Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Gallwch ddefnyddio LinkedIn Learning i ddatblygu sgiliau amrywiol megis dysgu codio, gwella eich sgiliau Microsoft neu hyd yn oed ddysgu rhywbeth hollol newydd. Gallwch nawr ddysgu wrth fynd o le i le gydag ap symudol LinkedIn Learning. Mae hyn yn golygu y gallwch ddysgu ar eich ffôn lle bynnag a phryd bynnag y dymunwch. Efallai fod gennych egwyl am awr ar y tro ac am ddefnyddio’r amser hwnnw i ddysgu sgil newydd heb lwytho eich cyfrifiadur. Trwy ddefnyddio ap LinkedIn Learning gallwch barhau â’ch cyrsiau ar eich ffôn a chael cynnwys hawdd a hygyrch.
Mae LinkedIn Learning ar eich ffôn hefyd yn rhoi’r opsiwn i chi newid eich cyrsiau i ddefnyddio’r nodwedd sain-yn-unig ac felly os ydych chi’n hoff o bodlediadau, gallwch nawr wrando ar eich cyrsiau LinkedIn Learning wrth gerdded neu ymarfer corff. Mae’r ap hefyd yn rhoi cyfle i chi lawrlwytho cynnwys eich cwrs i’w ddefnyddio oddi ar lein. Nawr, os ydych chi’n teithio’n bell ar drên gallwch lawrlwytho eich cwrs a gwylio wrth i chi deithio. Os ydych chi’n gyrru, gallwch lawrlwytho’ch cynnwys a throi at y nodwedd sain-yn-unig i wrando a dysgu wrth yrru!
Sut ydw i’n defnyddio LinkedIn Learning ar fy ffôn?
- Ewch i’ch siop apiau symudol a chwiliwch am ‘LinkedIn Learning’
- Lawrlwythwch yr ap LinkedIn Learning
- Mewngofnodwch gyda’ch manylion PA
- Ewch ati i ddysgu!
Rhagor o gwestiynau?
Am fwy o wybodaeth darllenwch ein blogiau eraill LinkedIn Learning. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu yn cael trafferth cysylltu ag ap LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).