O 6 – 10 Tachwedd 2023 rydym yn cynnal Gŵyl Sgiliau Digidol Prifysgol Aberystwyth ac rydym yn chwilio am fyfyrwyr uwchraddedig i gyflwyno sesiynau. Gallwch gyflwyno sesiwn naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb a gall fod yn weithdy, sesiwn galw heibio neu’n arddangosiad ar sgil ddigidol neu feddalwedd yr ydych chi’n ei ddefnyddio’n fedrus. Er enghraifft, hoffem gael rhai sesiynau ar y sgiliau a’r meddalwedd canlynol:
- Pecynnau Microsoft – Hanfodol neu Uwch
- SPSS
- NVivo
- ArcGIS
- Python (neu feddalwedd rhaglennu arall)
- Adobe Photoshop
- Cyfryngau Cymdeithasol e.e. creu deunydd ar gyfer Instagram Reels, TikTok, Twitter, YouTube ac ati.
- Creu neu olygu fideos
- ProTools
- Discord
Rydym hefyd yn agored i unrhyw sgiliau neu feddalwedd arall sy’n bwysig ac y dylid eu darparu yn eich barn chi!
Os oes gennych ddiddordeb, cofrestrwch erbyn 28 Gorffennaf 2023 drwy’r ddolen ganlynol: https://forms.office.com/e/EQsxd8wdD7
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau wrth ddefnyddio’r ffurflen gofrestru, cysylltwch â ni yn: digi@aber.ac.uk