 230

Sefydlwyd: 1907 ac yn ei lleoliad presennol ers 1916

Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Aberystwyth, Cymru

Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:

  • Cynorthwywyr Gweinyddol a Chyllid
  • Cynorthwywyr Llyfrgell ac Archifau
  • Cynorthwywyr Siop
  • Tîm Porthora
  • Cynorthwywyr Lletygarwch

Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Hyfedredd Digidol – Adnoddau ar-lein ar gael drwy wefan y llyfrgell e.e. catalog casgliadau, llawysgrifau.
Dysgu Digidol – Hyfforddiant ar becyn swyddfa MS, trawsgrifio casgliadau i fformat digidol, gwaith cadwraeth, sicrwydd ansawdd.
Cyfathrebu Digidol – E-bost, Teams, Zoom a’r cyfryngau cymdeithasol.

Pa mor bwysig yw technoleg i’ch gwaith bob dydd?:
“Mae technoleg yn cael ei defnyddio drwy’r llyfrgell, mae gennym fideos byw yn dangos clipiau o’n harchifau i gatalogau ar-lein.”

Pa fath o unigolyn fyddai’n gweddu’n dda i Lyfrgell Genedlaethol Cymru?:
“Ar yr amod nad ydych yn ofni defnyddio technoleg, mae digon o gyfleoedd i chi yn y Llyfrgell.  Darperir hyfforddiant llawn gan fod llawer o’n gwaith yn unigryw iawn ei natur.”

Ydy peidio â gallu siarad Cymraeg yn atal graddedigion rhag gwneud cais i weithio gyda chi?:
“Bydd pob Disgrifiad Swydd yn nodi lefel y Gymraeg sydd ei hangen i ymgymryd â rôl. Mae ein swyddi blaen tŷ yn gofyn am y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond rydym yn fwy hamddenol gyda swyddi nad ydynt yn wynebu’r cyhoedd.”

Ydy Covid wedi newid y ffordd yr ydych yn gweithio?:
“Cyn Covid, roedden ni i gyd yn gweithio ar y safle ac yn teithio i gyfarfodydd.  Mae’r Llyfrgell bellach yn cynnig gweithio’n hybrid ac mae’r rhan fwyaf o’n cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y safle yn Aberystwyth neu drwy Teams.”

Gwefan LlGC

Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr

TipDigidol 41: Gwell Nodiadau gyda Microsoft OneNote 📒

A ydych erioed wedi meddwl yr hoffech gael eich holl nodiadau gan gynnwys dogfennau neu ddogfennau PDF i gyd mewn un lle? Mae hyn yn bosibl gyda OneNote! Yn ogystal â bod yn lle gwych i storio eich nodiadau personol, oeddech chi’n gwybod y gallwch chi fewnosod allbrintiau ffeiliau gan gynnwys dogfennau PDF a thudalennau Word i fynd ochr yn ochr â’ch nodiadau? Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae mewnosod allbrintiau ffeiliau! 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr – Wythnos 2 – Clicky Media

Mae ein hail Broffil Cyflogwr gyda Clicky Media sydd wedi’i leoli ledled y DU. Un o’r sgiliau digidol hanfodol y mae Clicky Media yn ei werthfawrogi yw hyfedredd gyda LinkedIn. Edrychwch ar rai adnoddau isod i ddysgu sut i ymgysylltu’n well â LinkedIn a sut i greu proffil atyniadol:

Fersiwn Testun:

Cwmni: Asiantaeth Marchnata Digidol Clicky Media

Maint y Cwmni: 50

Sefydlwyd: 2007

Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Ar draws y Deyrnas Unedig

Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:

Rolau cynorthwyol mewn maes gwasanaeth penodol o farchnata digidol:

  • Optimeiddio peiriant chwilio
  • Hysbysebion Taledig
  • Negeseuon taledig ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Cysylltiadau Cyhoeddus Digidol

Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Dysgu Digidol – Ymgysylltu’n rhagweithiol â dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd newydd. Er enghraifft, sefyll arholiadau Google ar gyfer arholiadau a sgiliau digidol lefel mynediad yn Google analytics neu feddalwedd chwilio taledig.
Hunaniaeth Ddigidol – Hyfedredd gyda LinkedIn a’i ddefnyddio i ymgysylltu â’r diwydiant ehangach a chyfathrebu ag ef.
Creadigrwydd Digidol – Profiad o sefydlu gwefan

Sut beth fyddai diwrnod yn gweithio yn un o’ch rolau cynorthwyol?:
“Byddai’n dibynnu ar yr adran, ond strwythur cyffredinol un o’n rolau cynorthwyol yw y byddech yn cael gwaith wedi’i glustnodi i chi gan y tîm ehangach ac yna cefnogi’r uwch dîm gyda’r gwaith ar gyfer cleientiaid. Felly, gallai fod yn unrhyw beth o dynnu ymchwil o wahanol lwyfannau, i helpu gyda chyflwyniad ar gyfer strategaeth cleientiaid.”

Beth yw’r nodweddion personol rydych chi’n chwilio amdanynt mewn gweithiwr newydd?:
“Dycnwch, rhywun sydd eisiau dod i mewn i’r busnes a gyrru newid ac yna yn cyflawni’r amcanion hynny. Mae cael ymwybyddiaeth fasnachol yn wych ond mewn gwirionedd rydym yn chwilio am rywun sy’n gwybod beth maen nhw ei eisiau ac sy’n fodlon gweithio’n galed i’w gyflawni.”

Pa mor bwysig yw defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth farchnata?:
“Mae LinkedIn yn beth mor fawr yn ein sector felly mae gallu ei ddefnyddio yn ddefnyddiol iawn. Mae gennym dîm cyfryngau cymdeithasol cyflogedig felly er nad ydym yn gwneud unrhyw beth yn organig, gall cael gwybodaeth am rai llwyfannau megis Meta a TikTok a sut mae pobl yn defnyddio’r rhain fod yn ddefnyddiol iawn o safbwynt darparu i gleientiaid.”

A oes gwendidau cyffredin o ran sgiliau digidol mewn graddedigion?:
“Gwybodus am Excel ac â’r wybodaeth ddiweddaraf am y llwyfannau penodol yn bennaf. Mae graddedigion yn tueddu naill ai i beidio â gallu defnyddio systemau newydd yn gyflym iawn neu maent yn wybodus iawn am y llwyfannau, ond maen nhw am wneud popeth yn rhy gyflym, ac maen nhw’n torri corneli yn y pen draw, felly mae’n ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd rhwng y ddau mewn gwirionedd.”

Gwefan Clicky Media

Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr

Wythnos Sgiliau Aber 2024 🎉

Yn rhan o gynefino estynedig Prifysgol Aberystwyth, wythnos nesaf yw wythnos SgiliauAber! Cynhelir nifer o ddigwyddiadau, gallwch weld yr holl ddigwyddiadau ar safle SgiliauAber ond bydd y tîm Sgiliau Digidol yn rhan o dair sesiwn! Sef: 

  • Offer DA bob dydd: Wedi’i gyflwyno gan Paddy Shepperd, Arbenigwr DA Uwch Jisc, bydd y sesiwn hon yn ystyried y defnydd ymarferol o DA ar gyfer tasgau dyddiol, gan ganolbwyntio ar offer gwella cynhyrchiant megis Microsoft Copilot, Google Docs, a ChatGPT. Byddwn yn edrych ar rôl DA mewn addysg trwy gymwysiadau megis Bodyswaps ac Anywize ac yn trafod sut y gellir integreiddio’r rhain i strategaethau dysgu i wella effeithlonrwydd, cywirdeb a chynhyrchiant cyffredinol. 
  • Getting Started with LinkedIn Learning: During this session, we will demonstrate how to: 
    • Navigate the platDechrau arni gyda LinkedIn Learning:  Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn dangos sut i: 
    • Lywio’r llwyfan a chwilio am gynnwys perthnasol 
    • Dangos tystysgrifau ar gyfer cyrsiau a gwblhawyd a’ch proffil LinkedIn personol. 
    • Grwpio cynnwys yn seiliedig ar bwnc penodol, neu gynnwys yr hoffech ei wylio ar adeg arall, fel casgliadau personol 
    • Gweld nodweddion a ychwanegwyd yn ddiweddar i LinkedIn Learning 
  • Gweithdy Sgiliau Digidol: Profiad ymarferol i fyfyrwyr rhyngwladol newydd yma yn Aber ar y systemau y byddwch yn eu defnyddio (e.e. Blackboard, Panopto, Turnitin, Cofnod Myfyriwr, Primo, ac ati) a rhai systemau allanol hefyd (e.e. meddalwedd Office 365 megis Word, PowerPoint, LinkedIn Learning ac ati). 

Gallwch archebu pob sesiwn trwy safle SgiliauAber, gallwch hefyd weld yr holl recordiadau ac adnoddau o Ŵyl Sgiliau Digidol 2023

TipDigidol 40: Cysylltu â natur gyda Seek gan iNaturalist🔎🌼

Pan fyddwch yn cerdded amser cinio neu yn ystod egwyl rhwng darlithoedd, does dim byd gwell nag archwilio’r campws. Ar eich taith gerdded, efallai y dewch ar draws adar, planhigion, ffyngau, ac amffibiaid na allwch eu hadnabod. Gan ddefnyddio technoleg adnabod delweddau, bydd yr ap Seek by iNaturalist yn eich helpu i fynd â’ch gwybodaeth am natur i’r lefel nesaf! 

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Storfa Apple

Edrycha ar y canllaw poced hwn gan National Geographic neu gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae’r ap yn gweithio. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr – Wythnos 1 – Arad Goch

Mae ein Proffil Cyflogwr cyntaf gyda Chwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth. Un o’r sgiliau digidol hanfodol y mae Arad Goch yn eu gwerthfawrogi fwyaf yw defnyddio meddalwedd Microsoft. Gallwch weld casgliadau wedi’u curadu ar LinkedIn Learning ar gyfer meddalwedd Microsoft isod:

Fersiwn Testun:

Cwmni: Cwmni Theatr Arad Goch

Maint y Cwmni: 8 o staff parhaol ond hyd at 20 gyda chontractau dros dro

Sefydlwyd: 1989

Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Aberystwyth

Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:

  • Technegwyr
  • Actorion
  • Swyddog Cyswllt ag Ysgolion
  • Cynorthwyydd Gweinyddol
  • Swyddog Marchnata

Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Hyfedredd – Defnyddio meddalwedd Microsoft, meddalwedd cyflogres SAGE ar gyfer cyllid, rhaglenni meddalwedd ar gyfer rhedeg goleuadau cynhyrchu, sain ac ati.
Creadigrwydd Digidol – Adobe Photoshop ar gyfer taflenni a phosteri, dylunio a diweddaru’r wefan, meddalwedd golygu fideo
Cyfathrebu Digidol – Negeseuon e-bost a galwadau fideo

Pa mor bwysig yw’r cyfryngau cymdeithasol yn y busnes?:
“Mae’n chwarae rôl mewn llawer o’n swyddi. Mae popeth drwy e-bost nawr ond byddai angen i’r swyddogion marchnata hyrwyddo ein digwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ein holl gyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhan fwyaf o’n marchnata yn cael ei wneud trwy’r cyfryngau cymdeithasol nawr.”

Beth yw eich cyngor mwyaf i rywun sy’n ceisio cael swydd yn eich sector?:
“Profiad! Rwy’n gwybod ei fod yn dipyn o gyfyng-gyngor oherwydd allwch chi ddim cael swydd heb gael y profiad ond mae cael y profiad hwnnw, hyd yn oed trwy wirfoddoli, wir yn agor drysau!””

