Mae Microsoft OneNote yn ffordd wych o storio’ch holl nodiadau, trefnu eich gwaith a chreu rhestrau mewn un lle.
Gallwch greu tabiau gwahanol ar gyfer gwahanol feysydd gwaith. O fewn hyn, gallwch ychwanegu tudalennau newydd i wahanu a threfnu eich gwaith, pob un â’u penawdau ar wahân eu hunain. Gallwch liwio’ch adrannau i helpu i drefnu a chadw golwg ar eich gwaith. Gallwch hefyd greu rhestrau gwirio, tynnu sylw at wybodaeth bwysig a llawer mwy gan ddefnyddio’r nodwedd ‘tag’.
Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad ar ddefnyddio Microsoft OneNote neu dilynwch y cyfarwyddiadau isod.
- Cliciwch ar yr Eicon ‘+’ i greu adran newydd.
- Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y rhan i newid y lliw.
- Rhowch enw o’ch dewis i’r dudalen.
- Daliwch y llygoden dros y cwarel ochr dde i fewnosod tudalennau newydd.
- Ychwanegwch flychau ticio naill ai trwy ddewis y tag To Do neu drwy glicio ar ctrl + 1.
- Gallwch wneud tudalennau, is-dudalennau trwy ddewis y dudalen, clicio botwm de’r llygoden, a dewis ‘make subpage’.
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!