Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Gyda datblygiad ffonau a thechnoleg mae ap ar gyfer popeth erbyn hyn – gan gynnwys darllen! Fel darllenydd brwd rwy’n hoffi herio fy hun gydag amcanion blynyddol, trafod llyfrau gyda chyd-ddarllenwyr a chyflawni ystadegau darllen. Gyda fy nhri hoff ap darllen – mae hyn i gyd yn bosibl!
- Goodreads
Mae Goodreads yn wych ar gyfer tracio eich deunydd darllen cyfredol a chadw ar y trywydd iawn ar gyfer eich amcanion darllen.
- Gosodwch her ddarllen flynyddol i chi’ch hun a bydd Goodreads yn dweud wrthych a ydych chi ar y trywydd iawn.
- Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd.
- Cewch fathodyn os byddwch yn cyrraedd eich nod.
- Gallwch weld llyfrau yr ydych wedi’u darllen yn y blynyddoedd diwethaf.
- Gallwch greu silffoedd darllen ar gyfer eich anghenion megis “eisiau darllen”.
- Sganiwch gloriau llyfrau yn hytrach na chwilio amdanynt.
- Darganfyddwch lyfrau newydd yn seiliedig ar eich darlleniadau diweddar, cyhoeddiadau newydd a llyfrau sy’n trendio.
- StoryGraph
Mae StoryGraph yn rhoi ystadegau manwl i chi am eich arferion darllen.
- Gosodwch eich amcanion darllen blynyddol – naill ai nifer y llyfrau, nifer y tudalennau neu’r ddau! – a chewch wybod a ydych ar y trywydd iawn.
- Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd.
- Gallwch weld eich ystadegau darllen fesul mis, blwyddyn ac amrywiaeth o statws darllen megis ‘wedi darllen’, ‘heb orffen’, ‘i’w ddarllen’ a mwy.
- Gweld graffiau ar gyfer:
- Hwyliau
- Cyflymder
- Nifer y tudalennau
- Ffuglen/ffeithiol
- Genre
- Y llyfrau a ddarllenwyd wedi’u rhannu ar draws misoedd.
- Fable
Ymunwch â chlybiau llyfrau a darllenwch gydag eraill gan ddefnyddio Fable.
- Gosodwch eich amcanion darllen blynyddol.
- Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd.
- Ymunwch â chlwb llyfrau a darllen gydag eraill.
- Crëwch glwb llyfrau a dod o hyd i gymuned.
- Cymerwch gwis hwyliau i’ch helpu i ddod o hyd i’ch llyfr nesaf.
- Creu rhestr ‘i’w ddarllen’ yn seiliedig ar eich llyfrau darllen.