Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i ni i gyd yn y Tîm Sgiliau Digidol! Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi creu amrywiaeth o adnoddau a digwyddiadau newydd, gan gynnwys:
- 📚 Llyfrgell Sgiliau Digidol i fyfyrwyr a staff
- 💡 Cyfres TipiauDigi wythnosol
- 🎉 Gŵyl Sgiliau Digidol 2023 (mae’r adnoddau o’r holl sesiynau bellach ar gael o wefan yr ŵyl)
- 👩🏽🎓 Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA (Prosiect y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr)
- 💬 Sesiynau galw heibio sgiliau digidol wythnosol
- 💻 Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG – safle Blackboard i staff academaidd newydd
- 💻 Sut mae eich sgiliau digidol? – safle Blackboard i fyfyrwyr
- 🧘🏽♀️ Cyfres Lles Digidol (Prosiect y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr)
- 👨🏽💻 Casgliadau sgiliau digidol yn LinkedIn Learning i fyfyrwyr a staff
Gobeithiwn fod rhai o’r adnoddau uchod wedi bod yn ddefnyddiol i’ch cefnogi i ddatblygu eich sgiliau digidol eich hun, a hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd ac edrychwn ymlaen at barhau i’ch cefnogi yn y flwyddyn newydd!