Efallai fod yna lawer o wahanol resymau pam yr hoffech ddysgu codio. Mae’n bosibl ei bod yn sgil yr hoffech ei hymarfer ar gyfer eich gradd; gallai fod yn hobi i chi; neu efallai fod gennych ddiddordeb mewn datblygu’r sgil hon i wella eich cyflogadwyedd.
Mae gwybod sut i godio yn sgil hynod o werthfawr, ond os ydych chi’n newydd i godio, fe allai fod yn anodd gwybod sut i ddechrau arni. Yn ffodus, mae LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein y mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim iddo, (dysgu sut i ddechrau arni), wedi lansio partneriaeth newydd gyda CoderPad.
Maent wedi lansio amrywiaeth o gyrsiau Heriau Cod newydd ar Python, Java, SQL, JavaScript, C#, a Go, a gynlluniwyd i helpu dysgwyr o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch i ddatblygu eu sgiliau codio trwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am yr heriau hyn:
Ar hyn o bryd mae 33 o Heriau Cod (ond mae hyn yn cynyddu’n barhaus), a gallwch hefyd ddysgu sut i godio ac ymarfer eich sgiliau gyda chyrsiau rhaglennu GitHub ychwanegol yn LinkedIn Learning.
Dyma ychydig o gyrsiau Heriau Cod i chi ddechrau arni!
Heriau Cod i Ddechreuwyr
- SQL Practice: Basic Queries (17m)
- Python Practice: Operations (17m)
- Go Practice: Functions (38m)
- SQL Essential Training (4awr 26m)
Heriau Cod Uwch
- Advanced Go Programming: Data Structures, Code, Architecture, and Testing (1awr 9m)
- Advanced Java: Hands-on with Streams, Lambda Expressions, Collections, Generics and More (50m)
- Hands-On Advanced Python: Data Exploration and Manipulation (1awr 56m)
- JavaScript: Five Advanced Challenges and Concepts (1awr 51m)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw ran o’r cynnwys a grybwyllir uchod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).