Mae holiadur ‘Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol’ newydd ar gyfer myfyrwyr a staff bellach ar gael yn Offeryn Darganfod Digidol Jisc. Bydd yr holiadur newydd hwn yn eich helpu i hunanasesu a datblygu eich gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) yn y saith maes canlynol:
- DA a Hyfedredd Digidol
- DA Cyfrifol
- DA a Chynhyrchiant Digidol
- DA a Llythrennedd Gwybodaeth a Data
- DA a Chyfathrebu Digidol
- DA a Chydweithio a Chyfranogiad
- DA a Chreadigrwydd Digidol
Ar ôl ateb cyfres o gwestiynau, a fydd yn cymryd tua 10-15 munud, byddwch chi’n derbyn adroddiad personol a fydd yn cynnwys:
- Trosolwg o’ch hyder â Deallusrwydd Artiffisial
- Camau a awgrymir i’w cymryd
- Dolenni at adnoddau defnyddiol, wedi’u curadu gan Ganolfan Genedlaethol DA Jisc, i’ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth am DdA.
Cliciwch yma i gael mynediad at blatfform yr Offeryn Darganfod Digidol, a gwyliwch y fideo byr isod i ddysgu sut i gael mynediad i’r holiadur newydd hwn ⬇
Cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk) os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur newydd hwn, neu dewch â’ch cwestiynau i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol!