Curo Straen Arholiadau gyda Thechnoleg 💻

Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan Jeffrey Clark, Pencampwr Digidol Myfyrwyr

Banner with Student Digital Champion

Y teimlad yna o suddo…

Gyda’r arholiadau ar y trothwy mae’n siŵr eich bod i gyd yn teimlo’r pwysau. Weithiau gall y pwysau yna fod yn llethol ac arwain at gyfnodau o straen a phryder difrifol. Ddylai myfyrwyr ddim gorfod teimlo hynny! Yn y blog hwn, rwyf i am drafod ambell awgrym ac ap defnyddiol a allai eich helpu chi a myfyrwyr eraill i fynd i’r afael â straen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Taro cydbwysedd âš–

Dyma enghraifft o sut y byddwn i’n trefnu diwrnod adolygu nodweddiadol ar Microsoft Teams

Mae’n gwbl normal teimlo lefelau isel neu ganolig o straen yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. Mae llawer yn digwydd! O ddarllen ac ysgrifennu traethodau i gymdeithasu gyda ffrindiau mae’n hawdd cael eich llethu o bryd i’w gilydd. Hyd yn oed os ydych chi’n wirioneddol fwynhau eich gradd, gall fod yn straen dod o hyd i amser i ymdopi â’ch modiwlau i gyd. Dyna pam rwy’n argymell rheoli eich amser a threfnu’r hyn rydych chi’n ei wneud yn hytrach na chael eich rheoli ganddo. Mae apiau fel Microsoft To-Do wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i fi gan fy mod i’n brysur drwy’r amser. Ap rheoli tasgau am ddim yn y cwmwl yw Microsoft-To-Do sydd ar gael ar gyfer cyfrifiaduron pen desg, dyfeisiau Android ac Apple. Mae’r ap yn cynnwys rhai nodweddion defnyddiol ar gyfer sicrhau eich bod ar y trywydd iawn fel calendr y gellir ei deilwra a nodiadau atgoffa y gallwch eu trefnu yn ôl eich dewis. Mae Microsoft Teams hefyd yn cynnwys calendr y gellir ei deilwra sy’n ddefnyddiol i drefnu cyfarfodydd yn ogystal â sicrhau eich bod yn cadw’n gyfredol gyda’ch tasgau prifysgol. Mae rheoli eich amser yn lleihau straen drwy leihau pethau na allwch eu rhagweld a rhoi’r gallu i chi weithio GYDA therfynau amser yn lle bod YN EU HERBYN.

Cyngor da arall ar gyfer lleihau straen arholiadau yw canolbwyntio ar un peth ar y tro. Wrth adolygu, talwch sylw i un modiwl y dydd yn unig, os gallwch chi.  Mae hyn yn ei gwneud yn haws cofio gwybodaeth ar y modiwl rydych chi’n ei astudio fydd yn gwneud sefyll arholiad llawer yn haws. Os oes rhaid i chi astudio modiwlau niferus, cofiwch roi saib ystyrlon i’ch hun yn ystod eich astudiaethau. Mae seibiau’n bwysig wrth astudio am unrhyw gyfnod. Mae cynnwys seibiau yn eich amserlen yn allweddol ar gyfer lleihau straen ac osgoi ‘llosgi allan’, y byddwn yn trafod hyn yn fanylach yn nes ymlaen yn y post hwn.

Beth sy’n eich poeni chi?

Yr Ap Day One

Arholiadau ac aseiniadau yw rhai o’r pethau sy’n peri mwyaf o straen ym mywydau myfyrwyr, ond mae’n bwysig holi ‘pam?’. Mae rhai agweddau penodol ar arholiad neu aseiniad yn brif ffactorau straen a gorbryder. Gallai hyn gynnwys arholiad ar y gorwel, deunydd anghyfarwydd, neu rywbeth yn eich bywyd personol. Gelwir y rhain yn sbardunau, sef digwyddiadau sy’n arwain at ymateb emosiynol negyddol. Pan fyddwch chi’n profi rhywbeth sy’n peri gofid i chi neu’n eich digio, ysgrifennwch amdano. Rwy’n argymell yr ap dyddiadur Day One, sydd ar gael ar Android ac iOS. Mae gan yr ap ryngwyneb defnyddiwr syml a greddfol, sy’n gadael i chi deilwra eich taith ddigidol mewn ffordd sy’n addas i chi.

Rwy’n cadw dyddiadur digidol ar ‘Day One’, i gadw golwg ar fy iechyd meddwl er mwyn osgoi blinder meddyliol a llosgi allan. Ynddo, rwy’n ysgrifennu sut rwy’n teimlo drwy’r dydd ac yn tynnu sylw at ddigwyddiadau sydd wedi achosi straen a nodyn ar sut y deliais i â nhw. Peidiwch â phoeni os na allwch chi eu cofio i gyd ar unwaith, weithiau mae sbardunau newydd yn datblygu dros amser wrth i chi archwilio pynciau newydd fel myfyriwr neu ymgymryd â mathau newydd o waith. Os oes rhywbeth newydd yn dechrau eich poeni, ysgrifennwch amdano. Does dim rhaid i chi reoli hyn i gyd ar eich pen eich hun chwaith. Mae siarad â ffrindiau, cydweithwyr, darlithwyr a’ch tiwtor personol yn gallu helpu i reoli straen. Cofiwch, mae help ar y trothwy bob amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac rwyf i wedi nodi’r cymorth sydd ar gael ar waelod y blog.

Awgrymiadau cyffredinol ar gyfer rheoli straen

Mae’r frwydr i guro straen yn gallu teimlo’n ddiddiwedd, ond gyda thechnegau da i’w reoli, does dim rhaid teimlo hynny. Nawr eich bod wedi nodi eich sbardunau, gallwch chi benderfynu sut rydych chi am ddelio â nhw. Mae’n bwysig rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o ymdrin â sefyllfaoedd o straen oherwydd dyw hi ddim yn wyddor bendant, a gallai fod angen dulliau gwahanol ar wahanol sefyllfaoedd. Ceir llu o enghreifftiau o ddulliau i ymdopi yn Mantracare.com ond dyw pob un ddim yn gweithio. Rwy’n argymell eich bod yn dod o hyd i rywbeth sy’n gweithio i chi. Mae rhai yn canfod bod siarad â ffrindiau a theulu’n helpu i leihau straen tra bo eraill yn defnyddio myfyrio. Rhowch gynnig ar wahanol ddulliau tan i chi ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi.

Osgoi llosgi allan

Ceisiwch ddychmygu straen fel balŵn. Os ydych chi’n rhoi gormod o aer mewn balŵn bydd yn popio. Yn yr un modd, os yw straen yn eich llethu, gallech losgi allan, lle rydych yn profi teimladau o flinder corfforol, meddyliol ac emosiynol (GIG). Y ffordd orau i’w osgoi yw rheoli eich straen ac yn bwysicach na dim, peidiwch â gorwneud pethau! Fel un sy’n gaeth i weithio, yn bersonol rwy’n ei chael yn anodd iawn cael seibiant, ac weithiau rwy’n sylweddoli fy mod yn dal i deipio fel pe bawn i ar awtobeilot. Weithiau dydw i ddim hyn yn oed yn sylweddoli mod i’n ei gorwneud hi ac yn gwneud pethau’n waeth i fy iechyd meddwl. Am y rheswm hwn rwyf i wedi gosod ap Free Meditation – Take a Break (ar gael ar ddyfeisiau Android ac iOS) ar gyfer adegau pan fydd angen i mi gryfhau wrth gael seibiant. Mae’r ap yn cynnwys sawl cwrs myfyrio sydd wedi’u cynllunio’n broffesiynol a gallwch ddewis cwrs myfyrio sy’n gweddu i’ch anghenion. Er enghraifft rwy’n gwneud 5 munud o fyfyrio dan gyfarwyddyd yn ystod saib o 15 munud o’r gwaith er mwyn adfywio fy meddwl.

A woman working at a computer with her hands on her head.

Mae’n hawdd teimlo nad ydych chi’n astudio digon a thrwy ddyblu’r amser rydych chi’n ei dreulio’n astudio y byddwch yn gwneud yn wych yn yr arholiad. Ond gall gor-astudio fod yr un mor niweidiol i’ch canlyniadau arholiad a than-astudio. Y ffordd orau i wybod ei bod yn bryd rhoi’r llyfrau i gadw am y dydd yw talu sylw i’ch ymatebion corfforol. Ydych chi’n dylyfu gen? Yn rhwbio eich llygaid? Mae’r rhain yn arwyddion o flinder, a dyma ffordd eich ymennydd o ddweud wrth eich corff ei fod wedi cael digon. Mae’n bwysig peidio â gorwneud eich astudio a gorffwys pan fyddwch chi wedi blino. Drwy wneud hyn byddwch yn gallu cael mwy o fudd o’ch sesiynau astudio drwy astudio gydag ymennydd sydd wedi gorffwys yn hytrach nag un blinedig.

Rhagor o gymorth ym Mhrifysgol Aberystwyth 💬

Mae llawer o wasanaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth i helpu myfyrwyr i reoli straen a chael y profiadau gorau bosibl yn ystod eu hastudiaethau. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

Student receiving one to one support from a member of staff

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*