Fe wnaeth y Pencampwr Digidol Myfyrwyr gwrdd â grwpiau o fyfyrwyr yn ystod mis Mawrth 2023 i gasglu eu barn ar LinkedIn Learning, platfform dysgu ar-lein sydd ar gael am ddim i holl fyfyrwyr a staff PA.
O 6 – 10 Tachwedd 2023 rydym yn cynnal Gŵyl Sgiliau Digidol Prifysgol Aberystwyth ac rydym yn chwilio am fyfyrwyr uwchraddedig i gyflwyno sesiynau. Gallwch gyflwyno sesiwn naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb a gall fod yn weithdy, sesiwn galw heibio neu’n arddangosiad ar sgil ddigidol neu feddalwedd yr ydych chi’n ei ddefnyddio’n fedrus. Er enghraifft, hoffem gael rhai sesiynau ar y sgiliau a’r meddalwedd canlynol:
Pecynnau Microsoft – Hanfodol neu Uwch
SPSS
NVivo
ArcGIS
Python (neu feddalwedd rhaglennu arall)
Adobe Photoshop
Cyfryngau Cymdeithasol e.e. creu deunydd ar gyfer Instagram Reels, TikTok, Twitter, YouTube ac ati.
Creu neu olygu fideos
ProTools
Discord
Rydym hefyd yn agored i unrhyw sgiliau neu feddalwedd arall sy’n bwysig ac y dylid eu darparu yn eich barn chi!