Ydych chi’n meddwl bod pobl yn anwybyddu pwysigrwydd sgiliau digidol yn y diwydiannau creadigol?:
“Ydyn, mae’n rhan bwysig iawn o’n diwydiant. Mae dangos yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn ffordd dda o gyfleu’r neges ac felly er enghraifft rydym yn gwneud fideos o’r cynyrchiadau i ennyn diddordeb pobl. Felly mae sgiliau mewn marchnata digidol er enghraifft yn hanfodol i ni.”

Beth nad ydych chi’n gweld digon ohono o ran y sgiliau digidol hyn?:
“Mae technegwyr yn brin iawn felly mae dod o hyd i bobl ar gyfer y rolau hynny yn eithaf anodd. Nid yw’n ymddangos bod gan lawer o bobl brofiad o farchnata chwaith.”

Gwefan Arad Goch

Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr

TipDigidol 39: Gorau arf, ymarfer: Amseroedd ymarfer yn PowerPoint 🥇

Os oes angen i chi roi cyflwyniad o fewn terfyn amser caeth, efallai yr hoffech ymarfer i gael yr amseru’n berffaith. Gyda ThipDigidol 39, gallwch ddysgu sut i ymarfer eich cyflwyniad a gweld faint o amser a ddefnyddiwyd gennych fesul sleid. Edrychwch ar y clip byr isod i weld sut i ymarfer: 

Noder y bydd angen i chi ddiffodd amseriadau sleidiau cyn i chi gyflwyno er mwyn newid y sleidiau â llaw, gallwch ddysgu sut i wneud hyn yma: Ymarfer ac amseru cyflwyniad – Cymorth Microsoft 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Cyflwyno ein cyfres newydd o ‘Broffiliau Sgiliau Digidol Cyflogwyr’!

Yr wythnos hon bydd ein cyfres saith wythnos o Broffiliau Sgiliau Digidol Cyflogwyr yn dechrau. Yn debyg i’r Gyfres Proffiliau Graddedigion a ryddhawyd gennym y llynedd, mae’r gyfres Proffiliau Cyflogwyr yn gyfres o broffiliau gan amrywiaeth o gyflogwyr i helpu i weld pa sgiliau digidol sy’n hanfodol a gwerthfawr ar draws proffesiynau amrywiol. Bydd proffil newydd yn cael ei ryddhau bob dydd Iau am 11:30 gan ddechrau’r wythnos hon gyda chwmni theatr Arad Goch! Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y proffiliau newydd bob wythnos a gallwch fynd yn ôl a darllen ein Cyfres Proffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion yma.

TipDigidol 38: Creu mapiau meddwl gydag Ayoa 🌟  

P’un ai eich bod yn trafod syniadau newydd, yn adolygu ar gyfer arholiad, neu’n cymryd nodiadau, gall mapiau meddwl fod yn adnodd effeithiol ar gyfer datrys problemau, cofio gwybodaeth, a llawer mwy! 

Mae Ayoa yn feddalwedd dwyieithog sy’n eich galluogi i greu cymaint o fapiau meddwl ag y dymunwch am ddim. Gallwch ddarllen mwy am Ayoa yn ein blogbost blaenorol. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 37: Diwygiwch eich gwaith gyda Chyfystyron yn Word 🔀

Ydych chi erioed wedi ceisio meddwl am air gwahanol i ddiwygio eich brawddeg? Nid oes angen pendroni mwyach! Gyda Thipdigidol 37, dysgwch sut i ddefnyddio’r nodwedd cyfystyron yn Word. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam isod neu gwyliwch y fideo byr i ddysgu mwy! 

Yn syml: 

  • Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y gair o’ch dewis  
  • Daliwch y llygoden dros ‘cyfystyron’  
  • Dewiswch air newydd! 
  • Dal ddim yn gweld gair priodol? Dewiswch thesawrws i weld mwy! 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!