Ydych chi erioed wedi bod angen tynnu sgrinlun o sgrin eich cyfrifiadur? Efallai eich bod angen ychwanegu tudalen at eich nodiadau adolygu. Mae yna nifer o offer ar gael ond gyda TipDigidol 26 rydyn ni’n dangos llwybr byr i chi gymryd sgrinlun yn gyflym. Â
Gallwch dynnu sgrinlun o’ch sgrin trwy ddefnyddio’r llwybr byr “bysell Windows + Shift + S”. Yna gallwch naill ai agor y sgrinlun mewn golygydd neu gopïo’r ddelwedd i mewn i ddogfen, PowerPoint, OneNote a mwy!
Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad cyflym.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!