Bydd y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnal grwpiau ffocws awr o hyd ym mis Mawrth i gasglu adborth gan fyfyrwyr ar eu profiadau o ddefnyddio LinkedIn Learning. Byddwch yn derbyn taleb gwerth £10 am awr o’ch amser.
Cynhelir y grwpiau ffocws hyn ar-lein ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mawrth 14 Mawrth, 11:00-12:00
- Dydd Gwener 17 Mawrth, 15:00-16:00
- Dydd Mercher 22 Mawrth, 11:00-12:00
- Dydd Mercher 22 Mawrth, 15:00-16:00
I gymryd rhan, llenwch y ffurflen fer hon i gofrestru. Mae hefyd croeso i chi gysylltu â digi@aber.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau.