Ymchwilio i Ddatblygiad: Dysgwch fwy am DA trwy LinkedIn Learning 🧠

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Mae DA a DA cynhyrchiol wedi ymwreiddio fwyfwy i’n bywydau p’un ai trwy ddefnydd personol neu broffesiynol. Mae gan LinkedIn Learning amrywiaeth o wybodaeth i’ch helpu i ddysgu mwy am DA gan gynnwys sut i ddefnyddio DA yn gyfrifol. Gweler isod am y 10 cwrs gorau sydd ar gael ar DA a DA cynhyrchiol ar LinkedIn Learning. Noder nad yw LinkedIn Learning ar hyn o bryd yn cefnogi cyrsiau yn Gymraeg.  

  1. Understanding the Impact of Deepfake videos (48m) 
  2. What is Generative AI? (1a 3m) 
  3. Introduction to Prompt Engineering for Generative AI (44m) 
  4. Introduction to Artificial Intelligence (1a 34m) 
  5. Get Ready for Generative AI (5m 26e) 
  6. Digital Marketing Trends (2a 30m) 
  7. Ethics in the Age of Generative AI (39m) 
  8. Generative AI: The Evolution of Thoughtful Online Search (26m) 
  9. Artificial Intelligence Foundations: Thinking Machines (1a 36m) 
  10. Generative AI for Business Leaders (57m) 

Mae LinkedIn Learning yn adnodd rhad ac am ddim sydd ar gael i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth. Os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad i’ch cyfrif LinkedIn, edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin neu gallwch anfon e-bost atom yn digi@aber.ac.uk.    

Cofiwch lawrlwytho eich adroddiadau o’r Offeryn Darganfod Digidol 📲

Mae ychydig dros wythnos yn weddill tan i’n tanysgrifiad i Offeryn Darganfod Digidol Jisc ddod i ben ar 31 Gorffennaf 2024.

Os hoffech gadw copïau o’ch adroddiadau unigol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi eu lawrlwytho cyn y dyddiad hwn, gan na fyddwch yn gallu cael mynediad atynt ar ôl 31 Gorffennaf 2024. Mae’r Cwestiwn Cyffredin hwn yn darparu canllaw cam wrth gam ar sut i wneud hyn.

Os nad ydych wedi defnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol o’r blaen, mae gennych amser o hyd i fewngofnodi a’i ddefnyddio i hunanasesu a datblygu’ch hyder gyda thechnoleg! Ewch i’n tudalen we am ragor o arweiniad.

Rydyn ni hanner ffordd trwy Her Ddysgu’r Haf! ☀

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Rydyn ni hanner ffordd trwy Her Ddysgu’r Haf, ond peidiwch â phoeni, nid yw’n rhy hwyr i ymuno â ni!

Ar gyfer Her Ddysgu’r Haf, rydyn ni wedi dod â 14 o gyrsiau byr a fideos o LinkedIn Learning ynghyd i chi eu gwylio a dysgu dros 5 wythnos. Mae’r cynnwys hwn yn amrywio o 3-8 munud a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau – o ysgrifennu awgrymiadau effeithiol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, ffotograffiaeth tirlun gyda’ch ffôn, i ddatblygu arferion cysgu gwell.

Sut ydw i’n ymuno â’r her?

  1. Os nad ydych wedi gwneud hynny eto, actifadwch eich cyfrif LinkedIn Learning (mewngofnodwch gyda’ch e-bost a’ch cyfrinair PA).
  2. Edrychwch ar y rhestr o gyrsiau byr a fideos o’r PDF isod
  3. Dewiswch un cwrs neu fideo byr i’w gwylio bob wythnos (mae cyfanswm o 5 wythnos) a chliciwch ar y dolenni yn y PDF isod i ddechrau

Sut gallaf gael cefnogaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, ebostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithio y gwnewch chi fwynhau eich haf o ddysgu!

Ymunwch â Her Ddysgu’r Haf! ☀

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Mae Her Ddysgu’r Haf yn dechrau’r wythnos hon! Rydym wedi dod â 14 o gyrsiau byr a fideos o LinkedIn Learning ynghyd i chi eu gwylio a dysgu dros y 5 wythnos nesaf. Mae’r cynnwys hwn yn amrywio o 3-8 munud a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau – o ysgrifennu awgrymiadau effeithiol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, ffotograffiaeth tirlun gyda’ch ffôn, i ddatblygu arferion cysgu gwell.

Sut ydw i’n ymuno â’r her?

  1. Os nad ydych wedi gwneud hynny eto, actifadwch eich cyfrif LinkedIn Learning (mewngofnodwch gyda’ch e-bost a’ch cyfrinair PA).
  2. Edrychwch ar y rhestr o gyrsiau byr a fideos o’r PDF isod
  3. Dewiswch un cwrs neu fideo byr i’w gwylio bob wythnos (mae cyfanswm o 5 wythnos) a chliciwch ar y dolenni yn y PDF isod i ddechrau

Sut gallaf gael cefnogaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, ebostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithio y gwnewch chi fwynhau eich haf o ddysgu!